Pêl-droed
Gwaith caled
YN y Gynhadledd i’r Wasg wedi buddugoliaeth yr Elyrch dros Leeds United bnawn Sadwrn diwethaf, hawliodd y rheolwr, Brendan Rodgers, taw cyfuniad o waith caled a thalent sydd wrth wraidd llwyddiant y clwb. Aeth Rodgers ymlaen i ychwanegu fod byw a gweithio yn Ne Orllewin Cymru yn ei gynorthwyo yntau a’i garfan i ganolbwyntio ar yr ymdrech i geisio sicrhau dyrchafiad awtomatig i Uwch Gynghrair Lloegr.
Cafodd y rheolwr ddigon o gyfleon i weld ffrwyth y gwaith caled yn ystod y tymor hyd yn hyn, o gofio fod ei dîm wedi ennill 19 gêm yn barod, dwy fuddugoliaeth yn fwy na’r tymor diwethaf yn ei gyfanrwydd. Ddydd Sadwrn, fodd bynnag, roedd gwên Rodgers yn fwy llydan nag arfer yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 dros Leeds United, un o glybiau mawr Lloegr; nid yn unig un o glybiau mawr y Bencampwriaeth, ond clwb sydd wedi bod ymhlith y goreuon hyd at yn gymharol ddiweddar.
I ddarllen gweddill yr adroddiad CLICIWCH YMA
Llun: Brendan Rodgers