Rygbi

RSS Icon
24 Awst 2015

Amserlen newydd gemau byw Clwb Rygbi

Bydd gemau byw Clwb Rygbi o’r Guinness Pro 12 ar gyfer tymor 2015-2016 yn  cael eu darlledu ar S4C ar amser newydd – 2.15 ar brynhawn Sul - gan ddechrau gyda gêm Y Gleision yn erbyn Zebre ar Sul, 6 Medi.

Bydd gêm Y Gleision yn erbyn yr Eidalwyr (cic gyntaf 2.30) yn cael ei darlledu’n fyw o Barc yr Arfau, Caerdydd fel rhan o arlwy cyffrous chwaraeon S4C ar gyfer y Sul yn cynnwys gemau byw'r Guinness Pro 12, goreuon rygbi Ffrainc - y Top 14 am 4.30 ac uchafbwyntiau o wahanol chwaraeon yn Clwb am 5.00.  

Bydd gwasanaeth rhad ac am ddim Clwb Rygbi o’r Guinness Pro 12 a chystadlaethau clwb eraill ar brynhawniau Sul yn ychwanegol i raglenni’r sianel o Gwpan Rygbi’r Byd 2015. Bydd y sianel yn cynnig gwasanaeth swmpus o gemau byw, uchafbwyntiau a rhaglenni trafod a dadansoddi o  Gwpan Rygbi’r Byd. Yn ystod y twrnamaint ac ar ambell adeg arall, bydd amseriad darlledu Clwb Rygbi weithiau’n amrywio.

Mae isdeitlau Saesneg a sylwebaeth Saesneg ar gael drwy'r gwasanaeth botwm coch/dewis iaith ar gyfer gemau byw.

Meddai Sue Butler, Golygydd Chwaraeon S4C: "Mae darlledu gêm fyw o’r Guinness Pro 12 ar yr amser newydd yn golygu bydd prynhawniau Sul yn llawn cyffro i ddilynwyr y gêm yng Nghymru. Gan fod y frwydr am leoedd yn y gystadleuaeth Cwpan Ewrop wrth galon ymgyrch y gynghrair, bydd pob gêm yn cyfri. Bydd hyn i gyd ar ben ein gwasanaeth cynhwysfawr Cwpan Rygbi’r Byd 2015, felly gall bawb sy’n caru rygbi edrych ymlaen am fisoedd cyffrous o wylio S4C.”

Cyflwynydd Clwb Rygbi, cynhyrchiad BBC Cymru ar S4C, fydd Gareth Roberts gyda Gareth Charles yn sylwebu. Meddai Geoff Williams, Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru, “Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i gynhyrchu tymor arall o raglenni byw Clwb Rygbi. Mae’r gwerthoedd cynhyrchu uchel a safon glodwiw tîm cyflwyno BBC Cymru yn helpu i wneud Clwb Rygbi yn un o gyfresi blaenllaw’r Sianel. Rydym yn gobeithio bydd yr amser newydd yn blatfform i sicrhau parhad llwyddiant y brand a’r gwasanaeth.”

Bydd Clwb Rygbi yn darlledu nifer o gemau darbi rhwng y rhanbarthau Cymreig yn ystod y tymor gan gynnwys Dreigiau v Gleision ddydd Sul 27 Rhagfyr a’r Gleision v Scarlets Ddydd Calan, Gwener 1 Ionawr.

Ymhlith y gemau byw eraill Guinness Pro 12 sydd wedi eu cadarnhau ar gyfer wythnosau cyntaf y tymor mae Gweilch v Munster ddydd Sul 13 Medi a Zebre v Scarlets ddydd Sul 4 Hydref.  

Glasgow Warriors ddaeth i’r brig y tymor diwethaf ar ôl buddugoliaeth sylweddol yn erbyn Munster yn y Ffeinal, y tro cyntaf i dîm o’r Alban ennill y Gynghrair. Roedd hi’n stori gymysg i ranbarthau Cymru ac mi fydd y pedwar rhanbarth yn gobeithio gwella’u perfformiadau dros y tymor newydd. Bydd nerth a dyfnder sgwad pob rhanbarth yn dra phwysig yn gynnar yn y tymor gyda’u chwaraewyr cenedlaethol i ffwrdd ar ddyletswyddau Cwpan Rygbi’r Byd.

Yn dilyn Clwb Rygbi ar brynhawn Sul bydd rhaglen Top 14: Rygbi Ffrainc gyda goreuon y gêm yn y brif Gynghrair Ffrengig yn cael eu darlledu am 4.30. 

 Ar ôl prynhawn o rygbi gafaelgar ar S4C bydd Clwb, sioe chwaraeon y Sianel, nôl am 5.00 yng nghwmni’r cyflwynwyr Dylan Ebenezer a Geraint Hardy.

Wedi’i chynhyrchu gan gwmni Rondo Media yn fyw o’i stiwdios yng Nghaernarfon, fe fydd Clwb yn cynnwys pêl-droed o Uwch Gynghrair Cymru, seiclo, ralïo, rhedeg ac athletau ymhlith chwaraeon eraill.  

Rhannu |