Rygbi

RSS Icon
19 Mawrth 2015
Gan Androw Bennett

Amddiffyn allweddol

Cymru 23 Iwerddon 16

Ydy, mae ymgais ein tîm rygbi cenedlaethol i ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2015 yn parhau yn fyw yn dilyn un o’r gemau mwyaf rhyfeddol a welwyd erioed gyda gwaith amddiffynnol y Cochion yn allweddol ar ddiwrnod yn llawn emosiwn i Sam Warburton (yn gapten ar Gymru am y 34ain tro) a Paul O’Connell (capten Iwerddon yn ennill ei 100 cap).

Na, o edrych nôl dros yr 80 munud o chwarae, doedd `na ddim digon o chwarae agored ond, am unwaith ac yn arbennig i ninnau Gymry, roedd `na fwy na digon o ddiddanwch er y bydd y Gwyddelod, yn chwaraewyr a dilynwyr, yn rhyfeddu na fu’r crysau gwyrddion yn fuddugol.

Yn dwyn i gof cyfnodau o fuddugoliaeth ym Mharis ddeng mlynedd yn ôl, bu llinell gais Cymru dan warchae ddydd Sadwrn diwethaf am funudau hirion o bryd i’w gilydd ar hyd yr ornest gydag un cyfnod parhaol o 8 munud pan ymddangosai’n amhosib cadw’r Gwyddelod rhag sgorio cais.

Gorfodwyd chwaraewyr Cymru i daclo yn ddi-baid gyda’r ailrengwr, Luke Charteris, yn gosod record newydd (31) o dacliadau cyflawn mewn gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a’r tîm yn ei gyfanrwydd yn cyflawni mwy na dwbl nifer y Gwyddelod.

Bu cryn drafod dros y dyddiau ers yr ornest am safon y rygbi gyda chewri Cymreig y gamp, fel “Y Brenin” ei hunan, Barry John, yn cyfeirio ati fel un o’r gwir uchafbwyntiau yn hanes y gêm yn ein gwlad.

Yn y cyfamser, dirmyg a gwawd am y gêm a safon chwarae Cymru oedd prif nodweddion rhai sylwebyddion o’r Iwerddon a thu hwnt i Glawdd Offa er gorfod cydnabod pa mor ddygn a llwyddiannus y bu ymdrechion amddiffynnol Warburton a’i griw.

Cyfaddefodd y capten taw hon oedd un o’r gemau mwyaf anodd y chwaraeodd ynddi ac yn cydnabod pa mor flinedig oedd y gwaith amddiffynnol wrth i’r Gwyddelod hyrddio drosodd a thro a gwneud popeth ond sgorio.

Oedd, roedd `na elfen fyrbwyll yn chwarae’r ymwelwyr yn ystod yr ail hanner, gyda’r blaenwyr yn dioddef o “haint y llinell wen” ac yn anwybyddu’r ffaith, fwy nag unwaith, fod ganddyn nhw ddynion yn rhydd yn agos at yr ystlys.

O ran yr anwybyddu hynny, ydy, mae’n wir fod y safon (safon y Gwyddelod, wrth reswm, nid safon Cymru!) wedi bod yn israddol ac wedi rhoi cyfle i’r amddiffynwyr i ad-drefnu a chreu amheuon ym meddyliau’r ymosodwyr.

Dechreuodd chwaraewyr Iwerddon yr ornest mewn modd tra siomedig, gan ildio cyfleoedd i Leigh Halfpenny gicio pedair gôl gosb cynnar a rhoi rhagoriaeth o 12-0 i Gymru o fewn y chwarter awr cyntaf, bron cyn i O’Connell a’i dîm setlo.

Yn wir, roedd chwarae’r Gwyddelod yn frith o gamgymeriadau a’u maswr, Jonny Sexton, mor euog â neb wrth iddo ganolbwyntio unwaith ar roi cyfarwyddyd i’w gyd-chwaraewyr ar draul derbyn pas.

Siom oedd gweld y prop grymus, Samson Lee, yn gadael y cae wedi ond 12 munud o chwarae gydag anaf sy’n mynd i’w gadw allan o’r gamp am rai misoedd a, gyda’r prop arall, y profiadol Gethin Jenkins, yn methu ag ymddangos ar gyfer yr ail hanner, edrychai pethau’n dywyll ar sgrymio Cymru wrth i’r Gwyddelod godi hwyl wedi’r egwyl.

Pob clod, felly, i’r chwaraewyr am eu hymdrechion dan amgylchiadau anodd, yn arbennig o weld y canolwr, Jamie Roberts, yn gadael y cae gydag 20 munud yn weddill i’w chwarae.

Yn fuan wedi iddo gamu i gymryd lle Roberts, sgoriodd ei eilydd, capten y Sgarlets Scott Williams, gais gwych gyda bylchiad ardderchog i ailadrodd ei gamp tebyg yn Nhwicenham dair blynedd yn ôl.

Mae’n anffodus i Williams bod Roberts a Jonathan Davies yn gyfoedion iddo neu mi fyddai’n sicr o chwarae llawer mwy o gemau dros ei wlad, ond, ar y llaw arall, mae ei allu i gamu o fainc yr eilyddion a newid cwrs gornest wedi profi’n allweddol i Gymru unwaith eto.

Gyda Halfpenny yn cicio cyfanswm o bump gôl gosb a’r maswr, Dan Biggar, yn cicio gôl adlam wych, cronnwyd digon o bwyntiau i wrthsefyll bygythiad yr Iwerddon a’u hunig gais yn un cosb amheus wedi’i ddyfarnu gan Wayne Barnes.

Oes felly, mae gan Gymru obaith tenau am orffen yn Bencampwyr er fod angen sgorio nifer fawr o bwyntiau draw yn Rhufain yfory yng ngêm gyntaf y gyfres olaf o gemau y tymor hwn a Warren Gatland wedi’i orfodi i gynnwys Rob Evans ac Aaron Jarvis yn lle Lee a Jenkins yn rheng flaen y sgr?m.

Nôl ar y fainc y bydd Scott Williams yn erbyn yr Eidal, gyda dau gyd-Sgarlet, y bachwr Ken Owens a’r mewnwr Gareth Davies yno hefyd yn lle Richard Hibbard a Michael Phillips a bu rhaid ychwanegu Rhys Gill a Scott Andrews i’r garfan oherwydd anafiadau Lee a Jenkins.

Bydd pob Cymro ar bigau’r drain wedi’r gêm yn Rhufain, a phawb ohonom yn gorfod aros i weld canlyniadau’r gemau rhwng yr Alban a’r Iwerddon ym Murrayfield a rhwng Lloegr a Ffrainc yn Nhwicenham, gyda’r triawd o wledydd y’u henwyd olaf i gyd yn meddu ar gyfle i orffen yn uwch yn y tabl na Chymru.

Rhannu |