Rygbi
Draw dros y don
LLWYDDODD y Gweilch i ennill eu lle yn Ffeinal Mawreddog Cynghrair Magners y llynedd trwy guro Glasgow yn Stadiwm Liberty. Taith dros y môr a’i donnau i Barc Thomond yn Luimneach nos yfory, fodd bynnag, sy’n wynebu’r unig Ranbarth Cymreig ymhlith y pedwar sy’n cystadlu am le’n y Ffeinal eleni’n dilyn noson hynod gyffrous o rygbi wythnos yn ôl.
Bu ond y dim i’r Gweilch fethu â chyrraedd y rownd gynderfynol wrth i’r Sgarlets a’r Gleision wefreiddio a’n gosod ar bigau drain ar gyrion tre Llanelli nos Wener. Roedd angen i’r Sgarlets guro Rhanbarth y Brifddinas, sgorio pedwar cais, cipio pwynt bonws a dibynnu ar y Gweilch yn colli’n yr Eidal i Aironi er mwyn ennill y ras i fod ymhlith y pedwar uchaf ar ddiwedd y tymor go-iawn.
Er i’r Gleision fynd ar y blaen o 23-20 am gyfnod byr yn gynnar yn yr ail hanner, croesodd y Sgarlets am y pedwar cais angenrheidiol cyn diwedd y noson gan sicrhau buddugoliaeth gyfforddus o 38-23 a chipio’r pwynt bonws yn y fargen.
Tra’r oedd yr hanner cyntaf yn gystadleuol ar Barc y Sgarlets gyda’r blaenwyr, Iestyn Thomas a Ben Morgan yn croesi i’r tîm cartref a Chris Czekaj a Dafydd Hewitt i’r ymwelwyr, sgoriodd yr Albanwr, Sean Lamont, ddau gais i’r Cochion wedi’r egwyl gan ddifetha ymdrech y Gleision.
Doedd hynny, fodd bynnag, ddim yn ddigon o glywed fod y Gweilch wedi llwyddo i guro Aironi o 12-10 gyda gôl gosb James Hook ar 75 munud yn ennill yr ornest wedi i Dan Biggar gicio tair gôl gosb gynharach i gadw Rhanbarth Tawe-Nedd-Penybont yn gystadleuol yn y gêm, hynny er gwaethaf un o berfformiadau mwyaf tila diweddar y tîm.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA