Rygbi

RSS Icon
10 Mawrth 2016
Gan ANDROW BENNETT

Nawr amdani!

Dim newid yn nhîm rygbi Cymru ar gyfer yfory, yr ail ymweliad i stadiwm rygbi cenedlaethol y Saeson yn Nhwicenham y tymor hwn, ond mae triawd o chwaraewyr yn dychwelyd o anafiadau i gryfhau ac atgyfnerthu mainc yr eilyddion.

Yn dilyn curo’r Ffrancod bythefnos yn ôl ac er gwaetha’r feirniadaeth o ambell gyfeiriad, mae Warren Gatland a’i gyd-hyfforddwyr wedi arddangos eu ffydd yn y criw sy’n parhau i feddu ar bosibilrwydd o orffen yn Bencampwyr y Chwe Gwlad er na ddaw Coron Driphlyg na Champ Lawn i Gymru eleni.

Gyda’r atgof yn fyw o’r fuddugoliaeth Gymreig yn Ne Orllewin Llundain yng Nghwpan y Byd ychydig fisoedd yn ôl, bydd y tîm a’r cefnogwyr yn teithio’n hyderus i gadeirlan rygbi Lloegr ac yn gobeithio chwalu gobeithion Lloegr o gipio Coron Driphlyg eu hunain, rhywbeth a fyddai’n eu cadw ar y llwybr am Gamp Lawn hefyd.

Oes, mae gan dîm y Rhosyn Coch hyfforddwr newydd, Eddie Jones, sy’n meddu ar gyfenw Cymreig ac mae ganddo brofiad eang yn cynnwys yr orchest o arwain Siapan i fuddugoliaeth dros Dde Affrica yn gynnar yng Nghwpan y Byd 2015 cyn i’r Springboks chwalu ymdrech Cymru yn rownd yr wyth olaf.

Does a wnelo digwyddiadau fisoedd yn ôl ddim byd i ddylanwadu ar ymdrechion Sam Warburton a’i gyd-chwaraewr, criw sydd bellach yn brofiadol iawn ac a ddylai fod wedi elwa o’r profiad o fethu â churo’r Gwyddelod ar benwythnos cyntaf Pencampwriaeth 2016.

Mae’n dda gweld y prop Paul James ar gael i gymryd ei le ar y fainc tra bod Gethin Jenkins yn dioddef o anaf i goes ac mae Luke Charteris wedi gwella o’i anaf yntau i figwrn ac wedi cymryd rhan cyflawn yn yr ymarfer ar hyd y dyddiau diwethaf.

Yn y cyfamser, mae’n fonws enfawr fod y mewnwr Rhys Webb nôl ar fainc yr eilyddion wedi chwe mis o absenoldeb yn sgîl anaf difrifol yn ystod y gemau paratoi ar gyfer Cwpan y Byd.

Manteisiodd Gareth Davies, mewnwr y Sgarlets, ar absenoldeb Webb, gan sgorio hanner dwsin o geisiau a rhedeg yn rymus mewn modd nad sydd yn annhebyg i ambell rediad ei gyd-fewnwr.

I raddau helaeth, gellid dadlau taw Davies sy’n meddu ar y ddawn orau o redeg yn gyflym a chryf o bellter, ond byddai dilynwyr selog y Gweilch yn gwrth-ddadlau taw eu mewnwr hwythau sy’n meddu ar yr holl sgiliau cyflawn.

Penderfyniad Gatland yw cadw’r blaenwyr ddechreuodd yn erbyn Ffrainc ac mae llawer yn gweld yr wythwr, Taulupe Faletau, a’r ailrengwr, Alun Wyn Jones, ymhlith y goreuon yn y byd yn eu safleoedd ar hyn o bryd ac yn allweddol yn y frwydr i sicrhau digon o feddiant o’r bêl.

Os gall y pac sicrhau digon o feddiant o’r bêl mae gan yr olwyr ddigon o arfau i greu cyfleoedd i George North ac Alex Cuthbert ar y ddwy asgell ac i’r cefnwr cyffrous, Liam Williams.

Mae rhedeg grymus Jamie Roberts a gallu Jonathan Davies i fylchu unrhyw amddiffyn yng nghanol y cae yn fygythiad i unrhyw amddiffyn tra bod cicio cywir Dan Biggar at y pyst yn parhau i fod yn rhan allweddol o ymgyrch Cymru.

Dydy hi ddim yn hawdd darogan canlyniadau gemau Cymru yn erbyn Lloegr, yn arbennig yn Nhwicenham, ond mae’r galon a’r ymennydd yn dweud taw Warburton fydd yn arwain y tîm buddugol y tro hwn.

Tîm Cymru i wynebu Lloegr: Liam Williams (Sgarlets); Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (ASM Clermont), Jamie Roberts (Harlequins), George North (Northampton); Dan Biggar (Gweilch), Gareth Davies (Sgarlets); Rob Evans (Sgarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Sgarlets), Bradley Davies (Wasps), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Gweilch), Sam Warburton (Gleision [Capten]), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Ken Owens (Sgarlets), Paul James (Gweilch), Tomas Francis (Caerwysg), Luke Charteris (Raçing 92), Justin Tipuric (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch), Rhys Priestland (Caerfaddon), Gareth Anscombe (Gleision).


 

Rhannu |