Rygbi

RSS Icon
18 Mawrth 2011
Androw Bennett

Gwers i'w dysgu?

NÔL yn y 1970au, yn ei golofn ar dudalennau chwaraeon y Sunday Times, arferai Michael Parkinson, y cyflwynydd teledu o Swydd Efrog, honni y dylid addasu rheolau pêl-droed a dilyn cyfraith rygbi i orfodi troseddwyr cyson i ildio decllath (10 metr erbyn hyn, wrth gwrs) o dir os cwestiynu penderfyniad dyfarnwr yn rhy eithafol.

’Ddaeth ’na ddim o syniad “Parky” ac mae chwaraewyr y bêl gron yn parhau i herio’r dyfarnwyr bron yn ddi-baid.

Gallai byd y bêl hirgron, fodd bynnag, ddysgu ambell wers gan y gron hefyd ac mae’r modd y sgoriodd Mike Phillips ei gais i Gymru’n erbyn yr Iwerddon nos Sadwrn diwethaf yn adlewyrchu hynny. Does dim byd all newid y canlyniad ac fe fydd buddugoliaeth Cymru o 19-13 dros y Gwyddelod i’w weld yn llyfrau hanes y gamp am byth, pa faint bynnag o gwyno ddaw o’r Ynys Werdd.

Llun: Mike Phillips

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |