Rygbi
Tân y Dreigiau
Caerloyw 21 Dreigiau 23
Peidiwch dweud hynny yn ardal Llanelli a gweddill De Orllewin Cymru, ond mae `na bosibilrwydd go iawn y gallai’r Dreigiau orffen y tymor yn ennill yr unig dlws i Ranbarth Cymreig yn dilyn eu buddugoliaeth ryfeddol dros y ffin bnawn dydd Sadwrn diwethaf.
Dyddiau yn unig wedi cyhoeddiad y Gwentiaid eu bod yn chwilio am berchnogion newydd a buddsoddiad i roi hwb i fusnes y Rhanbarth, gwelwyd un o’u perfformiadau gorau yn y 13 mlynedd ers iddyn nhw gael eu sefydlu.
Do, fe gyrhaeddodd y Dreigiau rownd gynderfynol Cwpan Her Ewrop y llynedd hefyd cyn derbyn crasfa drom â sgôr o 45-16 yn erbyn Caeredin yn stadiwm Murrayfield, ond falle gallwn ddisgwyl gwell ganddynt eleni wrth i’w carfan ddatblygu ac er gwaetha’u siom yn y PRO12.
Taith anodd i Dde Ffrainc sydd ar y gweill i Taulupe Faletau a’i gyd-chwaraewyr a hynny i herio Montpellier Hérault Rugby, y clwb sy’n ail yng nghynghrair y Top14 ac yn meddu ar garfan yn llawn o sêr rhyngwladol profiadol.
Prin iawn, heblaw am ffyddloniaid Rodney Parade, y bydd llawer yn rhagweld buddugoliaeth i’r Dreigiau wythnos i fory ym Mhrifddinas Languedoc- Roussillon.
Prin iawn, heblaw am ffyddloniaid Rodney Parade, yr oedd llawer wedi rhagweld buddugoliaeth y Dreigiau yn Kingsholm wythnos diwethaf, ond roedd y tîm Cymreig yn haeddu eu llwyddiant, hyd yn oed yn absenoldeb eu prif hyfforddwr, Lyn Jones, a oedd heb deithio oherwydd salwch.
Bu cryn drafod, cyn y gêm, am brofiad y dirprwy hyfforddwr, Kingsley Jones, yn gweithio yng Nghaerloyw rai blynyddoedd yn ôl a’i wybodaeth am seicoleg y cefnogwyr cartref yn y “Shed” enwog a bygythiol yn eu stadiwm.
Yn ôl ei arfer, roedd Faletau ar flaen y gad wrth i’w yrfa gyda’r Dreigiau ddirwyn at ei therfyn a’i allu fel chwaraewr a meddyliwr am rygbi yn arddangos pam y dylai barhau yn ffefryn i lanw safle’r wythwr ar daith y Llewod i Seland Newydd yn 2017.
Bydd ymadawiad Faletau i Gaerfaddon y tymor nesaf yn golled enbyd i’r Dreigiau ac yn gadael bwlch y bydd yn anodd ei lenwi yn fuan er mor dda yw’r rhaglen datblygu ieuenctid yng Ngwent.
Llwyddwyd i elwa ar gryfderau Faletau ddydd Sadwrn ac fe ddilynodd gweddill carfan y Dreigiau ei esiampl i greu cyfleoedd i’r maswr, Dorian Jones gicio pump gôl i gosbi troseddau’r tîm cartref a chadw’r Dreigiau yn gystadleuol.
Sgoriodd cyn-wythwr y Sgarlets, Ben Morgan, a’r asgellwr chwith, Steve McColl, geisiau i Gaerloyw, y cyntaf o fewn y chwarter awr cyntaf a’r ail wedi dros awr o chwarae i atgyfodi eu gobeithion hwythau yn wyneb ymdrech glodwiw’r Gwentiaid.
Ciciodd Jones ei bedwaredd gôl gosb ar 39 munud i roi rhagoriaeth o 12-11 i’r Dreigiau ar yr egwyl ac fe ehangwyd y rhagoriaeth hwnnw gyda’i bumed o fewn pedwar munud ar ddechrau’r ail hanner.
