Rygbi

RSS Icon
20 Mai 2011
Androw Bennett

Prifddinas Rygbi Ewrop?

BYDD sylw rygbi Ewrop wedi’i droi at ein Prifddinas heno ac yfory er nad oes `na’r un tîm Cymreig yn chwarae yn un o’r ddwy ffeinal i’w chwarae yma yng Nghymru. Yn eironig, collodd ein Rhanbarthau bob diddordeb yn nghystadleuthau Cwpanau Ewrop Heineken ac Amlin nôl ym mis Ionawr a phawb ohonom yn gwybod erbyn hynny taw yng Nghaerdydd y byddai’r ddwy gêm derfynol.

Gyda’r tocynnau wedi bod ar werth ers misoedd, falle bod `na nifer o Gymry wedi prynu rhai yn barod, ond prin iawn fydd y Dreigiau Coch i’w gweld yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer ffeinal yr Amlin heno rhwng yr Harlequins a Stade Français ac uchafbwynt y tymor yfory yn ffeinal yr Heineken rhwng Leinster a Northampton yn Stadiwm y Mileniwm.

Gyda chartref yr Harlequins ar gyrion Llundain, Stade Français yn un o’r ddau glwb mawr ym Mharis a Leinster yn chwarae yn Nulyn, bydd cynrychiolaeth o dair gwahanol Prifddinas ym Mhrifddinas Cymru dros y penwythnos i ddiflasu llawer o’n cefnogwyr brodorol. Er hynny, dylai’r achlysur fod yn ysbrydolaeth i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr ar gyfer y tymor nesaf.

Gyda ffeinal yr Amlin i’w chwarae heno am 7.45, bydd `na ddiwrnod o ddathlu’n y Brifddinas yfory, wrth i Gwpan Heineken gyrraedd Bae Caerdydd mewn hofrennydd tua hanner dydd. Yna bydd Raphael Ibanez (cynrychiolydd Paris 2010, lle cynhaliwyd y ffeinal llynedd) yn ei gyflwyno i Ieuan Evans ar ran Caerdydd 2011. Bydd Ibanez ac Evans yn cludo’r Cwpan ar fws agored trwy’r ddinas i Bentre Pencampwyr Ewrop ym Mharc y Cardiff Arms.

Er taw cefnogwyr Northampton a Leinster fydd amlycaf o gwmpas y Stadiwm a’r cyrion yfory, bydd rhai o chwaraewyr blaenllaw Cymru, megis James Hook, Alun Wyn Jones, Lee Byrne a Leigh Halfpenny yn y Pentre Pencampwyr, gyda phob Cymro’n gobeithio am well llwyddiant y tymor nesaf, er gwaetha’r eironi fod Hook a Byrne ar fin gadael i chwarae draw yn Ffrainc am y dyfodol agos.


Dim Ffeinal Mawreddog Chwaith

Diflannodd ein gobeithion am weld un o’r Rhanbarthau Cymreig yn chwarae yn Ffeinal Mawreddog Cynghrair Magners nos Sadwrn diwethaf. Er ymdrech ddewr y Gweilch yn erbyn Munster yn Luimneach, rhwng dwy dalaith Wyddelig y chwaraeir y Ffeinal wythnos i fory a ninnau Gymry’n gwylio o hirbell.

Gadawodd Rhanbarth Tawe-Nedd-Penybont bethe’n rhy hwyr o lawer cyn cadw’r bêl yn fyw ar ddiwedd gornest ddaeth â phedwaredd buddugoliaeth dros y Gweilch i Munster yn ystod y tymor. Gyda’r tymor, felly, wedi gorffen i’n clybiau a’n Rhanbarthau, dechre o ddifrif ar gynllunio ar gyfer Cwpan y Byd sydd nesaf ar y gweill i’n tîm cenedlaethol a’r gêm yn erbyn y Barbariaid ymhen pythefnos yn ddiweddglo i’r tymor presennol.

Rhannu |