Rygbi

RSS Icon
06 Chwefror 2015
ANDROW BENNETT

Gatland yn arddangos hyder

Wrth gyhoeddi, bron 48 awr ynghynt na’r disgwyl, y tîm fydd yn wynebu Lloegr yng Nghaerdydd heno roedd y prif hyfforddwr, Warren Gatland, yn barod iawn i arddangos ei hyder yn y chwaraewyr sydd ar gael iddo ac i roi gwybod i bawb fod y garfan yn ei chyfanrwydd yn un sefydlog.

Oes, mae `na ddau newid o’r tîm gurodd De Affrica rhyw ddeufis yn ôl ac, er i Gatland godi ychydig o amheuaeth am allu George North i adennill ei le yn dilyn ei absenoldeb gydag anaf ar ddiwedd mis Tachwedd, mae’r asgellwr grymus yn meddu ar yr holl ddoniau angenrheidiol i chwarae rhan allweddol heno.

Bu cryn drafod ynglŷn â’r posibilrwydd y byddai Liam Williams, chwaraewr mwyaf cyffrous y Sgarlets ar hyd y tymor hyd yn hyn, yn disodli North, ond, gydag ambell agwedd o chwarae Williams yn dueddol o fod, ar adegau, yn chwit-chwat, rhaid i gefnwr/asgellwr Rhanbarth y De Orllewin fodloni ar le ymhlith yr eilyddion y tro hwn.

Gyda’r bachwr, Richard Hibbard, nôl yng nghanol rheng flaen y sgrym hefyd a’r capten, Sam Warburton yn ennill ei gap rhif 50, bydd hyder Gatland yn cael ei adlewyrchu ymhlith y cefnogwyr yn Stadiwm y Mileniwm pan ddaw hi’n amser y gic gyntaf am 8.05 heno.

Rhaid bod yn wyliadwrus, fodd bynnag, rhag bod yn rhy hyderus, yn arbennig o ddwyn i gof beth ddigwyddodd yn y gêm gyfatebol ddwy flynedd yn ôl, pan gyrhaeddodd y Saeson ein Prifddinas ar drothwy Camp Lawn ac yn llawn hyder cyn i’n ffefrynnau ninnau chwalu’r ymwelwyr â sgôr o 30-3.

Er i Stuart Lancaster, prif hyfforddwr tîm Lloegr, weld cryn ddwsin o’i ddewisiadau cyntaf yn tynnu allan o’r garfan gydag amryw anafiadau, mae dyfnder y gamp ar yr ochr arall i Glawdd Offa yn golygu fod ganddo ddewis ehangach na Gatland, ynghyd â’r cyfle i roi blas ar rygbi rhyngwladol i chwaraewyr newydd.

Gohiriodd Lancaster gyhoeddi ei ddewis tan fore echdoe er y bydd e’n sicr o fod wedi defnyddio’r wythnos ddiwethaf i hogi strategaethau a symudiadau’r tîm llawn cymaint ag y bu Gatland, Rob Howley a Robin McBryde yn ei wneud.

Gyda chynifer o dîm Cymru wedi chwarae droeon gyda’i gilydd yn barod, mae eu strategaethau a’u cynlluniau yn sicr o fod yn rhai digon sefydlog er yr angen i amrywio o bryd i’w gilydd er mwyn arddangos rhywbeth annisgwyl i’r gwrthwynebwyr.

Roedd `na gyfnodau yn hanes rygbi Cymru pan oedd chwarae twyllodrus canolwyr ac asgellwyr fel Cyril Davies, Gerald Davies ac, yn fwy diweddar, Shane Williams, yn nodweddiadol o’r gamp yma’n ein gwlad, ond mae’r rhod wedi troi i raddau helaeth, dros dro o leiaf.

Prin iawn y gwelir aelod o linell tri-chwarter gyfoes Cymru yn ochrgamu, ond mae Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts a North yn chwaraewyr nerthol yn meddu ar y gallu i dorri drwy bopeth heblaw taclo cywir a grymus.

Er ei fod yn llai o gorff na’r pedwarawd uchod, mae’r cefnwr, Leigh Halfpenny, yn fwy o chwaraewr “traddodiadol Gymreig” yn ei allu i arallgyfeirio ymosodiad, hyd yn oed o sefyllfa anaddawol amddiffynnol, tra bod y tri-chwarteri wedi datblygu’r gallu i fanteisio ar gyfleoedd prin sy’n dod o hynny.

