Rygbi

RSS Icon
13 Ebrill 2012

Torri tir newydd – Darlledu rygbi'r colegau

Bydd modd gwylio gêmau rygbi colegau Cymru yn fyw ar wefan S4C dros yr wythnosau nesaf a bydd pecyn uchafbwyntiau arbennig ar y brif sianel deledu.

Bydd doniau gorau rygbi dan 18 Cymru yn cystadlu am deitl Pencampwriaeth y Colegau a chewch ddilyn yr holl gyffro. Tybed pwy fydd y George North neu Scott Williams nesaf? Daw’r ateb o'r feithrinfa hon.

Coleg Morgannwg fydd yn herio Coleg Penybont yn y gêm sy’n cael ei gweddarlledu’n fyw ac yn ecsgliwsif ar s4c.co.uk brynhawn Mercher, 18 Ebrill.

Bydd rhaglen uchafbwyntiau arbennig ar S4C (nos Fawrth, 24 Ebrill) yn crynhoi gemau’r colegau a chyflwr rygbi dan 18 yng Nghymru. Bydd cyfle hefyd i gael cipolwg ar sut mae rygbi ar y lefel yma'n effeithio ar ddatblygiad y gêm yn gyffredinol.

Meddai Russell Isaac, cynhyrchydd y gyfres: "Dyma’r tro cyntaf i S4C ddarlledu gêmau rygbi yn ecsgliwsif ar y we ac mae’n ddatblygiad hynod o gyffrous. Bydd y gyfres yn rhoi sylw i ymgyrch a pholisïau Undeb Rygbi Cymru o feithrin talent ifanc a dod o hyd i chwaraewyr dawnus y tu allan i system Academi’r rhanbarthau. Dyma sut y datblygodd yr asgellwr campus, George North, ei dalentau ef. Bwriad yr Undeb yw denu mwy o fechgyn ifanc i’r gêm a’u datblygu er mwyn creu mwy o gystadleuaeth a mwy o ddewis."

Drwy gydol y tymor, mae saith coleg wedi bod yn brwydro am y Bencampwriaeth. Ar ddechrau mis Mai bydd y ddau dîm ar frig y Gynghrair yn cystadlu yn y rownd derfynol a bydd un ohonynt yn ennill y tlws.

"Mae rygbi’r colegau yn denu llawer o gefnogwyr ac yn awr bydd llwyfan arall i ddoniau a thalent y gwŷr ifanc sy’n cynrychioli’r colegau. Pwy a ŵyr, efallai mai rhai ohonyn nhw fydd yn disgleirio ar y llwyfan rhyngwladol yn y blynyddoedd sydd i ddod? Yn sicr, dyna obaith yr Undeb. Mae’n gam pwysig yn natblygiad y gêm yma yng Nghymru," eglura Russell.

Un sydd yn gefnogol iawn o’r ymgyrch yw Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland. Trwy ehangu a chynyddu’r nifer o golegau ac o bosib ysgolion sy’n cystadlu yn y Gynghrair y tymor nesaf - gan gynnwys Coleg Llanymddyfri lle y gwnaeth George North feithrin ei dalent - bydd yr Undeb yn dilyn esiampl Seland Newydd a De Affrica. Yno, mae chwaraewyr talentog yn datblygu’n gyson ac yn hytrach na chael cnewyllyn bach o chwaraewyr elit, mae’n ehangu’r dewis ac yn codi’r safon.

 

Rygbi’r Colegau

Nos Fawrth 24 Ebrill 9.30pm, S4C

Gwefan: s4c.co.uk

Cynhyrchiad Sports Media Services ar gyfer S4C

Rhannu |