Rygbi

RSS Icon
06 Mehefin 2013
Gan Androw Bennett

Gorchwyl anodd

Bydd y Sgarlets yn wynebu dwy daith i Ffrainc yng Nghwpan Ewrop y tymor nesaf, i Baris i herio Racing Metro (fydd, mae’n debyg yn cynnwys dau Gymro, Jamie Roberts a Dan Lydiate, ynghyd â’r Gwyddel, Jonny Sexton) ac i’r Auvergne i geisio gwrthsefyll Clermont am yr ail dymor o’r bron. Yn dilyn methiant y Rhanbarth i ennill un o’u gêmau’n y gystadleuaeth y tymor diwethaf, dydy ychwanegu taith i Dde-Orllewin Llundain i wynebu’r Harlequins ddim, ar yr olwg gyntaf, yn codi’r gobeithion.

Mae gorchwyl llawn mor anodd ar fwydlen y Gleision hefyd, gyda Toulon (ag esgid chwith y Sais anhygoel, Jonny Wilkinson, yn fygythiad bytholwyrdd) yn bencampwyr Ewrop presennol yn barod i faglu Rhanbarth ein Prifddinas, ynghyd â Glasgow a Chaerwysg. Er y bygythiad o gyfeiriad Môr y Canoldir, gall yr hyfforddwr, Phil Davies, geisio cysuro’i hunan drwy gofio i’r Gleision guro Toulon o 28-21 ym Marseille yn Ffeinal Tlws Amlin yn 2010, er taw Dai Young oedd yr hyfforddwr ar y pryd.

Rhag ofn bod y Gweilch a’u cefnogwyr yn gobeithio am lwybr hawdd drwy’u grŵp hwythau, bydd Rhanbarth Tawe-Nedd-Penybont yn gorfod mynd i Ddulyn i wrthsefyll Leinster, sydd wedi mwynhau cyfnod llwyddiannnus iawn yn Ewrop dros y tri thymor diwethaf, yn ennill Cwpan Ewrop yn 2011 a 2012 a Thlws Amlin eleni. Coronwyd un o wrthwynebwyr eraill y Gweilch, Castres Olympique, yn bencampwyr y Top14 yn Ffrainc ddydd Sadwrn diwethaf ac, er colli i Deigrod Caerlŷr yn ffeinal Uwch Gynghrair Lloegr, bydd Seintiaid Northampton i bawb yn y grŵp hefyd.  

Rhannu |