Rygbi

RSS Icon
08 Ebrill 2011
Androw Bennett

Gormod o gicio?

RHAID cydnabod fod y gallu i gicio pêl rygbi’n rhan hanfodol o’r gamp ac mae gweld rhywun yn cicio gôl gosb allweddol, fel cic Gavin Henson yn erbyn Lloegr yn 2005, neu gic hir Paul Thorburn yn erbyn yr Alban dros 20 mlynedd yn ôl, yn ddigwyddiad gwefreiddiol a bythgofiadwy. Er hynny, prif hanfod gêm o rygbi i’r mwyafrif o ddilynwyr y gamp sy’n perthyn i nghenedlaeth innau yw gallu’r chwaraewyr i redeg â’r bêl yn eu dwylo.

Do, curodd Casnewydd y Teirw Duon o Seland Newydd gyda gôl adlam Dick Uzzell yn unig sgôr yr ornest yn Hydref 1963, ond roedd hi’n brynhawn gwlyb a’r llaid yn glynu wrth bopeth. Prin iawn oedd y gallu i ddal y bêl yn y dwylo gan ei thrafod neu basio’n ddestlus ar y fath ddiwrnod ac mae’n ofynnol cofio taw amaturiaid oedd y chwaraewyr bryd hynny.

Byddid yn meddwl, erbyn yr oes broffesiynol gyfoes, y byddai safon sgiliau’r chwaraewyr wedi codi i’r entrychion ers dyddiau Uzzell a’i gyfoedion, ond, o wylio rhai o chwaraewyr ein Rhanbarthau, mae’n amlwg nad yw hynny wedi digwydd. Dadl chwaraewyr ac, i raddau, hyfforddwyr cyfoes yw fod rygbi’n fwy corfforol erbyn hyn a hynny’n amharu ar y gallu i drafod a phasio’r bêl yn drefnus wrth dderbyn tacl grymus.

Esgus digon gwan yw hynny o gofio’r amser maith sy’n cael ei dreulio ar y cae ymarfer, heb sôn am y ffaith fod y chwaraewyr proffesiynol i gyd yn magu cyhyrau i wrthsefyll nerth eu hymosodwyr. Mae angen cwestiynu hefyd athroniaeth hyfforddwyr sydd ddim yn deall yr hen ystrydeb taw ymosod yw’r dull gorau o amddiffyn, gyda phwyll gan amla’n tueddi i reoli’n hytrach nag antur.

Llun: Dan Parks yn cicio eto i'r Gleisiaid

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |