Rygbi
Un o’r penwythnosau mwyaf cyffrous yn hanes gemau darbi rhwng y Rhanbarthau Cymreig
Dreigiau 20 Gweilch 26
Sgarlets 22 Gleision 28
Yn dilyn un o’r penwythnosau mwyaf cyffrous yn hanes gemau darbi rhwng y Rhanbarthau Cymreig cyfoes, rhaid aros i weld os gall y Gleision ein synnu a gorffen ymhlith yr hanner dwsin uchaf yn y PRO12.
Bu Rhanbarth y Brifddinas fel un o adar y nos yn ddiweddar, yn closio’n llechwraidd ychydig yn nes at gyrraedd y nod o fod ymhlith y timoedd fydd yn cystadlu ym mhrif gystadleuaeth Ewrop y tymor nesaf.
Er taw dim ond tair gêm yr un sydd yn dal i’w chwarae gan bob un o dimoedd y PRO12 heblaw am Glasgow a Zebre (y ddau yn chwarae eu gêm mewn llaw yn yr Eidal heno), os gall carfan Danny Wilson barhau ar eu trywydd diweddar, byddai’n goron ar dymor ddechreuodd yn dra siomedig iddyn nhw.
Y Gleision sy’n wir haeddu’r clod yn sgîl eu buddugoliaeth haeddiannol ar Barc y Sgarlets bnawn dydd Sadwrn diwethaf, gyda sawl aelod o’r tîm yn serennu a chapten Cymru, Sam Warburton, ar frig y rhestr yn ôl llawer o gefnogwyr a sylwedyddion.
Bu chwarae agored, rhedeg gyda’r bêl a’i thrafod yn gelfydd yn rhan traddodiadol o rygbi’r Sgarlets a chlwb Llanelli ar hyd y degawdau ond y Cochion oedd y tîm arddangosodd y lleiaf o’r sgiliau hynny yn y ddwy gêm ddarbi ac roedd hi fel petaen nhw yn dioddef o ymateb diflas i guro’r Gweilch wythnos ynghynt.
Agoriad gwefreiddiol yn Rodney Parade
Gwelwyd agoriad gwefreiddiol i’r ornest gan y ddau dîm yn Rodney Parade nos Wener, pan sgoriodd Jeff Hassler i’r ymwelwyr o fewn tri munud i’r gic gyntaf a Hallam Amos yn ymateb i’r Dreigiau yn fuan wedyn wrth i’r ddau gais orffen symudiadau pasio gwych yn y naill gornel chwith a’r llall.
Er i ni weld ymdrech arferol y Dreigiau, croesodd Rhys Webb yn ei ddull arferol yntau am ail gais i’r Gweilch ac fe greodd y canolwr ifanc cyffrous, Owen Watkin, y cyfle i’w gefnwr, Dan Evans, groesi am drydydd.
 Dan Biggar wedi trosi dau o’r ceisiau, roedd Rhanbarth Tawe-Nedd-Penybont wedi creu rhagoriaeth o 19-8 erbyn yr egwyl a’r argoelion yn addawol am fuddugoliaeth gweddol gyfforddus er gwaetha absenoldeb Alun Wyn Jones a Justin Tipuric gyda Dan Lydiate ar fainc yr eilyddion ar ddechrau’r gêm.
Daeth ail gais i Amos yn gynnar yn yr ail hanner wedi iddo gicio dros ben Sam Davies (a oedd ymlaen erbyn hynny fel eilydd yn lle Hassler) a’r asgellwr yn dilyn ei gic i groesi yn y cornel chwith unwaith eto.
Gyda maswr y Dreigiau, Dorian Jones, wedi methu gyda’i ymdrechion i drosi ceisiau Amos, roedd y bwlch yn parhau yn 6 o bwyntiau cyn i flaenasgellwr y Gweilch, Sam Underhill, sgorio pedwerydd cais ei dîm i sicrhau pwynt bonws.
Cynyddwyd y bwlch i 13 pwynt gyda throsiad Biggar, ond, fel sydd wedi digwydd ar hyd y tymor, parhaodd y Dreigiau (dan gapteniaeth Taulupe Faletau, yn chwarae ei gêm gynghrair olaf yn Rodney Parade cyn gadael am Gaerfaddon) i frwydro i geisio achub y dydd.
Wrth i’r munudau dician heibio, cynyddodd y cyffro cyn i gefnwr y Dreigiau, Carl Meyer, ganfod bwlch, croesi am gais a’i drosi ei hunan i gau’r bwlch i 6 pwynt unwaith eto.
Roedd `na ond dwsin o funudau’n weddill erbyn hynny ac, er pwyso a chreu ambell gyfle yn eu hystod, methiant fu ymdrech y Dreigiau i gau’r bwlch ac fe’u gorfodwyd i fodloni ar bwynt bonws wrth gadw’r bwlch i lai na saith o bwyntiau ar y cae.
