Rygbi
Noson fawr
HON yw’r flwyddyn gyntaf pan fod holl gêmau rownd olaf Cynghrair Magners yn cael eu chwarae ar yr union run pryd gyda phedair o’r chwe gornest yn meddu ar y gallu i ddylanwadu ar safleoedd yn y gystadleuaeth i gyrraedd y Ffeinal Mawreddog. Mae Munster wedi hen ennill eu lle ymhlith y pedwar uchaf ac yn sicr o chwarae’u gêm gynderfynol ar eu tomen eu hunain, ond y gêm fawr heno fydd honno ar Barc y Sgarlets, pan fydd y Gleision yn herio’r tîm cartref a’r ddau glwb yn meddu ar obaith i fynd ymlaen i’r cymal nesaf.
Mae buddugoliaeth yn hollbwysig i Ranbarth y Brifddinas yn dilyn eu colled i’r Dreigiau wythnos yn ôl a’u methiant i gipio hyd yn oed un pwynt i gynyddu’u goruchafiaeth dros y Gweilch yn y pedwerydd safle yn y tabl. Gydag ond un pwynt yn gwahanu’r Gleision a’r Gweilch, gallai pwyntiau bonws fod yn hynod werthfawr heno, gyda gorchwyl Rhanbarth Tawe-Nedd-Penybont i’w weld yn haws nag un y Rhanbarthau eraill.
Cyn eu taith fer i Gasnewydd bnawn Gwener ddiwethaf, gwelai rhai’r Gleision fel ffefrynnau i ennill lle ymhlith y pedwar uchaf, ond chwalwyd eu gobeithion gan berfformiad gwefreiddiol y Dreigiau. O’r seithfed munud, pan sgoriodd y cefnwr ifanc, Steffan Jones, gais gwych ar ei ymddangosiad cyntaf i’r Dreigiau, roedd hi’n amlwg yn brynhawn anodd i garfan Dai Young ac, er i Sam Warburton a Xavier Rush sgorio cais yr un, diweddglo campus y Gwentiaid anfonodd y Gleision gartre’n waglaw.
Gydag Aled Brew’n sgorio ail gais i’r Dreigiau cyn adfywiad y Gleision, diweddglo grymus y tîm cartref sicrhaodd fuddugoliaeth gofiadwy dros yr hen elynion a hynny’n argoeli’n dda ar gyfer y tymor nesaf er gwaetha’r siom y tymor hwn o fethu ag ennill lle ymhlith y ceffylau blaen. Sgoriwyd 13 o bwyntiau’n ddi-ateb yn ystod chwarter ola’r gêm yn Rodney Parade gyda chais blaenwyr yn wobr i ddycnwch yr eilydd, Andrew Coombs, ynghyd â gôl gosb o hirbell i Steffan Jones a gôl adlam i fewnwr y Dreigiau, Wayne Evans.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA