Pêl-droed

RSS Icon
25 Chwefror 2011
Androw Bennett

Ramsey yn rhwydo


GYDA’R Adar Gleision yn curo Leicester City yn gyfforddus yn Stadiwm Dinas Caerdydd, yr Elyrch yn cipio buddugoliaeth oddi cartre’n Coventry a Wrecsam yn ein syfrdanu trwy guro AFC Wimbledon, roedd hi’n nos Fawrth hynod gyffrous i’n prif glybiau pêl droed. Trueni taw dim ond gêm gyfartal oedd canlyniad Newport County yng Nghaerfaddon yn hytrach na buddugoliaeth i goroni noson fawreddog.

Coronwyd llwyddiant Caerdydd dros Lwynogod Caerlŷr gan gôl wych Aaron Ramsey, gyda’r Cymro’n dangos ei fod nôl at lawn ffitrwydd a falle’n barod i ddychwelyd i Arsenal wythnos nesaf wedi’i gyfnod ar fenthyg yn ein Prifddinas. Mae Dave Jones, fel y gellid ei ddisgwyl, yn awyddus i gadw Ramsey gyda’r Adar Gleision am ychydig eto ac mae’n dipyn o benbleth i ni Gymry o feddwl y gallai nifer o gyfleon yn nhîm y clwb o Ogledd Llundain fod o fudd i’r chwaraewr canol cae cyn yr her fawr yn erbyn Lloegr ymhen mis.

Gyda Chaerlŷr yn dal mewn safle bygythiol yn agos at frig y Bencampwriaeth, roedd `na bwysigrwydd i’r ddau glwb Cymreig o weld Caerdydd yn ennill nos Fawrth ac roedd gôl Michael Chopra wedi 21 munud yn ddigon i dawelu’r nerfau cyn i Ramsey fanteisio ar waith gwych y cefnwr, Kevin McNaughton, i sicrhau’r triphwynt ychydig wedi’r egwyl. Rhaid pwyslesio nad yw bygythiad Leicester City yn y gynghrair wedi’i chwalu’n llwyr chwaith, gyda’r Cymro, Andy King, yn ymdrechu hyd y diwedd ar ran ei dîm, er yn ofer ar ddiwedd yr ornest.

Stori lawn yn Y Cymro

 

 

Rhannu |