Rygbi

RSS Icon
28 Mai 2015
Gan ANDROW BENNETT

Gorffen yn waglaw

Munster 21 Gweilch 18

Bu ond y dim i Ranbarth Tawe-Nedd-Penybont gyrraedd Ffeinal Mawreddog y PRO12 wedi gornest hynod gyffrous arweiniodd at ddiweddglo siomedig yn Luimneach bnawn dydd Sadwrn diwethaf, canlyniad a welodd y Gweilch yn gorffen y tymor yn waglaw ond tymor arddangosodd addewid mawr ar gyfer dyfodol a ddylai fod yn un llewyrchus.

Er taw siom ddaeth i ran y Gweilch wrth i’r dyfarnwr Cymreig, Nigel Owens, chwythu ei chwiban i orffen y gêm ym Mharc Thomond, bu ond y dim i Alun Wyn Jones a’i garfan gyrraedd y Ffeinal fydd yn cael ei chwarae yn Belfast bnawn yfory.

Roedd Glasgow wedi curo Ulster o 16-14 yn Scotstoun y noson cynt a dim ond cais hwyr D T H van der Merwe a throsiad Finn Russell sicrhaodd na fyddai’r Albanwyr yn creu record o fod yn dîm cyntaf i golli gartre yn rownd gynderfynol y PRO12.

Er nad oedd llawer o ddilynwyr rygbi ar hyd a lled Cymru wedi disgwyl tymor llwyddiannus i chwaraewyr ifainc y Gweilch, fe’n rhyfeddwyd wrth iddyn nhw ddatblygu’n rymus ac ennill eu saith gêm gyntaf yn y PRO12 i osod sylfaen ar gyfer sicrhau parhau i geisio cyrraedd y Ffeinal tan y penwythnos olaf.

Cyrhaeddodd y Gweilch Luimneach felly yn meddu ar y nod a’r gobaith o greu hanes trwy fod y tîm cyntaf i ennill ODDI cartref yn y rownd gynderfynol a’r atgof yn fyw o fod wedi curo Munster ddwywaith yn barod ar hyd y tymor.

Dechreuodd y Rhanbarth Cymreig yn ddigon grymus nôl yng Ngorllewin yr Iwerddon am yr ail bnawn Sadwrn o’r bron ac fe geisiodd eu maswr, Dan Biggar, gicio gôl adlam o fewn y funud gyntaf ond i’w annel fod yn anghywir.

Ildio rhagoriaeth o 11-3 erbyn yr egwyl oedd ffawd y Gweilch y tro hwn a gweld Munster yn cynyddu eu rhagoriaeth yn fuan wedi dechre’r ail hanner, ond llwyddwyd i ffrwyno’r tîm cartref rhag rhedeg i ffwrdd â’r ornest a chreu sefyllfa lle roedd y canlyniad yn y fantol tan yr eiliadau olaf.

Gôl gosb gan Biggar ar 13 munud i agor y sgorio oedd unig sgôr ei dîm yn ystod y 40 munud cyntaf, gyda’i wrthwynebydd, Ian Keatley, yn cicio dwy gôl gosb ond yn methu trosi cais hwyr Simon Zebo.

O weld y modd y rhedodd wythwr Munster, C J Stander, a’r blaenasgellwr, Paddy Butler, i greu’r cyfle i Zebo groesi, ymddangosai’r her a wynebai’r Gweilch wedi’r egwyl yn un fwy hyd yn oed na’r disgwyl.

Cadwodd y tîm cartref y momentwm o’u plaid ar ddechrau’r ail hanner, gan adeiladu cymal ar ôl cymal cyn creu’r cyfle i’w canolwr, Denis Hurley, guro ymdrech amddiffynnol Eli Walker a chroesi am ail gais Munster.

Dim ond dros gyfnod byr yr edrychodd pethau’n ben set ar y Gweilch, wrth i Rhys Webb rhyng-gipio pas Stander o fôn sgrym yn hanner Munster a rhedeg yn ddi-wrthwyneb am gais manteisgar a dangos nad oedd yr ymdrech Gymreig wedi marw’n llwyr.

