Rygbi

RSS Icon
11 Mawrth 2011
Androw Bennett

Maswyr allweddol

TRA bydd y sylw i gyd ar y cystadlu rhwng y ddau dîm yn eu cyfanrwydd yng Nghaerdydd yfory pan fydd Cymru’n croesawu’r Iwerddon i Stadiwm y Mileniwm, mae ’na gystadleuthau eraill yn y cefndir sy’n denu’r sylw o hyn hyd at Gwpan y Byd yn Seland Newydd yn yr Hydref.

Mae llawer ohonom ni, gefnogwyr Cymru, yn gyfarwydd iawn â thrafod, bron hyd at syrffed, y cystadlu rhwng James Hook a Stephen Jones ar hyn o bryd am safle’r maswr yn ein tîm cenedlaethol. Hook fydd yn gwisgo’r crys rhif 10 yfory, gyda Jones yn gorfod treulio peth amser yn eistedd ar ei ben ôl ar fainc ymhlith yr eilyddion ac yn gobeithio cael cyfle i arddangos ei allu ar y cae cyn diwedd yr ornest.

Yn y cyfamser, bydd yr hen gadno cyfrwys, Ronan O’Gara, yn manteisio ar ei gyfle yntau i ddangos fod ei brofiad yn cyfiawnhau ei le fel dewis cynta’r Gwyddelod i wynebu Hook a’i gyd-chwaraewyr.

I ddarllen gweddill yr adroddiad CLICIWCH YMA

Rhannu |