Rygbi

RSS Icon
13 Chwefror 2015
ANDROW BENNETT

Dymchweliad

Cymru 16 Lloegr 21

Ddwy flynedd yn ôl, pan ddaeth tîm rygbi Lloegr i Gaerdydd yn ffefrynnau i guro Cymru, gorffen yn Bencampwyr y Chwe Gwlad a chipio Camp Lawn i’r fargen, methiant llwyr fu eu hymdrech a’r cefnogwyr Cymreig ar ben eu digon o weld yr Hen Elyn yn dychwelyd adre’n waglaw.

Nos Wener diwethaf, ar ddechrau Pencampwriaeth newydd, Cymru oedd y ffefrynnau ar bob cyfrif cyn y gic gyntaf, gyda’r Saeson heb rhai o’u chwaraewyr mwyaf blaenllaw a llawer o wybodusion yn darogan buddugoliaeth Gymreig llawn mor gyfforddus â honno ym mis Mawrth 2013.

Doedd `na ddim llawer o achos i ddathlu ar ddiwedd yr ornest ddiweddaraf hon rhwng y ddau dîm, er i rai cefnogwyr ddechrau mynd dros ben llestri o weld blaenoriaeth i Gymru o 16-8 ar yr egwyl.

Pan giciodd maswr Cymru, Dan Biggar, gôl adlam wych fel gweithred olaf yr hanner cyntaf, mawr oedd y disgwyl am weld yr holl ddarogan a welwyd o bob cyfeiriad cyn y gêm yn cael ei wireddu, gyda digwyddiadau’r 40 munud cyntaf yn cael eu hailadrodd a Sam Warburton yn arwain ei chwaraewyr o’r cae yn fuddugol wedi 40 munud arall.

Nid felly y bu, wrth gwrs, â llawer wedi nodi o funudau cynnar yr hanner cyntaf pa mor fregus yr ymddangosai sgr?m Cymru, hyd yn oed yn y symudiad arweiniodd at gais cynnar i’r mewnwr, Rhys Webb.

Do, fe lwyddodd pac Cymru i ennill meddiant o sgr?m gynnar yn ddwfn tu mewn i 22 y Saeson, ond, o sylwi arnyn nhw’n cael eu gwthio nôl, bron ar garlam, fe wnaeth Taulupe Faletau yn arbennig o dda i gael gafael ar y bêl a’i chadw wrth i bopeth o’i flaen ddymchwel.

Rhaid cydnabod i bas Faletau i Webb ymylu ar y gwyrthiol o feddwl cymaint o bwysau oedd ar wythwr Cymru ar y pryd wrth iddo geisio osgoi’r taclwyr, ond, unwaith y gafaelodd y mewnwr ar y bêl, doedd `na ddim byd yn mynd i’w atal rhag sgorio cais cynta’r gêm.

Gydag asgellwr y Saeson, Jonny May, wedi troseddi o fewn y funud gyntaf, manteisiodd Leigh Halfpenny ar y cyfle i agor y sgorio gyda gôl gosb wych o linell ddeg metr yr ymwelwyr a dim ond rhyw bum metr o’r ystlys dde.

Tra bod Halfpenny ar y cae, mae ei allu i gicio at y pyst bob amser yn hollol ddibynadwy ac fe welwyd hynny wrth iddo drosi cais Webb a chreu rhagoriaeth o 10-0 i Gymru o fewn y naw munud cyntaf.

Yn anffodus, rhaid cydnabod na ellir dibynnu 100% ar gicio cefnwr Cymru ac fe ryfeddodd Halfpenny ei lu o gefnogwyr trwy fethu gydag un ymdrech wrth i Loegr grafu eu ffordd nôl yn raddol i sicrhau gornest gystadleuol.

Dechreuodd y broses o erydu rhagoriaeth Cymru cyn diwedd chwarter awr cynta’r gêm, wrth i asgellwr Lloegr, Anthony Watson, ddilyn cic duth ei gefnwr, Mike Brown, dros y llinell gais a syrthio ar y bêl i sicrhau ei gais rhyngwladol cyntaf.

Ciciodd Halfpenny ail gôl gosb ar 23 munud, ond torrwyd crib Cymru unwaith eto ar hanner awr o chwarae pan giciodd maswr Lloegr, George Ford, gôl gosb ei hunan, cyn i Biggar gicio’r gôl adlam `na i godi gobeithion y Cymry yn y dorf er gwaetha methiant annodweddiadol cefnwr Cymru.

Roedd hi’n amlwg ar unwaith wrth i gymalau cynnar yr ail hanner ddatblygu, fod beth bynnag a ddywedodd Stuart Lancaster a’i gyd-hyfforddwyr wrth y Saeson yn ystod yr egwyl wedi cael llawer mwy o effaith nag ymdrech criw Warren Gatland i ysbrydoli’u carfan hwythau.

Sgoriodd Jonathan Joseph gais i Loegr a, gyda Ford yn trosi, dim ond un pwynt oedd rhwng y ddau dîm a phethau’n dechrau edrych yn dywyll ar obeithion Cymru.

Methodd Ford gydag ymdrech arall am gôl gosb yn fuan wedyn, ond, gyda’r pwysau ar Gymru yn cynyddu fesul munud, derbyniodd Alex Cuthbert gerdyn melyn ar yr awr am dacl anghyfreithlon ac fe giciodd Ford y gôl gosb ddaeth i’w ran yn dilyn hyrddiad grymus James Haskell at y llinell gais.

Gwelwyd sawl bygythiad Seisnig i sgorio cais yn ystod chwarter olaf yr ornest a’r dyfarnwr o Ffrainc, Jérôme Garcès, yn dilyn cyfarwyddyd y dyfarnwr teledu i wrthod cais i Dave Attwood oherwydd trosedd flaenorol gan Nick Easter.

Doedd `na ddim modd osgoi’r anochel, fodd bynnag, ac fe giciodd Ford ei drydedd gosb eiliadau cyn y chwiban olaf a swigen Cymru wedi’i byrstio a’r gobaith am Gamp Lawn i’n ffefrynnau wedi diflannu am y tymor hwn.

Oes, mae `na bedair gêm arall i’w chwarae yn y Bencampwriaeth o hyd ac, er y cychwyn gwaethaf posib, gallwn freuddwydio am orffen ar y brig er fod gan Gatland a’r chwaraewyr dipyn o waith i’w wneud cyn wynebu’r Alban ar faes Murrayfield drennydd, gyda’r ornest honno yn addo gosod talcen caled yn dilyn ymdrech y Sgotiaid ym Mharis nos Sadwrn cyn colli o 15-8.

Bu cryn drafod ar ddechrau’r wythnos ynglŷn â ffitrwydd George North ar gyfer y daith i Gaeredin yn dilyn dwy ergyd i’w ben, gyda’r ail yn ei adael yn ddiymadferth am eiliadau cyn codi ac ailymuno’n y frwydr.

Gallwn ond gobeithio na wnaed niwed parhaol, ond mae cyrff rheoli’r gamp wedi nodi’r digwyddiad ac yn ceisio sicrhau gwell gwyliadwriaeth ar gyfer y dyfodol ar ôl i’r swyddogion a gweithlu meddygol tîm Cymru fethu â sylwi’r ail ergyd ym merw’r chwarae.

George North allan o dîm Cymru

Yn dilyn y ddwy ergyd i’w ben yn ystod y gêm yn erbyn Lloegr, gadawyd George North allan o dîm Cymru sy’n teithio i Murrayfield drennydd.

Bydd chwaraewr amryddawn y Sgarlets, Liam Williams, yn cymryd lle North ar yr asgell a chapten Rhanbarth y De Orllewin, Scott Williams yn camu i fainc yr eilyddion.

Does `na ddim newid arall yn y tîm er gwaetha’r perfformiad siomedig yn erbyn y Saeson a Chymru yn anelu at guro’r Alban am yr wythfed tro o’r bron.

Tîm Cymru i wynebu’r Alban:

Leigh Halfpenny (Toulon); Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (ASM Clermont Auvergne), Jamie Roberts (Raçing Métro), Liam Williams (Sgarlets); Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch); Gethin Jenkins (Gleision), Richard Hibbard (Caerloyw), Samson Lee (Sgarlets); Jake Ball (Sgarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch); Dan Lydiate (Gweilch), Sam Warburton (Gleision [Capten]), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Scott Baldwin (Gweilch), Paul James (Caerfaddon), Aaron Jarvis (Gweilch), Luke Charteris (Raçing Métro), Justin Tipuric (Gweilch), Michael Phillips (Raçing Métro), Rhys Priestland (Sgarlets), Scott Williams (Sgarlets).

 

Merched yn bennaf

Merched Cymru 13 Merched Lloegr 0

Tra roedd miloedd o Gymry wedi gadael Stadiwm y Mileniwm yn siomedig nos Wener, cafodd cefnogwyr tîm Merched Cymru gyfle i ddathlu buddugoliaeth brin dros eu gwrthwynebwyr o’r tu draw i Glawdd Offa.

O gofio nad oedd Merched Cymru wedi curo’r Saeson ers 2009 ac, o feddwl taw Lloegr yw Pencampwyr y Byd ar hyn o bryd, daeth ceisiau Laurie Harries a Catrin Edwards, ynghyd â gôl gosb Harries, yn amserol ar ddechrau Pencampwriaeth Merched y Chwe Gwlad sy’n addo bod yn un glos iawn.

 

Bechgyn llwyddiannus hefyd

Cymru Dan-20 21 Lloegr Dan-20 15

Cyffro mawr ym Mharc Eirias nos Sadwrn wrth i ieuenctid Cymru guro Pencampwyr y Byd yn eu hoedran hwythau i roi agoriad gwych arall i’r ymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Gyda’r ddau flaenwr, Liam Belcher a Tom Phillips, yn sgorio cais yr un a’r maswr, Dan Jones, yn cicio 11 o bwyntiau, rhaid cadw llygad ar y to ifanc hwn dros yr wythnosau nesaf i geisio canfod rhai o sêr y dyfodol.


 

Rhannu |