Rygbi

RSS Icon
13 Mawrth 2015
ANDROW BENNETT

Angen creu lwc

Yn hwyr ar nos Wener gyntaf mis Chwefror eleni, cerddodd y miloedd o gefnogwyr rygbi Cymru yn siomedig allan o Stadiwm y Mileniwm yn credu fod wythnosau diflas yn eu hwynebu gyda’r hunllef yn fyw o weld Lloegr ar y brig erbyn diwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Erbyn hyn, fodd bynnag, gyda phob un o’r gwledydd wedi chwarae tair gêm, dim ond yr Iwerddon sy’n meddu ar record 100% a hwnnw yn y fantol bnawn yfory pan ddaw Paul O’Connell a’i griw i Gaerdydd i geisio cadarnhau eu safle yn ffefrynnau i gipio Camp Lawn.

Yn dilyn perfformiad gwych y Gwyddelod bythefnos yn ôl yn curo’r Saeson yn gyfforddus o 19-9, y gri gan lawer o gefnogwyr Cymreig yw fod angen tipyn o lwc ar ein tîm cenedlaethol os am ennill yfory a chreu ychydig obaith am orffen yn Bencampwyr fel yn 2013 ar ôl curo Lloegr yn hawdd y flwyddyn honno o 30-3.

Y gwir yw, fodd bynnag, fod angen i Sam Warburton a’i gyd-chwaraewyr i greu eu lwc eu hunain yn hytrach nag aros iddo ddod i’w rhan.

Gyda blaenasgellwr y Gleision yn torri record Ryan Jones yfory drwy fod yn gapten ar ein tîm rygbi cenedlaethol am y 34ain tro, mae gan y garfan yn ei chyfanrwydd ddigon o brofiad i allu creu’r lwc angenrheidiol.

Bydd naw o’r XV llwyddiannus ddechreuodd y gêm dyngedfennol yn erbyn Lloegr ddwy flynedd yn ôl yn chwarae yfory ac, o gofio’r modd y crëwyd y lwc i guro’r ymwelwyr y diwrnod hwnnw, mae `na gynsail digonol ar gyfer ceisio ailadrodd y gamp eleni eto.

Bydd y Gwyddelod, wrth reswm, wedi bod yn astudio’r modd y llwyddodd y Saeson i lyffetheirio llinell tri-chwarter Cymru, ond mae George North, Jonathan Davies, Jamie Roberts a Liam Williams yn parhau yn arf grymus o bob rhan o’r cae a’r pedwarawd yn meddu ar y gallu i syfrdanu’r cefnogwyr a goroesi’r gwrthwynebwyr.

Heblaw am yr angen i fod ar eu gwyliadwriaeth i sgubo ambell friwsionyn o gyfle pan ddaw pêl rydd i’w rhan, gall y tri-chwarteri ddibynnu ar wasanaeth Dan Biggar, sy’n aeddfedu fel maswr amryddawn, yn basiwr, ciciwr, rhedwr a thaclwr grymus.

A dyna droi at Rhys Webb a’i allu i dwyllo amddiffynwyr yn gyson wrth fylchu yn agos at gymalau tynn y gamp ac amrywio’i chwarae’n gelfydd i ryddhau’r rhedwyr y tu allan iddo neu i ysbrydoli’r blaenwyr ym mhob agwedd o’r chwarae.

Tu ôl i’r tîm cyfan, mae Leigh Halfpenny yn ymddangos unwaith eto fel craig gadarn yn amddiffynnol, yn sicr o dan y bêl uchel, bob amser yn barod i wrthymosod (fel y byddid yn ei ddisgwyl gan gyn-asgellwr o’r safon uchaf) a’i gicio anhygoel at y pyst yn arf pwysig yn strategaeth Cymru.

O ran y blaenwyr, rhyfeddwyd llawer wrth weld Richard Hibbard yn colli’i le yn ddewis cyntaf yn safle’r bachwr, ond mae Scott Baldwin yn profi yn ddewis teilwng fydd yn ennill ei wythfed cap yfory, gyda Hibbard wrth gefn ar y fainc yn eilydd grymus pan ddaw’r angen.

Mae prop ifanc y Sgarlets, Samson Lee, yn parhau i’n rhyfeddu, wrth iddo ddatblygu i fod yn chwaraewr allweddol a chryf ac yn ffodus yn ei gyd-brop profiadol, Gethin Jenkins, wrth i hwnnw chwarae dros Gymru am y 114ed tro yfory.

Fel Jenkins, mae’r ailrengwr, Alun Wyn Jones, yn parhau i brofi’n gonglfaen yn chwarae tynn y pac a’i gyfraniadau achlysurol i’r chwarae rhydd yn elfen gwerthfawr o’i allu hefyd tra bod Luke Charteris, o’r diwedd i raddau helaeth, yn gyfrannwr teilwng i sawl agwedd o strategaeth Cymru yn hytrach nag ond yn neidiwr uchel yn y leiniau.

Wrth droi at reng ôl y sgr?m, mae taclo Dan Lydiate i’w gymharu â gwaith torrwr coed a hyrddiadau nerthol Taulupe Faletau o fôn y cymalau tynn yn llawn mor bwysig ag ymdrechion yr wythwr Gwyddelig, Jamie Heaslip, sy’n ymddangos yn holliach unwaith eto yn dilyn anaf peryglus i’w gefn.

Does `na ddim modd osgoi troi unwaith eto at gapten Cymru ac fe fyddai’n ddiwrnod mawr i Warburton petai ei dîm yn ei helpu i ddathlu achlysur hanesyddol yn ei hanes personol ac ni fydd neb yn fwy ymwybodol o’r angen iddo yntau ei hunan gyfyngu Jonathan Sexton, yn dilyn y newyddion fod maswr y Gwyddelod yn ddigon iach i wynebu Cymru.

O gofio fod Sexton yn cael ei gyfri fel y gorau yn y byd yn ei safle ar hyn o bryd gan lawer o ddilynwyr y gamp, bydd angen i Warburton fod ar ei orau, yn arbennig o weld y bydd ei wrthwynebydd fel capten, ailrengwr Iwerddon, Paul O’Connell, yn chwarae dros ei wlad am y 100ed tro.

Ond, trwy greu ei lwc ei hunan ac ysbrydoli gweddill tîm Cymru, gallwn ond dymuno’n dda i’r capten a gobeithio y daw’r fuddugoliaeth i agor y drws ar gyfle i deithio i Rufain ymhen wythnos a’r argoelion am fod yn Bencampwyr unwaith eto yn parhau yn fyw.

Tîm Cymru i wynebu’r Iwerddon:

Leigh Halfpenny (Toulon); George North (Northampton), Jonathan Davies (ASM Clermont Auvergne), Jamie Roberts (Raçing Métro), Liam Williams (Sgarlets); Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch); Gethin Jenkins (Gleision), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Sgarlets); Luke Charteris (Raçing Métro), Alun Wyn Jones (Gweilch); Dan Lydiate (Gweilch), Sam Warburton (Gleision) [Capten], Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Richard Hibbard (Caerloyw), Rob Evans (Sgarlets), Aaron Jarvis (Gweilch), Jake Ball (Sgarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Michael Phillips (Raçing Métro), Rhys Priestland (Sgarlets), Scott Williams (Sgarlets).

 


 


 

Rhannu |