Pêl-droed
Y Bala’n drydydd a thri o glybiau eraill am fod yn bedwerydd
Yr unig newid ar ddiwedd y tymor yw fod y Bala wedi colli eu lle yn yr ail safle. Wedi dal ato’n hir, yn y gêm olaf y Sadwrn diwethaf mi gollson nhw yn erbyn y Seintiau a Gap Cei Connah yn cael un pwynt yng Nghaerdydd. Roedd hynny’n ddigon iddyn nhw ddisgyn i’r trydydd lle yn y tabl.
Serch hynny, mae’r Bala yn Ewrop yn barod ac yn ddiolchgar am hynny. Mae amser eto i benderfynu pwy fydd y clwb arall fydd yn cystadlu yn yr Europa yr haf hwn.
Mae pythefnos cyn y gwelwn ni ddechrau gêmau’r ailgyfle. Ac mi fydd hi’n gyfnod diddorol oherwydd gallu’r Drenewydd i danio goliau wrth y llath yn ddiweddar. Y nhw fydd yn wynebu Bangor a orffennodd yn bedwerydd yn y tabl. Yno y byddai’r Dinasyddion beth bynnag petaen nhw wedi curo Caerfyrddin, ond unwaith eto mi gafodd yr Hen Aur y gorau arnyn nhw yn Nantporth.
Er iddyn nhw ennill yn erbyn y Seintiau Newydd ar ddydd Gwener y Groglith doedd gan y Dinasyddion mo’r gallu i ymdrin â thîm Mark Aizlewood. Mae hynny’n codi’r cwestiwn sut y maen nhw am ddygymod â’r Drenewydd sydd wedi blaguro yn y misoedd diwethaf.
Mi gafodd tîm Chris Hughes chwech yn erbyn Aberystwyth a saith yn erbyn Airbus y tro cynt. A chan y Drenewydd y mae prif sgoriwr y cynghrair y tymor hwn, Jason Oswell. Un calondid i Fangor yw fod Oswell i ffwrdd yn Uganda adeg y gêm ailgyfle, rhan o’i gwrs physiotherapydd. Ond hebddo mi fydd yn ddiwrnod digon anodd i dîm Gary Taylor-Fletcher.
Gan eu bod wedi curo ym Mangor mae Caerfyrddin yn cael y fraint o chwarae gartref yn eu gêm nhw yn erbyn MET Caerdydd. Mae’r gêmau rhwng y ddau glwb wedi bod yn rhai agos ar brydiau yn ail hanner y tymor er mai Caerfyrddin a enillodd oddi cartref 0-4 yn eu gêm ddiwethaf.
Mae’n argoeli mai’r Hen Aur fydd yn mynd â hi ymhen pythefnos ond pwy fydd yn eu wynebu yn y gêm olaf – Bangor neu’r Drenewydd? Os bydd y Dinasyddion yn llwyddo mae’n rhaid gofyn ai Caerfyrddin fydd yn mynd i Ewrop. Dyw Bangor wedi cael fawr o lwc yn eu herbyn hyd yma.
Cyn hynny mae’n rhaid iddyn nhw fod yn feistr ar y Drenwydd. Mae honno’n mynd i fod yn her i ddechrau.
Ar ddiwedd y tymor mae cwmni Dafabet, neu Daf a Bet yn ôl un wag, yn rhoi’r gorau i noddi Uwch Gynghrair Cymru. Maen nhw wedi bod yn ei chefnogi ers dwy flynedd. Mae’r gwaith wedi dechrau i chwilio am noddwr newydd.
Cwpan Cymru fydd yn cael y prif sylw y Sul hwn, y gêm rhwng y Bala a’r Seintiau Newydd ar gae Bangor. Mi fydd i’w gweld ar Sgorio a’r gic gyntaf am 2.00 o’r gloch.
Mi gafwyd rhagflas o’r ffeinal y Sadwrn diwethaf ym Maes Tegid. Ar un adeg roedd hi’n edrych fel petai tîm Craig Harrison am golli gêm arall, nes iddyn nhw ddechrau tynnu’r ewinedd o’r blew a dangos eu medrau.
Er i dîm Colin Caton fynd ar y blaen ddwywaith cael eu sodro yn eu lle a wnaeth bechgyn y Bala a cholli 6-4. Roedd hi’n bwrw goliau yn y Bala fel yr oedd hi yn y Drenewydd yr un pryd.