Rygbi

RSS Icon
01 Ebrill 2011
Androw Bennett

Anobeithiol?

O weld tair talaith Wyddelig wedi meddiannu’r safleoedd uchaf ar frig Cynghrair Celtaidd Magners, ydy hi’n hen bryd i ni Gymry anghofio am y tymor rygbi presennol a throi’n golygon at y dyfodol yn y gobaith fod ’na ddyddiau gwell i ddod? Gydag ond un fuddugoliaeth Gymreig o bedair ymgais wythnos diwethaf, llyffetheiriwyd ein Rhanbarthau gan salwch wedi ffair y gêmau rhyngwladol i leihau’r gobeithion am weld mwy nag un tîm o Gymru’n herio am le’n y Ffeinal Mawreddog ar ddiwedd mis Mai.

Yn dilyn diweddglo diflas yn Ffrainc i’r tymor rhyngwladol, trowyd golygon sêr rygbi Cymru nôl at ennill ychydig o hunanbarch, ond prin y gellid dweud iddyn nhw lwyddo i wneud hynny. Oedd, roedd pethe’n reit agos rhwng y Gleision a Munster yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i’r Gwyddelod ennill o 16-15 gyda blaenwr yr ymwelwyr, James Coughlan, yn sgorio unig gais y noson.

Unig sgôr y Gleision o chwarae agored oedd gôl adlam Dan Parks i ychwanegu at bedair gôl gosb gan Leigh Halfpenny, tra’r oedd cicio Ronan O’Gara’n ddigon i sicrhau’r llawryfon i Munster. Gyda’r achlysur wedi’i dynodi’n “Noson y Merched”, roedd ’na dipyn o annifyrrwch ymhlith cefnogwyr y crysau pinc o sylweddoli fod gwahaniaeth o 17 pwynt rhwng Munster a’r Gleision yn y tabl ar ddiwedd yr ornest, gydag ond pump gêm yn weddill i’w chwarae gan y Rhanbarth Cymreig.

Llun: Martyn Williams yn mynd am y bêl uchel i'r Gleision

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

 

Rhannu |