Pêl-droed

RSS Icon
07 Ebrill 2017

Gorfod ailafael ynddi newydd golli i’r pencampwyr

Anodd credu anlwc y clwb o Gei Connah. Am yr ail waith mewn wythnos maen nhw’n gorfod chwarae yn erbyn y Seintiau Newydd, wedi colli iddyn nhw y Sadwrn diwethaf 3-0 yn rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru.

Maen nhw yn Park Hall y nos Wener yma yn chwilio am o leiaf bwynt i’w cadw yn ddigon ar y blaen i Fangor sydd yn y pedwerdydd safle yn y tabl. Os na fydd y duwiau o’u plaid, fel yr oeddan nhw gartref bythefnos yn ôl pan enillson nhw 2-1 yn erbyn y Seintiau, yna dod o Groesoswallt yn waglaw y byddan nhw.

O’i gymharu â’r Cei fydd tasg y Bala ddim mor anodd. Caerfyrddin sy’n ymweld â’r dref y Sadwrn hwn. Mae clwb Maes Tegid yn gwybod yn barod eu bod yn Ewrop wedi cael y gorau ar Gaernarfon yn rownd gyn-derfynol arall Cwpan Cymru. Y tro cyntaf erioed iddyn nhw fynd i’r ffeinal.

O leiaf mae’r Bala yn gwybod beth yw cefnogaeth iawn i glwb. Mi gafodd torf Caernarfon a’u brwdfrydedd eu canmol gan Colin Caton, rheolwr y Bala. Mi fyddai wrth ei fodd yn cael cystal criw i gefnogi tîm Maes Tegid. Siawns na all pobol y Bala heidio i Fangor i roi eu cefnogaeth iddyn nhw ddiwedd y mis.

Mi fydd angen mwy na’r nifer fydd yn eu gêm y Sadwrn hwn i greu tipyn o hwyl a miri. Dyw Caerfyrddin ddim yn nodedig am eu cefnogaeth ‘chwaith a rhyw lond dwrn fydd wedi teithio i Faes Tegid i weld a oes ganddyn nhw obaith o gael pwynt. Wedi colli eu dwy gêm gartref ddiwethaf yn erbyn y Bala y maen nhw, felly dyw hi ddim yn edrych yn rhy dda ar y trydydd cynnig.

Cadw’n obeithiol y bydd y Drenewydd o aros yn y seithfed safle yn y tabl. Maen nhw gartref y Sadwrn hwn i Derwyddon Cefn sydd chwe phwynt ar eu holau. Mae tîm Chris Hughes wedi cael bywyd newydd yn yr wythnosau diwethaf ac yn ôl pob argoel mi allan nhw ennill hon i gael mwy o flaen ar Landudno fydd yn wynebu Aberystwyth dydd Sul.

Hon a MET Caerdydd yn erbyn Bangor fydd y ddwy gêm ar y Sul. Pedwar pwynt sydd rhwng Llandudno a’r Drenewydd tra mae Aberystwyth mewn man peryglus yn y trydydd safle o’r gwaelod. Cael gwared â’u rheolwr oedd y peth callaf i’w wneud yn eu tyb nhw er mwyn cael aros i fyny.

Mi weithiodd o ryw fath yn eu gêm gyntaf heb Matthew Bishop. Gêm gyfartal ddi-sgôr oedd hi yn erbyn Derwyddon Cefn sydd bedwar pwynt uwch eu pennau. Fydd Wayne Jones yn medru dyfalu sut i guro Llandudno? Mi gawn weld yr ateb ar Sgorio.

Clwb arall a ffarweliodd â’u rheolwr yw Bangor, dim ond eu bod nhw yn hanner uchaf y tabl. Symudiad digon rhyfedd oedd hwn mor hwyr yn y tymor. Ydyn nhw wedi diffygio cyn cael y cyfle i ennill eu lle i fod yn yr Europa?

Mi welan nhw fel y Bala bythefnos yn ôl y bydd MET yn rhai digon gwydn i’w curo. Os na fydd gan y rheolwr dros dro, Gary Taylor-Fletcher, rywbeth i fyny ei lawes i’w gwneud nhw lwyddo.

Un gêm arall sydd, y Sadwrn hwn, rhwng y Rhyl ac Airbus o waelod y tabl.


 

Rhannu |