Rygbi

RSS Icon
26 Ebrill 2012
Androw Bennett

Clwb Rygbi Crymych yn elwa

 

Cyhoeddodd rhaglen gwirfoddol gymunedol Natwest RugbyForce eu bod wedi rhoi pecyn cymorth o £5,000 i Glwb Rygbi Crymych er mwyn gwella’u cyfleusterau. Derbyniodd y Clwb y cymorth ar sail cais cryf y clwb, sy’n bwriadu defnyddio’r arian i ehangu’u caeau chwarae a chreu mwy o gyfleoedd ymarfer i’r cannoedd o chwaraewyr o bob oedran sy’n chwarae’n y clwb.

Bwriada’r Clwb hefyd ailaddurno’r bar, sy’n cael ei ddefnyddio’n gyson gan nifer o gyrff gwirfoddol lleol, heblaw am gefnogwyr y Clwb, yn dangos ei fod yn wir gyrchfan i’r gymuned leol.

Roedd Crymych yn un o nifer o glybiau ymgeisiodd am y grant ac roedd Capten Cymru, Sam Warburton, ymhlith y panel o feirniaid yn dyfarnu ar sail cynnig 500 o eiriau’n amlinellu gwaith y prosiect fydd yn cael ei gynnal ar benwythnos swyddogol Natwest RugbyForce, 2 a 3 Mehefin. Mae’r Clwb yn galw ar eu cefnogwyr a gwirfoddolwyr lleol i ymuno’n yr hwyl a’r sbri wrth i’r gwaith adnewyddu fynd rhagddo dros y penwythnos hwnnw.

 

Rhannu |