Tra bod llawer o’m cenhedlaeth innau hefyd yn gallu hel atgofion am ddewiniaid o faswyr fel Cliff Morgan, Barry John, Phil Bennett a’r Jonathan Davies arall, mae Dan Biggar (a’r eilydd presennol, Rhys Priestland) yn chwaraewyr eu hoed a’u hamser, yn gweithredu fel cadfridog neu bypedwr yn tynnu’r llinynnau.

Wrth fôn y sgrym ac yn gyswllt rhwng y blaenwyr a’r olwyr, mae’r mewnwr, Rhys Webb, wedi cymryd camau breision yn ystod y misoedd diwethaf i ddisodli Michael Phillips ac addo bod yn gonglfaen i’r tîm am dipyn o amser os gall e gadw’n rhydd o anafiadau a chadw rhag troseddi’n ormodol.

O droi at y blaenwyr, y rheng flaen yn gyntaf, stori’r hen a’r ifanc yw’r ddau brop fydd yn cychwyn heno, gyda Gethin Jenkins wedi chwarae dros Gymru 110 o weithiau yn barod a’r crwt ifanc Samson Lee yn gwisgo’r crys rhyngwladol ond am y 10ed tro wrth gamu i’r cae heno a hynny’n ei gadw’n gyfartal â Webb o ran ymddangosiadau.

Cymharol ddibrofiad ar lefel ucha’r gamp yw ailrengwr y Sgarlets, Jake Ball, hefyd, fydd yn chwarae yn ei nawfed gêm ryngwladol heno, ond, gydag Alun Wyn Jones wrth ei ochr yn y sgrymiau ac yn creu tipyn o derfysg o gwmpas y cae ar ei 85ed ymddangosiad dros Gymru, yn arbennig yn absenoldeb dau Sais grymus yn Joe Launchbury a Courtney Lawes, bydd eu gwrthwynebwyr, Dave Attwood a George Kruis, yn wynebu bedydd tân.

O gofio am gamp Warburton yn cyrraedd ei nod yntau heno, yr elfen fwyaf sefydlog yn y tîm yw rheng ôl y sgrym, gyda thaclo Dan Lydiate weithiau’n ymdebygu i fforestwr wrth ei waith yn torri coed a Taulupe Faletau yn ymddangos fel arloeswr yn sgubo drwy anialwch trwchus.

Y gobaith am heno, felly, yw y bydd y Saeson yn ddim llawer mwy na rhyw ddryswig fydd yn chwalu yn wyneb Warburton a’i griw a, pwy a ŵyr, falle y caiff Justin Tipuric gyfle i gamu o’r fainc i’n gwefreiddio fel y gwnaeth ddwy flynedd yn ôl i redeg fel canolwr wrth greu cais i Cuthbert a hynny’n cyfrannu at fuddugoliaeth ryfeddol arall?

Tîm Cymru:

Leigh Halfpenny (Toulon); Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (ASM Clermont Auvergne), Jamie Roberts (Raçing Métro), George North (Northampton); Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch); Gethin Jenkins (Gleision), Richard Hibbard (Caerloyw), Samson Lee (Sgarlets); Jake Ball (Sgarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch); Dan Lydiate (Gweilch), Sam Warburton (Gleision [Capten]), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Scott Baldwin (Gweilch), Paul James (Caerfaddon), Aaron Jarvis (Gweilch), Luke Charteris (Raçing Métro), Justin Tipuric (Gweilch), Michael Phillips (Raçing Métro), Rhys Priestland (Sgarlets), Liam Williams (Sgarlets).

Tîm Lloegr:

Mike Brown (Harlequins); Anthony Watson (Caerfaddon), Jonathan Joseph (Caerfaddon) Luther Burrell (Northampton), Jonny May (Caerloyw); George Ford (Caerfaddon), Ben Youngs (Caerlŷr); Joe Marler Harlequins), Dylan Hartley (Northampton), Dan Cole (Caerlŷr); Dave Attwood (Caerfaddon), George Kruis (Saraseniaid); James Haskell (Picwns), Chris Robshaw (Harlequins [Capten]), Billy Vunipola (Saraseniaid).

Eilyddion: Tom Youngs (Caerlŷr), Mako Vunipola (Saraseniaid), Kieran Brookes (Newcastle), Nick Easter (Harlequins), Tom Croft (Caerlŷr), Richard Wigglesworth (Saraseniaid), Danny Cipriani (Sale), Billy Twelvetrees (Caerloyw)

Rhannu |