Rygbi
Cymorth oddi wrth Loegr
SIOM oedd gweld Cymru’n colli i Loegr bythefnos yn ôl, ond, er hynny, falle bydd lle i ddiolch i’r hen elynion o hyn i ddiwedd y tymor yn dilyn y grasfa dderbyniodd yr Eidal yn Nhwicenham bnawn Sadwrn diwethaf. Ydy, mae’n hollbwysig canolbwyntio ar lwyddiant carfan Warren Gatleand ym Murrayfield rhyw deirawr yn ddiweddarach, ond rhaid cofio i rai ddarogan, cyn hynny, fod ’na lwy bren ar y gweill i Gymru a’r posibilrwydd o golli pob gornest ym Mhencampwriaeth RBS y Chwe Gwlad a hynny ar ddechre blwyddyn Cwpan y Byd.
Erbyn hyn, wrth gwrs, curwyd yr Alban yn ddigon cyfforddus o 24-6, gyda’r arch-sgoriwr, Shane Williams, unwaith eto’n hawlio’r mwyafrif o benawdau gydag unig geisiau’r ornest a chyrraedd cyfanswm o 53 cais dros Gymru. Yn allweddol, fodd bynnag, llwyddodd James Hook i wireddu’i obeithion yntau’n dilyn hawlio safle’r maswr a chwarae rhan blaenllaw’n llywio’i gyd-olwyr yn llyfnach nag y gwnaeth Stephen Jones yn erbyn Lloegr ac yn cicio 14 pwynt.
Er chwith gorfod gwneud hynny, rhaid cydnabod taw Lloegr sy’n hawlio’r llawryfon yn dilyn ail gymal y Bencampwriaeth, gyda’u 8 cais yn chwalu gobeithion yr Eidalwyr, rhywbeth sydd wedi rhoi tipyn o ergyd i garfan Nick Mallett. Gyda Chymru’n teithio i Rufain ymhen wythnos, gallwn ond obeithio na fydd hunan-hyder y gwrthwynebwyr wedi’i adfer erbyn hynny.
Tra’r oedd perfformiad Cymru’n ddigon boddhaol i’r miloedd deithiodd i Gaeredin, teimlai Gatland a’i gyd-hyfforddwyr nad oedd y perfformiad cystal â’r ymdrech yn erbyn Lloegr yn ngornest gynta’r Bencampwriaeth. Digon hawdd dweud hynny wedi’r fuddugoliaeth a’r adlais o hen obsesiwn Steve Hansen yn cythruddo ambell Gymro sy’n gweld ennill yn bwysicach, hyd yn oed os yw’r perfformiad yn hyll i’w wylio.
O bryd i’w gilydd, daw’r fuddugoliaeth yn sgil y perfformiad, ond daw ambell lwyddiant er gwaetha perfformiad tila a hwyrach taw dyna beth welson ni nos Sadwrn. Yn ddi-os, doedd yr Albanwyr ddim ar eu gorau, ond rhaid canmol Matthew Rees a’i gyd-chwaraewyr am iddyn nhw fanteisio ar hynny. Gellir gweld fod y modd y mae un tîm yn manteisio ar wendidau’r gwrthwynebwyr yn codi safon y buddugwyr yn uwch ac mae’n iawn i ni, gefnogwyr, gydnabod hynny ar ôl y gêm ym Murrayfield.
Parodd gweld Bradley Davies a Lee Byrne yn treulio cyfnod yn y cell callio tipyn o bryder i’w tîm, ond dyna pryd y gwelwyd gwir gymeriad y to cyfoes o chwaraewyr, gyda’r 13 Cymro’n gorfod treulio rhyw chwe munud heb ddau chwaraewr allweddol. Cyfyngwyd yr Albanwyr i driphwynt o gôl gosb Dan Parks yn ystod y cyfnod anodd hwnnw i Gymru ac, er i Parks gicio ail gôl gosb i ddod â’r sgôr i 6-16 am ryw saith munud, edrychai bechgyn Cymru’n weddol gyfforddus yn wyneb bygythiadau’r tîm cartref.
O gofio fod Parks, unig sgoriwr yr Alban, yn chwarae i’r Gleision yma yng Nghymru, rhyfeddol hefyd oedd gweld Sean Lamont, ymlaen fel eilydd yn gynnar yn dilyn anaf i’w cefnwr, Hugo Southwell, yn serennu’n erbyn nifer o’i gyd-chwaraewyr gyda’r Sgarlets, er i’w ymdrechion fod yn ofer.
Wrth gyfeirio at Southwell, rhaid cwestiynu penderfyniad y dyfarnwr, George Clancy, i beidio ag anfon yr Albanwr i’r cell am iddo daclo Byrne tra’r oedd y cefnwr yn yr awyr. Petai Clancy wedi gwneud hynny, fe fyddai Lamont wedi gorfod aros deng munud cyn cael ymuno’n y chwarae, yn benderfyniad teg yn dilyn trosedd Southwell. Erys yr atgof yn y cof am ddigwyddiad tymor neu ddau yn ôl pan anfonwyd un o bropiau’r Alban i’r cell am yr un drosedd tra’r oedd y truan yn cael ei gario o’r maes.
Mae ambell anghysonder tebyg yn annealladwy i’r gwylwyr ac i’r chwaraewyr fel ei gilydd ac fe welwyd enghraifft amlwg o hynny yn ystod gêm Lloegr bnawn Sadwrn. Anfonwyd Martin Castrogiovanni i’r cell am daro’r bêl o law Sais oedd yn paratoi i’w dîm gymryd cic gosb. Ychydig cyn diwedd yr ornest, taflodd Sais y bêl bant oddi wrth yr Eidalwyr pan oedden nhwythau’n paratoi i gymryd cic gosb. Ymateb y dyfarnwr o Dde Affrica, Craig Joubert, oedd nad oedd y drosedd yr union run fath, ond y gwir oedd na welodd y chwibanwr mo’r drosedd Seisnig.
Gydag wythnos gyfan i’r cefnogwyr i gnoi cil cyn y gyfres nesaf o gêmau rhyngwladol, troi nôl at raglen arferol rygbi sydd ar y gweill, gyda Chynghrair Celtaidd Magners yn cadw’r Rhanbarthau’n brysur a’r clybiau’n cael chwarae ar bnawn Sadwrn, rhywbeth sydd wrth wraidd y gamp ac sydd wrth fodd chwaraewyr ledled Cymru ac yn plesio’r cefnogwyr hynny sy’n gweld y gost o wylio rygbi rhyngwladol y tu hwnt i’w cyllideb.