Rygbi
Hemisffer gwag
De Affrica 23 Cymru 19
Seland Newydd 62 Ffrainc 13
Ariannin 43 Iwerddon 20
Awstralia 35 Yr Alban 34
Do, fe orffennodd diddordeb Hemisffer y Gogledd yng Nghwpan y Byd Rygbi dros y penwythnos diwethaf gyda’r pedwar tîm fydd yn cystadlu yn y rownd gynderfynol fory a drennydd i gyd yn aelodau o Bencampwriaeth Hemisffer y De.
O ran y cyffro dros y pedair gêm yn rownd yr wyth olaf, roedd yr achlysur fel brechdan gyda’r gyntaf a’r olaf fel dwy dafell flasus o chwarae grymus gan ddau dîm wedi eu llenwi gan ddwy ornest unochrog nad oedd yn llwyr mor ddeniadol heblaw i’r buddugwyr yn y ddau achos.
Tra gwelwyd Cymru a’r Alban yn brwydro i’r eithaf yn erbyn y Springboks a’r Walabîs, ildiodd y Ffrancod a’r Gwyddelod fel taeogion a rhoi rhwydd hynt i’w gwrthwynebwyr hwythau.
Er y siom i ninnau drigolion Gogleddol y blaned o weld mawrion Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cwympo un ar ôl y llall, rhaid i ni edmygu’r modd y mae’r pedwar tîm buddugol wedi adeiladu momentwm ar gyfer cymalau hwyr y gystadleuaeth eleni.
O gofio’r modd y curodd Siapan Dde Affrica ar gyrion dinas Brighton ar benwythnos cynta’r gystadleuaeth, mae’n dipyn o ryfeddod gweld y tîm gollodd y diwrnod hwnnw wedi adennill parch dilynwyr y gamp a chyrraedd y rownd gynderfynol.
Yn anffodus i dîm Cymru, roedd momentwm a dyfalbarhad y Proteas (enw sy’n fwy addas erbyn hyn ar gyfer yr “Enfys-Genedl”) wedi tyfu’n ddigonol i drechu’n ffefrynnau ninnau amser te ddydd Sadwrn a chwalu’r gobeithion o wella ar yr ymdrech yn Seland Newydd bedair blynedd yn ôl.
Wrth gynnal post-mortem ar ymgyrch Cymru yn ei chyfanrwydd, gellir honni i dactegau’r capten, Sam Warburton, yn ystod cyfnod allweddol yng ngornest olaf eu Grŵp yn erbyn Awstralia pan oedd dau o’r gwrthwynebwyr yn y cell callio, gostio’n ddrud iawn.
Beth bynnag am hynny, crëwyd sawl cyfle euraid i greu bwlch cynnar digonol i ennill y dydd ddydd Sadwrn diwethaf eto, tra ildiwyd cyfleoedd dianghenraid i Handré Pollard, maswr De Affrica, i gicio goliau cosb.
Roedd y ddau ailrengwr, Alun Wyn Jones a Luke Charteris yn euog o ildio ciciau cosb dwl, gyda’r chwaraewr tal o Landeilo yn newid cyfeiriad ei rediad unwaith i amharu yn anghyfreithlon ar lwybr gwrthwynebydd a gwneud hynny reit o dan drwyn y dyfarnwr o Loegr, Wayne Barnes.
Er hynny oll, mae pob aelod o garfan Cymru a gymerodd ran yng Nghwpan y Byd 2015 yn haeddu mesur hael o ganmoliaeth am eu hymdrechion a neb yn haeddu mwy o glod na’r haneri, Dan Biggar a Gareth Davies.
Gyda maswr y Gweilch yn profi ei hunan yn giciwr cywir o bob pellter ac o bob ongl, rhaid cyfaddef na welwyd colli’r anffodus Leigh Halfpenny o ran cronni pwyntiau nac o ddilyn ciciau uchel i adennill meddiant o’r bêl.
Llwyddodd mewnwr y Sgarlets i greu tipyn o hanes personol ar hyd yr ymgyrch trwy sgorio pump cais, gyda’r un yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn yn arddangos i’r dim gallu’r haneri i gyfuno’n effeithiol.
Roedd Biggar wedi cicio’r bêl yn uchel a’i hadennill yn wyneb ymdrechion gwrthwynebwr ac, wrth iddo fygwth cael ei daclo, gwelodd fod Davies ar garlam ychydig lathenni i’r dde yn barod i dderbyn pas i groesi er cael ei daclo ar y llinell gais.
