Pêl-droed

RSS Icon
25 Chwefror 2011
Androw Bennett

Earnie yn ennill y dydd


GYDA’R holl symud o glwb i glwb, mae cefnogwyr pêl-droed yn ddigon cyfarwydd â gweld eu hen ffefrynnau ymhlith y gwrthwynebwyr o bryd i’w gilydd, gyda’r ymateb o’r ddwy ochr yn amrywio a phendilio. Pan fo cyn-ffefryn sy’n dal i’w weld fel cyfaill gan gefnogwyr un o’i gyn-glybiau yn sgorio gôl i ennill y dydd yn erbyn y clwb hwnnw, dydy’r chwaraewr ddim yn siŵr sut i ddathlu a faint o ddathlu sy’n addas, tra bod cefnogwyr y clwb sydd newydd ildio’r gôl mewn rhyw fath o benbleth hefyd.

Ar ôl i Robert Earnshaw (“Earnie” i bawb o’i ffrindiau yma yng Nghymru a phobman arall) sgorio’r gôl sicrhaodd y fuddugoliaeth i Nottingham Forest yn erbyn Caerdydd bnawn Sadwrn, roedd hi’n amlwg nad oedd y chwaraewr rhyngwladol am drosbennu’n ei ddull arferol o ddathlu wrth sylweddoli falle ei fod wedi bwrw hoelen yn ymgyrch ei gyn-glwb i ennill dyrchafiad. Er y tawelwch llethol ymhlith cefnogwyr yr Adar Glas, roedd ambell un wedi gweld a chofio, er o bellter ym mhen arall y City Ground, athrylith yr hen Earnie ac, am eiliad, bron â chymeradwyo.

Ciciodd realaeth i mewn yn fuan, wrth gwrs, o sylweddoli fod ’na lai na hanner awr yn weddill i gipio unrhyw beth o ornest a allai fod yn dyngedfennol i’r ddau glwb. Haedda Caerdydd ganmoliaeth am ddal i frwydro hyd y diwedd, ond gallai’r prynhawn fod wedi datblygu’n hollol wahanol petai Craig Bellamy a Jay Bothroyd wedi llwyddo ag ymdrechion cynnar. Gôl o’r smotyn gan Peter Whittingham oedd unig sgôr yr Adar Gleision, gyda’r golled o 2-1 yn golygu y gostyngodd clwb y Brifddinas i’r pedwerydd safle’n y Bencampwriaeth a Forest yn codi i’r ail.

Stori lawn yn Y Cymro

 

Rhannu |