Pêl-droed

RSS Icon
09 Mai 2017

Un gêm i fynd i weld pwy fydd yn chwarae yn yr Europa

HEN glwb neu glwb ifanc fydd y pedwerydd i gynrhychioli Cymru yn Ewrop yr haf hwn.

Mi fydd y cyfan yn cael ei benderfynu ym Mangor fin nos y Sadwrn hwn pan fydd y crysau glas yn wynebu myfyrwyr Met Caerdydd.

Drwy groen eu dannedd y llwyddodd Bangor i guro’r Drenewydd i fod â’r hawl i chwarae eto.

Wedi mynd ddwy gôl ar y blaen yn gynnar yn y gêm, cyn pen dim roedd bechgyn Chris Hughes wedi gweld gwendid yn amddiffyn y Dinasyddion a sgorio dwy eu hunain.

Mi fu’n rhaid cael penderfyniad caredig gan y dyfarnwr i Fangor gael cic gosb o ymyl y cwrt ymhell yn yr ail hanner.  Wrth lwc, roedd troed Gary Roberts wedi mwytho’r bêl y ffordd iawn ac i mewn yr aeth hi fel bwled iddyn nhw gael y drydedd.

Fu ond y dim i’r Drenewydd ddod yn gyfartal wedyn ond roedd y duwiau’n gwenu’n garedig ar Nantporth ac enw Bangor oedd y cyntaf yn ffeinal y gêmau ailgyfle.

Roedd yn rhaid aros tan y Sul i weld pwy fyddai eu gwrthwynebwyr – Caerfyrddin neu Met Caerdydd. Yr Hen Aur aeth ar y blaen yn nechrau’r ail hanner, yr unig ymgais a gawson nhw am gôl bron.  Liam Griffiths a lwyddodd i droi’n ddeheuig a chicio’r bêl yn isel i’r gôl. 

Roedd hi’n argoeli’n dda iddyn nhw unwaith iddyn nhw gael un ar y bwrdd.  Oni bai am gamgymeriad Dwaine Bailey yn y cefn fyddai Met Caerdydd ddim wedi sgorio.  

Manteisiodd Adam Roscrow ar y peniad gwan a chodi’r bêl dros ben Idzi i sgorio.

Braidd yn flêr oedd y cyfan wedyn ac wrth i bawb ddisgwyl am amser ychwanegol mi gafodd Met chwip o gôl o gic gosb yn yr eiliadau olaf drwy ben Charlie Corsby i’w gwneud yn 1-2.

Doedd dim amser na nerth yng nghoesau Caerfyrddin i ddod yn gyfartal.  A dyna Met ar ben eu digon yn cael taith i’r ffeinal ym Mangor.

Beth fydd eu hanes?  Yn sicr, gan Fangor y mae’r fantais ac mi fydd y Dinasyddion yn ddigon balch na fyddan nhw’n gorfod chwarae Caerfyrddin unwaith eto ar ôl colli gartref iddyn nhw y mis diwethaf.

Maen nhw wedi llwyddo i guro Met y ddau dro diwethaf ond mi gawson nhw dipyn o gweir yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd – colli 4-0.

Mi fyddan nhw’n ymwybodol o hynny ac yn gwybod fod gan y bechgyn ifanc ddigon o allu i’w herio. 

Maen nhw’n abl iawn i redeg yn erbyn y coesau hŷn.

Gan fod Bangor yn dibynnu ar chwaraewr sydd ymhell yn ei dridegau i’w harwain, yn anorfod dyw Gary Taylor-Fletcher ddim cystal wrth i’r gêm fynd yn ei blaen.  

A phwy a ŵyr na fydd y myfyrwyr yn gweld cefnwyr Bangor mor anodd a rhai Caerfyrddin i gael y gorau arnyn nhw.

Mi fyddan yn sicr wedi edrych ar y mannau gwan oedd gan y Gleision yn erbyn y Drenewydd.

Petai Bangor yn methu dygymod â nhw mi fyddai’n ergyd galed i’r perchnogion presennol sy’n gweld Ewrop fel ffon fara at y tymor nesaf.  

Ar y llaw arall stori dylwyth teg fyddai hi yn hanes Met Caerdydd, yn llwyddo fel Llandudno i gyrraedd yr Europa ar y cynnig cyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru.

Y coesau hŷn yn erbyn y rhai iau amdani. Mi fyddan nhw i’w gweld ar Sgorio.

Rhannu |