Mae casgliad y Gwentiaid o ddeg pwynt bonws wrth golli dan amgylchiadau tebyg yn fwy na nifer unrhyw dîm arall ac yn tystio i pa mor agos at lwyddo y mae carfan Lyn Jones ac, o gofio fod `na nifer o chwaraewyr addawol ifanc ar gael, falle bod `na ddyddiau gwell i ddod iddyn nhw y tymor nesaf.
Cyn hynny, wrth gwrs, mae ymweliad i Stadiwm Kingsholm amser cinio yfory i herio Caerloyw ar y gweill i’r Dreigiau yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Her Ewrop, a nhw yw unig gynrychiolwyr Cymru yng nghystadlaethau’r Cyfandir y tymor.
Penwythnos tawel
Dyna yw ffawd y triawd o Ranbarthau Cymreig eraill yr wythnos hon, gyda’r Gleision yn awyddus i gadw’u llif llwyddiannus yn rhedeg a’r Sgarlets yn gorfod llyfu ei briwiau yn dilyn eu methiant hwythau bnawn dydd Sadwrn diwethaf.
Er i’r sgôr fod llawn mor agos â’r canlyniad yng Nghasnewydd y noson gynt, byddai wedi bod yn dipyn o anghyfiawnder petai’r Sgarlets wedi llwyddo yn wyneb un o berfformiadau gorau diweddar y Gleision.
Does neb yn y PRO12 wedi sgorio cymaint o bwyntiau nag o geisiau na’r Gleision y tymor hwn ac fe welwyd pam wrth iddyn nhw garlamu ar y blaen yn gynnar ar gyrion Llanelli cyn i’r tîm cartref setlo i gywair y chwarae.
Dangosodd mewnwr Rhanbarth y Brifddinas, Lloyd Williams, ei fod yn meddu ar allu tebyg i Rhys Webb a’i wrthwynebydd uniongyrchol ar y dydd, Gareth Davies, i fylchu a rhedeg yn rymus am y cais cyntaf.
Gyda Gareth Anscombe yn trosi ac wedi cicio gôl gosb yn barod, roedd y Gleision wedi creu rhagoriaeth o 10-0 cyn i Dan Jones gicio gôl gosb ei hunan i agor cyfrif y Sgarlets.
Er i Jones ddyblu sgôr ei hunan ac un ei dîm a chau’r bwlch i bedwar pwynt, gorffennodd Tom James symudiad gwych i groesi am gais yn y cornel chwith ac, er i Anscombe fethu gyda’i ymdrech i drosi, ychwanegodd yntau gôl gosb i greu rhagoriaeth o 18-9 ar yr egwyl.
Gyda Jones a’i eilydd, Aled Thomas, yn cicio gôl gosb yr un ac Anscombe yn ymateb gydag un ei hunan yn yr ail hanner, roedd y sgôr o 21-15 yn ddigon agos i fygwth y Gleision cyn i Anscombe ei hunan arddangos ei allu cynhenid i agor y bwlch unwaith eto.
Pan aeth cic Hadleigh Parkes yn rhydd yng nghanol y cae, llwyddodd James i gael gafael ar y bêl cyn ei bwydo i’w faswr y tu mewn iddo.
Roedd `na ddigon o gefnogaeth ar gael i Anscombe allu pasio er mwyn curo’r amddiffynwyr oedd yn weddill, ond gwelodd yntau gyfle i ffug-basio a pheri dau o’r Sgarlets daro i mewn i’w gilydd yn hytrach na thaclo’r sgoriwr.
Ni chafodd Anscombe unrhyw drafferth i drosi ei gais ac, er i John Barclay gael ei wthio drosodd am gais cysur i’r Sgarlets a Thomas yn trosi, roedd yr ymdrech yn ofer ac yn rhy hwyr i effeithio ar y canlyniad.
Gorfodwyd y Gleision i chwarae’r munudau olaf heb un o hoelion wyth ei pac, y cyn-Sgarlet o ailrengwr, Josh Turnbull, ond roedd gweddill blaenwyr yr ymwelwyr, gyda'r rheng ôl o Warburton, Ellis Jenkins a Josh Navidi, ynghyd â’r prop profiadol, Taufa’ao Filise, bob amser ar flaen y gad ac yn ddigon cadarn i wrthsefyll y bygythiad.
Mae’n anodd gweld y Gleision yn cau’r bwlch o ddeng pwynt yn y Gynghrair rhyngddyn nhw a’r Sgarlets i fod ymhlith y pedwar fydd yn cystadlu am le yn y Ffeinal Mawreddog, ond gellir eu dychmygu’n gorffen ymhlith y chwech uchaf i ennill lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn yr Hydref.