Rygbi
Y Rhyfelwyr yn ennill y frwydr
AETH Wigan Warriors i frig cynghrair Super League yn dilyn y fuddugoliaeth hon gyda phum cais yn yr hanner gyntaf gan Pat Richards, Josh Charnley, Sam Tomkins, Thomas Leuluai a Brett Finch.
Ychwanegodd Pat Richards y trosiadau a ddaeth y sgôr yn 30-0 i’r ymwelwyr. Sgoriodd Charnley, Michael McIlorum a Tomkins geisiau yn yr ail hanner i sicrhau’r grasfa.
Daeth ymateb y Crusaders gan Gareth Thomas, Michael Witt a Stuart Reardon.
Golygai’r canlyniad fod Wigan yn drydydd o ran gwahaniaeth pwyntiau yn unig tu ôl i Warrington a Huddersfield.
Bydd gêm nesaf y Crusaders yn erbyn Leeds Rhinos yn y Challenge Cup nos yfory yn stadiwm Headingley Carnegie (cic gyntaf 3.15pm).
Bydd y gêm gynghrair nesaf ar y Cae Ras nos Wener, 13 Mai, yn erbyn Wakefield Trinity Wildcats (cic gyntaf 8.00yh). Tocynnau o’r swyddfa yn y Cae Ras ar 0871 2219511 neu ewch i www.crusadersrfl.com
Colli eto oedd hanes South Wales Scorpions wrth iddynt gael eu trechu gan Keighley Cougars 46-26 ar gae Cougar Park ddydd Sul diwethaf. Sgoriodd y tîm cartref wyth cais i drechu’r bechgyn o Gastell Nedd ond ymatebodd y Scorpions gyda ceisiau gan Aled James, Andrew Gay (2), Lee Williams a Dalton Grant. Nid oedd eu hymdrechion yn ddigon fodd bynnag gyda phrofiad Keighley yn amlwg o’r cychwyn.
Bydd gêm nesaf y Scorpions yn erbyn Oldham RLFC ddydd Sul, 15 Mai, yng Nghlwb Rygbi Caerffili (cic gyntaf 3.00yp); un o ddwy gêm a fydd yn cymryd lle yng Nghaerffili tra bydd y cae ar Barc y Gnoll yn cael ei ail-hadu.
Llun: Sgoriodd Gareth Thomas gais i'r Crusaders