Methodd Biggar â’i ymdrech i drosi’r cais ac o fewn dau funud roedd Munster wedi sgorio’u trydydd cais wrth i’w blaenwyr roi cyfle i’r eilydd-fewnwr, Duncan Williams, greu’r gofod i Butler groesi’r gwyngalch.

Doedd ymdrechion glew y Gweilch ddim wedi eu llad, fodd bynnag, ac fe redodd yr asgellwr, Jeff Hassler yn rymus ar hyd hanner y cae i sgorio cais wrth y pyst i Biggar allu trosi’r tro hwn.

Ar ôl i Josh Matavesi greu cyfle gyda rhediad gwych cyn ei wastraffu trwy basio’n ddianghenraid, ciciodd Biggar gôl gosb i ddod â’i dîm o fewn triphwynt i’w gwrthwynebwyr a hynny’n arwain at ddiweddglo gadwodd sylw pawb yn gwylio tan yr eiliad olaf.

Er i Keatley gicio dwy gôl gosb yn ystod y gêm, gwastraffodd maswr Munster sawl cyfle i sgorio mwy o bwyntiau gyda’i ymdrechion diffygiol a bu’r methiannau bron bod yn gostus iawn i’w dîm a phan ddaeth cyfle i ran yr eilydd, J J Hanrahan, methodd yntau hefyd.

Os oedd `na ddrama wedi’i weld yn gynharach yn yr ail hanner, cadwyd y cyffro mwyaf tan eiliadau ola’r ornest, wrth i Matavesi fylchu yn y cymal diwethaf cyn y terfyn a chroesi am y cais a fyddai wedi sicrhau buddugoliaeth i’w dîm.

Yn anffodus i’r Gweilch a’i canolwr, roedd Webb wedi taro’r bêl ymlaen wrth ei chodi o fôn sgarmes ar ddechrau’r symudiad ond roedd Nigel Owens wedi gadael i’r chwarae fynd rhagddo rhag ofn y gallai Munster fanteisio ar y drosedd.

Wrth i’r Gweilch ddathlu a chefnogwyr Munster wawdio’r dyfarnwr, gofynnodd Owens yn bwyllog i’r Swyddog Teledu am ei gyngor a doedd `na ddim amheuaeth nad oedd Webb yn euog o’r drosedd ac felly doedd dim dewis ond gwrthod caniatáu cais Matavesi.

Eiliad ffug o orfoledd, felly, i’r Rhanbarth Cymreig cyn dioddef siom a phoen wrth fethu yn y munudau olaf a hynny’n ailadrodd y siom hwyr bythefnos yn ôl o golli’r fantais o chwarae gartref wythnos diwethaf, rhywbeth a brofodd yn hollbwysig yn y diwedd.

Ar ôl dod o fewn trwch blewyn o gael chwarae gartref yn y rownd gynderfynol, dim ond yr ennyd anffodus `na o gamdrafod y bêl barodd y Gweilch i fethu ag ennill wythnos diwethaf a’r dechnoleg fodern yn cadarnhau i benderfyniad Owens i wrthod cais hwyr olygu fod y tîm yn dychwelyd yn waglaw i Gymru.

Tîm y Gweilch: 15 Dan Evans; 14 Jeff Hassler, 13 Ben John, 12 Josh Matavesi, 11 Eli Walker; 10 Dan Biggar, 9 Rhys Webb; 1 Nicky Smith, 2 Scott Baldwin, 3 Dimitri Arhip; 4 Tyler Ardron, 5 Alun Wyn Jones; 6 Dan Lydiate, 7 Justin Tipuric, 8 Dan Baker.

Eilyddion: 16 Sam Parry, 17 Marc Thomas, 18 Aaron Jarvis, 19 Rory Thornton, 20 James King, 21 Tom Habberfield, 22 Sam Davies. (Ni ddaeth Jonathan Spratt i’r cae.)

Llun: Rhys Webb

 


 

Rhannu |