Rygbi
Rhoi cweir arall i Ffrainc?
Ar ôl rhoi cweir go iawn i Ffrainc â sgôr o 27-6 yng Nghaerdydd y llynedd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, curo’r un gwrthwynebwyr ym Mharis o 16-6 ddwy flynedd yn ôl a chipio Camp Lawn drwy ennill yn eu herbyn yn 2012, mae Sam Warburton a’i griw wedi teithio’n llawn hyder ar gyfer y gêm yn y Stade de France nos yfory.
Er colli i Loegr bythefnos cyn iddi fod yn gael a chael ar adegau yn erbyn yr Alban, mae’n tîm rygbi cenedlaethol wedi dangos fwy nag unwaith ar hyd y blynyddoedd diweddar eu bod yn gallu gwyrdroi dechreuad llipa a gorffen y Bencampwriaeth yn gystadleuol.
Dydy Cymru ddim wedi colli i Ffrainc ers y diwrnod tyngedfennol hwnnw yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd dair blynedd yn ôl yn Seland Newydd pan ddyfarnodd Alain Rolland gerdyn coch cynnar i Warburton am dacl peryglus.
Mae taclo sy’n cael ei dybio’n beryglus yn bwnc llosg ym myd rygbi ar hyn o bryd a rhai sylwebyddion a chyn-chwaraewyr yn argyhoeddedig fod chwaraewyr sy’n neidio’n uchel i feddiannu’r bêl yn creu’r perygl eu hunain ac ni ddylid beio’r chwaraewr sy’n dal i sefyll â’u traed ar y ddaear neu heb neidio mor uchel.
Gyda Finn Russell, maswr yr Alban, wedi derbyn gwaharddiad o bythefnos yn dilyn ei gerdyn melyn yn erbyn Cymru bythefnos yn ôl, mae’n amlwg y bydd y dyfarnwyr yn fwy gwyliadwrus nag arfer o hyn ymlaen, gyda Jaco Peyper o Dde Affrica wrth y llyw ym Mharis yfory.
Ar ddechrau’r wythnos hon, edrychai’n debyg y byddai George North a Samson Lee ill dau yn holliach ac yn barod i gymryd eu lle yn nhîm Cymru os mai dyna oedd dewis Warren Gatland ac, wrth gwrs, mae’r asgellwr grymus sydd bellach yn chwarae i Northampton yn anelu at sgorio cais yn ei drydedd gornest o’r bron yn erbyn y Ffrancod.
Ei gais hwyr ym Mharis ddwy flynedd yn ôl gadarnhaodd y fuddugoliaeth Gymreig a phwy all fyth anghofio gweld tad y chwaraewr o Ynys Môn yn rhedeg i’r cae i longyfarch ei fab ac i ymuno yn y dathlu?
Tra does `na ddim modd canmol y Bonwr North am ei weithred ffôl, roedd gweld ei fab yn sgorio cais cynnar y llynedd yn allweddol i dorri crib y Ffrancod bron cyn iddyn nhw gynefino â’r awyrgylch yn Stadiwm y Mileniwm a chais Warburton yn gynnar yn yr ail hanner yn creu ormod o fwlch rhwng ei dîm a’r gwrthwynebwyr.
Falle bydd rhaid i chwaraewyr Ffrainc fod ar eu gwyliadwriaeth yn fwy nag arfer yfory o gofio am drosedd erchyll eu clo a chyn-gapten, Pascal Papé, yn erbyn yr Iwerddon bythefnos yn ôl, trosedd sydd wedi arwain at waharddiad o ddeg wythnos i’r Ffrancwr.
Yn sicr, does `na ddim lle i’r fath drosedd ar y cae rygbi, yn arbennig o weld yr effaith hirdymor y gall taro gwrthwynebydd yng ngwaelod ei gefn gyda phen-glin ei gael ar iechyd unrhyw un.
O droi at ragolygon mwy gobeithiol i rygbi yma yng Nghymru, roedd si ar led ar ddechrau’r wythnos y byddai’n debyg y gwelwn Jamie Roberts yn ymuno gydag un o Ranbarthau Cymru cyn Cwpan y Byd yn yr Hydref a hynny, falle, yn arwain at beri chwaraewyr ifanc i ailfeddwl am groesi’r môr i ennill eu crystyn yn y dyfodol.
Profodd rhedeg grymus Roberts yn allweddol ym Murrayfield bythefnos yn ôl ac, er fod y Ffrancwyr wedi dysgu tipyn amdano yn ystod ei gyfnod yn chwarae gyda Raçing Métro, mae ei allu anhygoel yng nghanol y cae yn denu taclwyr a hynny’n creu gofod i’w gyd-ganolwr, Jonathan Davies ac i’r asgellwyr, North ac Alex Cuthbert.
Mae’r Ffrancod wedi dysgu tipyn am Leigh Halfpenny dros y misoedd diwethaf hefyd, wrth i’r cefnwr greu argraff ffafriol gyda chlwb Toulon, a’i redeg twyllodrus a’i gicio cywir at y pyst yn elfen bwysig yn strategaeth pa bynnag dîm y mae’n chwarae ynddo.
Rhybuddiodd y mewnwr, Rhys Webb, ei hunan a’i gymdeithion yn ystod y dyddiau diwethaf i beidio â bod yn orhyderus yfory, ond fe fydd e a’i faswr, Dan Biggar, yn gobeithio elwa o ymdrechion y blaenwyr gydag Alun Wyn Jones, fel arfer, ar flaen y gad a’r ymdrech yn addo bod yn un llwyddiannus arall i ennill y dydd i Gymru.
Tîm Cymru v.Ffrainc: Paris, dydd Sadwrn 28 Chwefror am 17:00:
Olwyr: Leigh Halfpenny (Toulon), George North (Northampton Saints), Jonathan Davies (ASM Clermont Auvergne), Jamie Roberts (Racing Metro), Liam Williams (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch);
Blaenwyr: Gethin Jenkins (Gleision), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Luke Charteris (Racing Metro), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Gweilch), Sam Warburton (Gleision, CAPT), Taulupe Faletau (Dreigiau).
Eilyddion: Richard Hibbard (Caerloyw), Paul James (Caerfaddon), Aaron Jarvis (Gweilch), Bradley Davies (Wasps), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Rhys Priestland (Scarlets), Scott Williams (Scarlets).