Daeth y sgôr hwnnw yn haeddiannol yn dilyn sawl ymdrech a syrthiodd wrth ymyl y lan o George North yn cael ei daclo pan ymddangosai’n anochel y byddai’n sgorio yn y cornel chwith i bas Gethin Jenkins yn rhy gryf dros ben Tyler Morgan pan oedd y canolwr ifanc yn rhydd ar yr asgell dde a rhediad clir o’i flaen.
Gyda chicio proffidiol Biggar a chais Davies wedi creu rhagoriaeth o 19-18 i Gymru erbyn 64 munud o’r chwarae a phum gôl gosb a gôl adlam Pollard yn unig yn ymateb oddi wrth y gwrthwynebwyr, llwyddwyd i wrthsefyll ymosodiadau yn dwyn i gof y fuddugoliaeth yn erbyn yr Iwerddon nôl ym mis Mawrth.
Cadwyd y sgôr felly am 10 munud ac, wrth i’r ornest dynnu at ei therfyn, tyfodd y gobeithion am fuddugoliaeth ryfedd i efelychu camp 2011 o gyrraedd y rownd gynderfynol.
Hawliodd capten De Affrica, Fourie du Preez, wedi’r gêm, fodd bynnag, iddo sylwi fod chwaraewyr Cymru i’w gweld yn gynyddol flinedig ar ôl awr o chwarae a’i fod ef a’i dîm yn awchu i fanteisio ar hynny.
Boed hynny’n wir neu beidio, du Preez ai’i wythwr, Duane Vermeulen, gyfunodd i greu cyfle i’r mewnwr profiadol i groesi am gais ar 75 munud, pan ddenwyd Alex Cuthbert i mewn o’i asgell gan Vermeulen i greu’r gofod i du Preez sgorio ac mae’n debyg nad oedd modd cysuro chwaraewr y Gleision yn dilyn camgymeriad costus.
Gwelwyd Cymru’n colli mewn modd torcalonnus a’r ornest yn un, fel yn erbyn y Walabîs wythnos ynghynt, y gellid fod wedi ei hennill oni bai am frychau mân ac adlam y bêl yn mynd o blaid y gwrthwynebwyr, ynghyd, yn anffodus, ag ambell nam tactegol ac anhrefn achlysurol.
O leiaf, dyna’r teimlad ymhlith chwaraewyr a chefnogwyr Cymru nos Sadwrn, ond, yn dilyn gweld Ffrainc a’r Iwerddon yn cael eu chwythu i ffwrdd yn eu gemau hwythau, torrwyd calonnau’r Albanwyr mewn modd mwy creulon fyth.
Roedd y Sgotiaid wedi brwydro’n ddygn a chroesi am dri chais i’w gosod 34-32 ar y blaen yn erbyn Awstralia cyn i’r dyfarnwr, Craig Joubert, o Dde Affrica roi cic gosb ddadleuol yn erbyn Jon Welsh am gamsefyll.
Llwyddodd maswr y Walabîs, Bernard Foley, i gicio gôl gosb gydag ond eiliadau’n weddill i’w chwarae ac yna, o wylio’r “drosedd” ar fideo, sylweddolwyd nad oedd Welsh yn camsefyll am taw eilydd-fewnwr Awstralia, Nick Phipps, oedd yr olaf i gyffwrdd y bêl cyn Welsh.
Roedd capten yr Alban, Greig Laidlaw, a’u hyfforddwr, Vern Cotter, dan fwy o deimlad nag y bu Warburton 24 awr ynghynt yn dilyn y fath drychineb a bu cryn drafod am Joubert ar hyd y dyddiau canlynol yn dilyn gweld y dyfarnwr yn carlamu o’r maes wedi iddo chwythu ei chwiban i orffen y gêm
Wrth inni edrych nôl dros y gystadleuaeth o safbwynt Cymreig, mae’n anochel nodi i Warren Gatland a’i gyd-hyfforddwyr weld y rhestr o gleifion yn tyfu’n gyson i beri anawsterau a brofodd yn anorchfygol yn y diwedd.
Clod, fodd bynnag, i bawb oedd yn ymwneud ag ymgyrch Cymru am beidio â defnyddio’r holl anafiadau yn esgus am fethu’r tro hwn a gallwn ond dymuno gwellhad buan i’r holl gleifion a rhwydd hynt ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad fydd yn cychwyn ym mis Chwefror.