Pêl-droed
Eironig
ROEDD cefnogwyr yr Elyrch yn llygad eu lle nos Sadwrn diwethaf, wrth gydynganu neges i garfan fawr o gefnogwyr yr ymwelwyr gan eu hannog i gefnogi’u tîmau lleol. Rhan allweddol o’r rheswm pam fod Manchester United yn glwb mor fawr yw eu gallu i ddenu cefnogwyr byd-eang er na fydd nifer sylweddol ohonynt byth yn ymweld â dinas Manceinion, heb sôn am fynd ar gyfyl Old Trafford.
Hyd yn oed yn nyddiau fy mhlentyndod innau, cyn trychineb awyrborth Munich ym 1958, pan laddwyd nifer o’r “Busby Babes”, roedd rhai o’m cyfoedion yn ardal Llangennech yn gweld chwaraewyr fel Duncan Edwards, Roger Byrne a Tommy Taylor yn fwy o arwyr na sêr y clwb Cynghrair agosaf atom ar draws Afon Llwchwr yn Abertawe.
Erys chwedloniaeth Manchester yn fyw hyd y dydd heddiw, ac roedd un o’u sêr mwyaf yn bresennol yn Stadiwm Liberty wythnos diwethaf, gyda Syr Bobby Charlton yn cael ei gyflwyno i’r dorf yng nghwmni Kenny Morgans, un o feibion Abertawe fu’n gydymaith ac yn oroeswr trasiedi 1958. Derbyniodd y ddau ohonynt groeso twymgalon cyn i’r Pencampwr Byd o athletwr, Dai Greene, dderbyn cymeradwyaeth gan gyd-gefnogwyr yr Elyrch.
Roedd y croeso i’r triawd yn haeddiannol, fel roedd y croeso i dîm y “Diawliaid Cochion” gan gefnogwyr Abertawe a chriw o gefnogwyr United oedd wedi teithio o Peterborough. Eironi’r ffaith fod cynifer o bobl sy’n byw’n agos at Stadiwm London Road, cartre’r “Posh”, wrth gwrs, yw taw mab Syr Alex Ferguson, Darren, yw eu rheolwr.
Mae enw Darren Ferguson yn ddigon cyfarwydd i ni Gymry, wedi iddo dreulio wyth mlynedd gyda chlwb y Cae Ras, gan wneud 310 ymddangosiad a sgorio 51 gôl i Wrecsam. Mae’r Ferguson iau bellach yn treulio’i ail gyfnod yn rheolwr Peterborogh ac mae e a’i glwb yn haeddu cefnogaeth y trigolion lleol yn hytrach na’u gweld yn teithio o leia 237 milltir i gefnogi clwb ei dad ar ymweliad i Dde Cymru.
Does ’na ddim llawer o ryfeddod o weld cefnogwyr pêl-droed o dref Corby, sydd ond rhyw 25 milltir o Peterborough, yn teithio’n bell i wylio’u ffefrynnau’n chwarae’n gyson. Cafodd llawer o weithwyr dur o’r Alban eu denu i Corby’n y 1920au, y 1930au a’r 1940au wedi i gwmni Stewarts & Lloyds brynu hen weithle haearnfaen y dref. Yn sgîl y mewnfudiad o filoedd o Sgotiaid dros y blynyddoedd, erys Corby’n gadarnle Albanaidd a fflyd o fysiau mawr yn rhes hir ar Heol Rutherglen bob nos Wener i gludo cannoedd o gefnogwyr i wylio Rangers a Celtic dros y penwythnos.
Falle gellid disgwyl i alltudion ac, i raddau, eu disgynyddion, deithio rhyw 350 milltir o’u cartref i wylio’u hoff glwb yn chwarae ar draul y tîm lleol, ond tybed faint o gefnogwyr Ryan Giggs a’i gyd-chwaraewyr deithiodd o Peterborough i Dde Cymru sy’n meddu ar wir gysylltiadau gyda Manceinion?
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA