Pêl-droed

RSS Icon
16 Medi 2011
Androw Bennett

Amyneddgar

IE, “amyneddgar” yw’r gair mwyaf addas i ddisgrifio cefnogwyr clwb pêl droed Abertawe wrth iddyn nhw barhau i aros i weld eu tîm yn sgorio’u gôl gyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr. Er brwydro’n ddygn o flaen torf o 60,087 yn Stadiwm Emirates yn erbyn Arsenal wythnos yn ôl, colli o ildio gôl ryfeddol a siomedig oedd ffawd yr Elyrch ar eu hail daith oddi cartre’n haen ucha’r gamp.

Wrth herio’r tîm sy’n meddu ar yr hanes diweddar gorau’n yr Uwch Gynghrair am eu pasio a chadw meddiant o’r bêl, does `na fawr o ryfeddod gweld taw dim ond 41% yr hawliodd Abertawe’r tro hwn, ond fe fyddai hynny wedi bod yn ddigon onibai am un digwyddiad anffodus.

Bydd rhaid i bawb ohonom gyfarwyddo â gweld a chlywed am arwriaeth a safonau uchel gôlwr newydd yr Elyrch, Michel Vorm, ar hyd y misoedd i ddod, ond mae’n siom gorfod hel atgofion am ddigwyddiad erchyll ddydd Sadwrn diwethaf a allai ddod nôl yn hunllef petai’r clwb yn gostwng i’r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor.

Dim ond chwe mis sydd `na ers rhestru ambell ddigwyddiad rhyfeddol ar y cae pêl droed yn dilyn gôl yn rhwyd ei hunan yn erbyn Derby yn Pride Park gan yr amddiffynnwr, Ashley Williams. Gyda Williams yn gapten yn absenoldeb Garry Monk ar hyn o bryd, dim ond gwylio camgymeriad Vorm y gallodd ei wneud y tro hwn, fodd bynnag.

Os yw’r cwestiwn “Be Nesa?” yn parhau i gael ei ofyn ar ambell raglen gwis o bryd i’w gilydd, mae’n sicr y bydd dau ddigwyddiad diweddar yn hanes yr Elyrch i’w gweld o hyn ymlaen. Tra llwyddodd Abertawe i oroesi’r digwyddiad yn Derby, rhaid ceisio anghofio am gôl erchyll arall nawr wrth frwydro i gadw’u hyder a’u statws ymhlith y mawrion.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |