Pêl-droed
Arddangosfa yr Elyrch
Mae rhaglenni diwrnod gêm sy'n dyddio yn ôl i'r 1940au a chrysau pêl-droed o'r oes a fu ymhlith yr eitemau mewn arddangosfa benodol ar gyfer yr Elyrch dawnus.
Mae'r arddangosfa yn Amgueddfa Abertawe ar gael tan ddiwedd mis Medi ac mae'n dod ar ôl i'r Elyrch ennill eu pwynt cyntaf yn yr Uwch-gynghrair mewn gêm gartref yn erbyn Wigan yn Stadiwm Liberty dros y penwythnos.
Mae gât dro roedd cefnogwyr yn cerdded drwyddi hefyd i'w gweld yn ogystal â chlorian o'r hen ystafelloedd newid.
Mae pethau eraill ar ddangos yn cynnwys pêl-droed wedi'i llofnodi, bathodynnau, sgarffiau, lluniau, tocynnau gêm a llyfrau.
Ceir paneli arddangos sy'n dangos uchafbwyntiau ac isafbwyntiau'r Elyrch o ddechrau'r clwb i heddiw.
Meddai'r Cyng. Chris Holley, Arweinydd Cyngor Abertawe: "Mae'r hyn mae'r Elyrch wedi'i gyflawni mewn cyfnod byr yn wir odidog a dyma gyfle i bobl ddathlu'r clwb a'i dreftadaeth ryfeddol.
"Bydd llawer wedi dilyn eu Helyrch annwyl drwy eu holl hynt a helyntion a bydd yr arddangosfa hon yn galluogi pobl i gofio uchafbwyntiau ac isafbwyntiau'r Elyrch ers i'r clwb gael ei sefydlu dros 100 mlynedd yn ôl.
"Roedd dyrchafiad i'r Uwch-gynghrair yn teimlo'n amser addas i droi'r cloc yn ôl a gadael i gefnogwyr ac ymwelwyr deithio gyda'r Elyrch drwy hanes."
Mae Alan Curtis, un o arwyr Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, wedi rhoi crys o'r tymor enwog ym 1981 a rhaglen o'r gêm bwysig yn erbyn Hull yn 2003, pan sicrhaodd yr Elyrch eu lle yn y Cynghrair Pêl-droed.
Meddai Alan: "Ceir rhai eitemau diddorol iawn yn yr arddangosfa. Mae'r arddangosfeydd yn dangos holl uchafbwyntiau ac isafbwyntiau'r clwb a daeth rhai o'r eitemau cofiadwy ag atgofion yn ôl i mi o'm gyrfa yn chwarae pêl-droed."
Llun: Alan Curtis