Rygbi

RSS Icon
25 Mawrth 2011

Disgwyl brwydr danllyd

BOB blwyddyn, mae timau rygbi prifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn herio’i gilydd mewn brwydr danllyd. Eleni am y tro cyntaf, bydd y cyfan yn fyw ar raglen BBC Cymru ar S4C Y Clwb Rygbi: CPC Caerdydd v CPC Abertawe (Dydd Mercher, Mawrth 30, 19.25) o Stadiwm y Mileniwm.

Dros y blynyddoedd, mae’r ddau dîm wedi rhannu’r llwyddiant. Caerdydd enillodd gêmau 2008 a 2009, ond Abertawe enillodd y Cwpan y llynedd. Ond pa dîm fydd yn llwyddo o dan oleuadau llachar y stadiwm ac o flaen y camerâu teledu?

Mae’r timau a’u capteiniaid, Mark Schropfer a Rhodri Clancy, wedi bod yn ymarfer yn galed am wythnosau ar gyfer yr her.

Meddai capten Abertawe, Rhodri Clancy: “Mae’n anrhydedd fawr ac rwy’n teimlo’n freintiedig yn arwain carfan Abertawe ar gae cartref rygbi Cymru. Mae’r gêm hon yn benllanw ar dymor hir a chaled yn Uwch Gynghrair Prifysgolion Prydain ac yn uchafbwynt yn y calendr chwaraeon i ni yn Abertawe. Mae gennym record dda iawn yn y gystadleuaeth - gan ennill 9 o’r 14 gêm - a byddwn yn gwneud ein gorau glas i gadw’r tlws am flwyddyn arall.”

Ar hyd y blynyddoedd, mae chwaraewyr adnabyddus wedi cynrychioli Abertawe. Mae Alun Wyn Jones, Dwayne Peel, Rhys Lawrence a Jonathan Spratt i gyd wedi gwisgo’r crys gwyn. Gall Clancy, sy’n chwarae i Gastell-nedd, fod yn un o sêr posib y dyfodol hefyd.

Meddai Mark Schropfer o Gaerdydd: “Mae cael cyfle i chwarae o flaen torf yn Stadiwm y Mileniwm a’r gynulleidfa adref yn brofiad anhygoel i bob un o’r chwaraewyr. Does dim achlysur gwell na gêm ryng-golegol gyda Chaerdydd ac Abertawe yn benderfynol o ennill y clod.”

Er iddynt golli’r gêm ryng-golegol y llynedd yn Stadiwm Liberty, mae pethau’n edrych yn fwy addawol i Gaerdydd. Maen nhw eisoes wedi ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Prydain – Prifysgolion a Cholegau’r De – a chyrraedd rownd derfynol Tlws y Prifysgolion.

“Yn sicr mae ’na gryn hyder ar hyn o bryd a gobeithio cawn drosglwyddo’r hyder yna i’r llwyfan mawr,” ychwanega Mark. “Rydym i gyd wedi bod yn ymarfer yn galed am sbel ac mae’r garfan wedi bod yn aberthu oriau ychwanegol i baratoi. Mae Varsity yn bwysig i bawb. Ond mae Abertawe yn dîm gwych ac yn chwarae mewn cynghrair uwch ’na ni. Maen nhw wedi cael canlyniadau da eleni.”

Un chwaraewr rhyngwladol sydd wedi profi awyrgylch unigryw’r gêm ryng-golegol hon yw Jamie Roberts sydd wedi chwarae dros Brifysgol Caerdydd. Bydd yn ymuno â’r cyflwynwyr Gareth Roberts a Gwyn Jones ar gyfer darllediad y gêm ar Y Clwb Rygbi . Huw Llywelyn Davies a Derwyn Jones fydd yn sylwebu.

Y Clwb Rygbi: Cpc Caerdydd V Cpc Abertawe

Dydd Mercher, Mawrth 30, BBC Cymru ar S4C, 7.25pm

Rhannu |