Rygbi

RSS Icon
18 Mawrth 2011
Sian Couch

I Hull ac yn ôl

HULL KINGSTON ROVERS 40

CRUSADERS RL 22

FE ddaeth y Crusaders yn ôl i Wrecsam yn waglaw ddwywaith wrth i dimau Hull FC a Hull Kingston Rovers gael y gorau ohonynt dros y bythefnos ddiwethaf

Collodd tîm Iestyn Harris 42-18 yn erbyn Hull FC ac fe’u trechwyd yr eilwaith wythnos yn ddiweddarach wrth i fechgyn Justin Morgan (gynt o dîm hyfforddi rygbi xiii Cymru) ddefnyddio eu harf pennaf i’w maeddu 40-22.

Fe ymunodd y cawr Willie Mason Hull KR yr wythnos ddiwethaf ar ôl problemau visa a olygai ei fod wedi gorfod aros chwe mis yn Awstralia cyn iddo allu chwarae yng nghynghrair Super League.

Ymladdodd y Crusaders yn ôl yn y ddwy gêm ond yn anffodus y mae’r bechgyn yn dal i aros am ailymddangosiad y tîm a drechodd Salford City Reds yn ystod penwythnos agoriadol Millennium Magic.

Golygai hyn mai un fuddugoliaeth o bum gêm sydd wedi dod i law’r Crusaders, rhywbeth na fyddai yn bodloni eu cefnogwyr.

Y mae datblygiad rygbi xiii yn mynd o nerth i nerth yng Ngogledd Cymru wrth i lansiad North Wales Crusaders Juniors gael ei gynnal yn ddiweddar.

Y mae academi swyddogol y Crusaders dal i fod yn Ne Cymru ond yn dilyn treialon bythefnos yn ôl yn Wrecsam a welodd 40 o bobl ifanc yn bresennol, y mae’r clwb yn hapus fod datblygiad ieuenctid wedi ymledu i Gymru gyfan.

Y mae’r Crusaders hefyd yn cynnig i gefnogwyr fod yn rhan o’r tîm am ddiwrnod er mwyn codi arian ar gyfer elusennau leukaemia sy’n cael eu cefnogi gan Richard Moore – mae ei fab Harrison yn derbyn triniaeth am y cyflwr.

Fel rhan o’r ymdrechion, mae’r Crusaders yn eich gwahodd chi i gael tynnu eich llun gyda’r tîm am £30 yr un, un ai fel unigolyn neu mewn grŵp.

Fe fyddech chi’n sefyll ar bwys eich hoff chwaraewr, yn gwisgo cit llawn y Crusaders, wrth iddynt gael tynnu llun swyddogol o’r tîm. Bydd ffurflen gais ar gael yn siop y clwb neu ewch i’r wefan www.crusadersrfl.com

Bydd gêm nesaf y Crusaders yn erbyn Catalan Dragons heno ar y Cae Ras (cic gyntaf 8 o’r gloch).

Llun: Willie Mason yn cael ei daclo

Rhannu |