Rygbi

RSS Icon
14 Awst 2015
Gan ANDROW BENNETT

Gormod o arbrofi

Cymru 21 Iwerddon 35

Nid dyma’r canlyniad yr oedd y miloedd a heidiodd i Stadiwm y Mileniwm bnawn dydd Sadwrn yn ei ddisgwyl er i’r ornest gael ei disgrifio ymlaen llaw fel un “gyfeillgar” a phawb yn ymwybodol nad yw unrhyw ornest ryngwladol yn un wir gyfeillgar.

Oes, mae rhaid cydnabod taw tîm arbrofol a ddewisodd Warren Gatland a’i gyd-hyfforddwyr wrth gymryd y cam cystadleuol cyntaf ar y ffordd i Gwpan y Byd fis nesaf.

Does dim amheuaeth, fodd bynnag, nad oes `na gystadlu go iawn yn mynd rhagddo rhwng nifer o chwaraewyr sy’n ceisio bod yn aelod o’r garfan derfynol o 31 ar gyfer yr Her Fawr, fydd yn cychwyn gyda gêm yn erbyn Uruguay ar 20 Medi yng Nghaerdydd.

Un peth sy’n sicr yn dilyn colli i’r Iwerddon yw y bydd sawl Cymro a chwaraeodd yn cael eu gollwng o’r garfan gyda nifer sylweddol o sylwedyddion yn darogan taw dyna oedd ymddangosiadau olaf Michael Phillips a James Hook yng nghrys coch ein tîm cenedlaethol.

Doedd `na ddim sicrwydd ar ddechre’r wythnos pryd yn union y byddai Gatland yn rhoi’r newyddion drwg i’r chwaraewyr cyntaf fyddai’n cael eu gollwng ac roedd blaenasgellwr y Gweilch, Justin Tipuric, yn barod â’u gyffes fod pawb yn teimlo’n nerfus wrth baratoi i dreulio’r cyfnod nesaf o ymarfer yng Ngogledd Cymru yn hytrach na Gwlad Pwyl.

Yn sgîl ei berfformiad clodwiw arferol ddydd Sadwrn yn cyflawni dyletswyddau’r is-gapten ynghyd â gweithio’n ddiwyd yn safle’r blaenasgellwr ochr olau’r sgrym, does dim angen i Tipuric ofidio am ei le yn y garfan derfynol, er y bydd e’n parhau, yn ôl pob tebyg, yn israddol i Sam Warburton.

Yn absenoldeb capten y garfan, ynghyd â’r mwyafrif o sêr Cymru, roedd wynebu her y Gwyddelod yn mynd i fod yn dalcen hynod galed i’w ddringo ac fe wireddwyd y gofidion yn gynnar wrth i’n cefndryd Celtaidd greu bwlch enfawr yn y sgôr.

O weld yr ymwelwyr yn sgorio pump cais ar hyd yr ornest a chreu rhagoriaeth o 25-7 erbyn diwedd yr hanner cyntaf cyn ei ymestyn i 35-7, roedd hi’n dipyn o gamp i Gymru adennill ychydig o hunan-barch â’r sgôr terfynol.

Diffygion amddiffynnol ildiodd geisiau cynta’r gêm i wythwr a chapten Iwerddon, Jamie Heaslip, a’r canolwr, Darren Cave, cyn i’r profiadol Keith Earls, fanteisio ar y bêl yn cael ei tharo’n rhydd oddi ar ben-glin Eli Walker yn dilyn tacl rymus ar asgellwr y Gweilch a’r canolwr Gwyddelig arall yn gwibio’n ddi-wrthwynebiad am drydydd cais ei dîm.

Cydweithio celfydd rhwng Tipuric a Richard Hibbard ar flaen lein greodd gyfle i’r bachwr groesi am unig gais Cymru yn yr hanner cyntaf, er i Walker fod o fewn dim i sicrhau ail gais ond iddo golli rheolaeth o’r bêl wrth geisio’i thirio.

Sgoriodd Simon Zebo, ymlaen fel eilydd yn lle Andrew Trimble, a Felix Jones geisiau eraill Iwerddon a Paddy Jackson yn cicio dwsin o bwyntiau i godi’r cyfanswm yn un tra sylweddol i dorri’n calonnau.

Ceisiau cysur yn unig oedd un yr un i Tipuric a’r asgellwr, Alex Cuthbert, er mor gelfydd oedd y gwaith arweiniodd at y ddau sgôr, gyda’r is-gapten yn arddangos i’r dim pa mor amryddawn yw e ar y cae rygbi wrth dwyllo’r darpar-daclwyr geisiodd ei rwystro rhag sgorio.

Dim ond yn eiliadau ola’r ornest y sgoriodd Cuthbert ei gais yntau i roi cyfle i Gareth Anscombe, a oedd erbyn hynny ymlaen fel eilydd yn lle Hook, i arddangos ei allu fel ciciwr wrth drosi’r cais o’r ystlys.

Roedd Hook wedi trosi cais Hibbard o’r ystlys, ond doedd chwarae’r maswr ddim yn llwyr argyhoeddi ac mae gan Anscombe well cyfle i barhau yn y garfan, fel sydd gan ei fewnwr gyda’r Gleision, Lloyd Williams.

O ran y blaenwyr ar y cae ddydd Sadwrn, doedd `na ddim digon o awch yn eu chwarae cyffredinol, heblaw am Tipuric, gyda Ross Moriarty, er iddo dreulio cyfnod yn y cell callio am ddefnydd or-rymus o fraich mewn tacl, yn arddangos ei addewid arferol.

Wrth inni ddeall fod Gatland wedi canolbwyntio ar drwytho’r chwaraewyr mewn cyfundrefn o greu ffitrwydd dros eu mis cyntaf gyda’i gilydd, gwelwyd yn amlwg fod angen i’r rhai oedd i’w gweld wythnos diwethaf dreulio llawer mwy o amser yn trafod y bêl os am ddod yn agos at dalu’r pwyth yn ôl i’r Gwyddelod yn Nulyn ymhen pythefnos.

Tîm Cymru wynebodd yr Iwerddon: Hallam Amos (Dreigiau); Alex Cuthbert (Gleision), Tyler Morgan (Dreigiau), Scott Williams (Sgarlets, [capten]), Eli Walker (Gweilch); James Hook (Caerloyw, Michael Phillips (Raçing Métro); Nicky Smith (Ospreys), Richard Hibbard (Caerloyw), Aaron Jarvis (Gweilch), Jake Ball (Sgarlets), Dominic Day (Caerfaddon), Ross Moriarty (Caerloyw), Justin Tipuric (Gweilch[is-gapten]), Dan Baker (Gweilch).

Eilyddion: Rob Evans (Sgarlets), Kristian Dacey (Gleision), Scott Andrews (Gleision), James King (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau), Lloyd Williams (Gleision), Gareth Anscombe (Gleision), Matthew Morgan (Bryste).


 

Rhannu |