Pêl-droed

RSS Icon
20 Hydref 2011

Mackay ar goll

ER iddo gydnabod fod y cyfnod y bu’n byw ym mhellteroedd dwyreiniol Lloegr wedi bod o fudd mawr iddo o ran dod i adnabod rhai o’r clybiau lleol, siom i glwb y Brifddinas oedd cronni un pwynt yn unig o’u dwy gêm yn erbyn Ipswich a Peterborough yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Do, gwelwyd ddigon o sgorio a chyffro’n y ddwy ornest, ond mae angen dybryd ar yr Adar Gleision i ennill gornestau a chronni mwy o bwyntiau os am wella ar eu hymdrechion dros y tymhorau diwethaf.

Estynwyd croeso rhy hael o lawer bnawn Sadwrn diwethaf i un o gyn-ffefrynnau Lecwydd, Michael Chopra, ac i’r cyn-Alarch, Jason Scotland, gyda’r ddau yn sgorio i Ipswich a Scotland yn bygwth ennill y gêm i’r ymwelwyr gydag ymdrech arall cyn i gôl o’r smotyn gan Peter Whittingham sicrhau rhannu’r pwyntiau â sgôr terfynol o 2-2. O gofio bod “Bois y Tractors” wedi cipio pob un o’r 15 pwynt ar gael yn y 5 gêm diweddaraf rhwng y clybiau cyn y tymor hwn, gellid honni bod gêm gyfartal yn dipyn o lwyddiant i Gaerdydd.

Un peth calonogol i Mackay ac i’r clwb ar ddechre’r tymor oedd gweld yr ymosodwr ifanc, Rudy Gestede, yn sgorio’i gôl gyntaf ac yn ad-dalu ychydig o fuddsoddiad y rheolwr. Deilliodd y gôl ar 19 munud o dafliad hir gan Aron Gunnarsson ychydig eiliadau’n unig wedi ymdrech ofer ar dafliad tebyg gan y chwaraewr o Wlad yr Iâ.

Bu cryn feirniadaeth gan y ddau reolwr, Mackay a Paul Jewell, wedi’r gêm am berfformiad y dyfarnwr, Dean Whitehouse, gyda rheolwr Ipswich yn honni fod y chwibanwr allan o’i ddyfnder wrth ddyfarnu ar gêmau’n y Bencampwriaeth.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |