Rygbi

RSS Icon
25 Mawrth 2011
Androw Bennett

Dim i’w ddathlu

YN dilyn methiant unrhyw Rhanbarth Cymreig i ennill lle ymhlith wyth olaf Cwpan Ewrop Heineken y tymor hwn, digon diflas bu diweddglo Pencampwriaeth RBS y 6 Gwlad hefyd. Er gwylio Lloegr yn cael eu chwalu gan y Gwyddelod yn Nulyn yn gynharach yn y dydd, prin iawn oedd gobeithion Cymru wrth ymdrechu i guro’r Ffrancod ym Mharis nos Sadwrn a gorffen yn ail yn y tabl.

Fe’n twyllwyd â gobeithion ofer yn dilyn y fuddugoliaeth dros y Gwyddelod wythnos ynghynt ac fe adlamodd carfan Marc Lievremont nôl yn dilyn eu colled ryfeddol hwythau yn Rhufain ar yr un diwrnod. Doedd mellt ddim yn mynd i daro am yr eildro mewn wythnos, ond fe fyddai cadw rhagoriaeth y Ffrancod yn y Stade de France i ragoriaeth o 10 pwynt wedi cadw Cymru’n yr ail safle ar ddiwedd Pencampwriaeth digon di-nod i bawb.

Yn lle hynny, colli o 28-9 oedd hanes nos Sadwrn diwethaf, gydag ailrengwr Ffrainc, Lionel Nallet, yn manteisio ar gamgymeriadau gan Lee Byrne a James Hook i sgorio dau o dri chais y tîm cartre. Hufen ar y gacen Ffrengig oedd cais yr asgellwr, Vincent Clerc, a sgoriodd tra’r oedd Hook yn y cell callio’n dilyn tacl beryglus.

I ddarllen mwy wCLICIWCH YMA

Rhannu |