Rygbi

RSS Icon
23 Mawrth 2016
Gan ANDROW BENNETT

Canu gyda’i gilydd

Cymru 67 Yr Eidal 14

Na, doedd `na ddim angen codwr canu ar y XV Cymreig yng Nghaerdydd bnawn dydd Sadwrn diwethaf wrth i Dan Lydiate a’i griw roi crasfa i’r Azzurri a sicrhau fod ein tîm rygbi cenedlaethol yn gorffen yn ail ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2016.

Cyn troi at drafod gêm olaf Cymru yn y Bencampwriaeth eleni, rhaid datgan canmoliaeth i’n tîm dan-20 mlwydd oed yn dilyn eu gorchest hwythau o gyflawni Camp Lawn haeddiannol sy’n arddangos i’r dim fod y dyfodol gweddol agos mewn dwylo da a’r gyfundrefn hyfforddi yn ei chyfanrwydd yn gweithio’n dda.

Gyda’r Eidal yn enwog am dai opera fel La Scala ym Milan a La Fenice yn Fenis, mae clywed anthem genedlaethol y wlad sef “Fratelli d’Italia” yn dueddol o’n hatgoffa o ambell aria opera, ond ryn ni’n dal i aros i weld eu tîm rygbi hwythau yn ymddangos yn gyson fel corws sy’n gyfarwydd â chanu gyda’i gilydd.

I’r gwrthwyneb yn llwyr, fodd bynnag, dechreuodd pob aelod o dîm Cymru ar yr un nodyn cyn gorffen gyda crescendo mawreddog i dawelu’r ymwelwyr unwaith eto a’u hanfon nôl gartref â’r llwy bren yn eu meddiant am flwyddyn arall.

O fewn pedair munud i’r gic gyntaf, lleddfwyd ein gofid am weld ailadrodd digwyddiadau Twicenham pan groesodd y mewnwr, Rhys Webb, am gais sydd mor nodweddiadol o’i chwarae trwy fylchu o fôn sgarmes yn agos at y llinell.

O weld ei faswr, Dan Biggar, yn cicio dwy gôl gosb yn ystod y chwarter awr canlynol ac amddiffyn yr Eidalwyr yn cael ei ymestyn fel darn o elastig a oedd ar fin torri, roedd hi’n anochel y deuai mwy o geisiau.

Biggar ei hunan greodd a sgoriodd yr ail gais ar 28 munud, wrth iddo fylchu yng nghanol y cae, cyfnewid pasiau gyda Jamie Roberts cyn croesi dan y pyst i wneud y gwaith o drosi ei gais ei hunan yn hawdd.

O fewn tri munud i’r trosiad hwnnw, gwelwyd un o geisiau gorau’r tymor, wrth i olwyr Cymru redeg â’r bêl o’u 22 eu hunain gan ei thrafod a’i phasio’n gelfydd a chywir i ryddhau Jonathan Davies a’r canolwr yn curo capten yr Eidal, Sergio Parisse, yn gyfforddus i groesi am gais arall dan y pyst.

 rhagoriaeth o 27-0 i Gymru erbyn yr egwyl, roedd y gêm, i bob pwrpas, wedi ei hennill erbyn hynny a’r gobaith am wledd o rygbi agored wedi cynyddu i blesio’r cefnogwyr Cymreig yn dilyn y siom yn Nhwicenham wythnos ynghynt.

Pasio celfydd gan George North ganiataodd Roberts i groesi am bedwerydd gais Cymru o fewn pedwar munud i ddechrau’r ail hanner a phoen yr Eidalwyr yn cynyddu i ddinistrio’u tymor yn llwyr.

North ei hunan oedd y nesaf i groesi am gais yn fuan wedyn a’i redeg nerthol a thwyllodrus yn ormod i’r Azzurri ddygymod ag ef wrth iddo sgorio mewn pedair gêm ryngwladol yn olynol i efelychu record Shane Williams.

Gorfodwyd y cefnogwyr Cymreig i aros rhai munudau cyn i Liam Williams sgorio chweched cais ei dîm a hynny’n golygu fod pob un o olwyr Cymru heblaw’r asgellwr Hallam Amos wedi croesi.

Llwyddodd yr Eidalwyr eu hunain i sgorio dau gais ar 53 munud (trwy eu mewnwr Guglielmo Palazzani) ac ar 61 munud (eu canolwr Gonzalo Garcia yn croesi), ond doedd `na ddim gwir berygl y byddai Cymru’n colli’r dydd.

Ar ôl sgorio 39 pwynt cyn i’r Azzurri agor eu cyfrif eu hunain, cadwodd Cymru at yr un trywydd, gyda Ross Moriarty (ymlaen fel eilydd cynnar yn lle Justin Tipuric) yn sgorio dau gais i arddangos ei allu fel rhedwr grymus.

Erbyn cais cyntaf Moriarty, roedd Rhys Priestland ar y cae fel eilydd yn safle’r maswr yn lle Biggar ac, ynghyd â throsi ceisiau’r blaenasgellwr, gwelwyd yntau’n mwynhau’r rhyddid i redeg a gwelwyd yr eilydd fewnwr, Gareth Davies, yn sgorio nawfed cais i Gymru yn eiliadau ola’r ornest.

 Priestland yn trosi eto, roedd y cyfanswm o bwyntiau Cymreig yn record newydd yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, ond a oedd hynny yn ddigon o gysur yn dilyn colli i Loegr a gweld y Saeson yn cyflawni Camp Lawn ychydig oriau’n ddiweddarach?

Yr ateb syml, wrth gwrs, yw na fydd gweld ein cymdogion daearyddol yn creu rhagoriaeth o’r fath ac fe fydd Warren Gatland a’i gyd-hyfforddwyr yn sicr o ddechrau gweithio ar dalu’r pwyth yn ôl, eto yn Nhwicenham ar 29 Mai cyn teithio i Seland Newydd i chwarae tair Gêm Brawf yn erbyn y Teirw Duon.

Tîm Cymru gurodd yr Eidal: Liam Williams (Sgarlets); Hallam Amos (Dreigiau), Jonathan Davies (ASM Clermont), Jamie Roberts (Harlequins), George North (Northampton); Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch); Rob Evans (Sgarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Sgarlets), Bradley Davies (Wasps), Luke Charteris (Raçing 92), Dan Lydiate (Gweilch [Capten]), Justin Tipuric (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Ken Owens (Sgarlets), Gethin Jenkins (Gleision), Aaron Jarvis (Gweilch), Jake Ball (Sgarlets), Ross Moriarty (Caerloyw), Gareth Davies (Sgarlets), Rhys Priestland (Caerfaddon), Gareth Anscombe (Gleision).  

Rhannu |