Un o uchafbwyntiau’r ornest, yn ddi-os, fodd bynnag, oedd pan giciodd cefnwr y Dreigiau, Carl Meyer, gôl gosb o 56 metr neu fwy (ac roedd ganddo ddigon o bellter yn sbâr pan groesodd y bêl y trawst) i godi’r sgôr i 18-11 o blaid ei dîm ar 54 munud.
Roedd mewnwyr y ddau dîm, Sarel Pretorius o’r Dreigiau, a chapten Caerloyw, Greig Laidlaw, wedi treulio cyfnod yr un yn y cell callio, ond llwyddodd yr Albanwr i drosi cais McColl i ddod â’r sgôr yn gyfartal ar 18-18 cyn cicio’i drydedd gôl gosb ar 71 munud i roi ei dîm ar y blaen.
Gyda’r Cymro, James Hook, yn safle’r maswr i Gaerloyw, llwyddodd y Dreigiau i wrthsefyll y bygythiadau cyson o gyfeiriad y clwb Seisnig ac fe godwyd gwarchae hwyr a fu’n bygwth eu llinell gais i symud y chwarae i 22 y tîm cartref.
Ymdrechodd y blaenwyr, gyda chymorth y mwyafrif o’r olwyr, yn nerthol i symud sgarmes yn nes fesul modfedd at linell gais Caerloyw a gwelwyd eilydd fewnwr y Dreigiau, Charlie Davies, yn tyrchu drwy daclo ofer i groesi am y cais i arwain at y canlyniad annisgwyl.
Wrth reswm, beth bynnag fydd yn digwydd wythnos i fory yn Ffrainc, enwau Davies, Meyer a Jones fydd yng nghofnodion y fuddugoliaeth, ond roedd y garfan gyfan yn haeddu clod am frwydro mor galed, er nad yw tîm presennol Caerloyw yn un o’r goreuon yn eu hanes.
Tîm y Dreigiau gurodd Caerloyw: Carl Meyer; Adam Hughes, Tyler Morgan, Adam Warren, Hallam Amos; Dorian Jones, Sarel Pretorius; Phil Price, Elliot Dee, Brok Harris; Rynard Landman, Nick Crosswell; Lewis Evans [Capten], Nic Cudd, Taulupe Faletau. Eilyddion: Boris Stankovich, Shaun Knight, Matthew Screech, Charlie Davies, Angus O’Brien, Rhys Jones.
• YN y PRO12 y penwythnos hwn, y Gweilch fydd y cyntaf i fentro, pan fyddan nhw’n croesawu Treviso i Stadiwm Liberty heno a gobeithion Rhanbarth Tawe-Nedd-Penybont o orffen yn yr hanner dwsin uchaf, er yn brin iawn, yn dal yn fyw, ond rhaid iddyn nhw dderbyn nad yw’r tymor wedi bod yn un o’u goreuon o bell ffordd.
Bydd gêm y Sgarlets yn erbyn Glasgow ar gyrion Llanelli bnawn yfory yn allweddol i’w gobeithion am fod ymhlith y pedwarawd o dimoedd fydd yn cystadlu am le yn y Ffeinal Mawreddog, gyda’r Albanwyr wedi curo Zebre yn yr Eidal nos Wener diwethaf a chyflawni naid llyffant i godi i’r trydydd safle a disodli’r Cochion oddi yno.
Gorchwyl anodd i’r Dreigiau yw herio’r Gleision ym Mharc y Cardiff Arms bnawn drennydd.
Er taw dim ond pedair buddugoliaeth ddaeth i ran y Gwentiaid yn y PRO12 ar hyd y tymor hyd yn hyn, pwy a ŵyr, falle gallan nhw ein rhyfeddu wrth adeiladu ar lwyddiant wythnos diwethaf a ffrwyno gobeithion Rhanbarth ein Prifddinas yn eu hymdrech hwythau i orffen ymhlith y chwech uchaf?