Pêl-droed

RSS Icon
29 Mawrth 2017

Caernarfon heb reolwr wrth wynebu’r Bala yn y cwpan

TRI o glybiau’r Uwch Gynghrair sydd ar ôl yng Nghwpan Cymru. Y pedwerydd yw Caernarfon sydd wedi codi eu gêm yn rowndiau’r cwpan eleni a dyna sut maen nhw wedi cyrraedd y rownd gyn-derfynol yn y Rhyl y Sadwrn hwn.

Eu gêm nhw yn erbyn y Bala sydd ar Sgorio, sy’n deall y bydd mwy o ysbryd o lawer yn y gêm hon nag yn y gêm o’i blaen ym Mangor – Gap Cei Connah yn erbyn deiliaid y cwpan a phencampwyr yr Uwch Gynghrair am y chweched tro yn olynol.

Fydd rheolwr Clwb Pêl-droed Caernarfon ddim ar ochr y cae.
Mae Iwan Williams wedi ei wahardd am dair gêm er 23 Mawrth.  Cyn hynny mi fu’n sôn am ei deimladau am y gêm yn erbyn y Bala ar wefan y clwb.

Hon yw eu gêm fwyaf ers tro, meddai, a hon yw’r prawf mwya’ arno fel rheolwr er pan mae o wedi ymuno â’r clwb.

“Mae Colin Caton wedi casglu tîm rhagorol at ei gilydd ac mae’r llwyddiant maen nhw wedi ei gael yn y blynyddoedd diwethaf yn dangos hynny. Wedi tyfu o glwb tebyg i Gaernarfon y maen nhw ac erbyn hyn maen nhw’n siomedig os na allan nhw fynd i chwarae yn yr Europa,” meddai.  

“Serch hynny mi fyddwn ni’n mynd ati i drio ennill y gêm.”

Maen nhw wedi ymarfer ddwywaith yr wythnos yma i baratoi sut i atal y Bala. 

Ond ar y diwrnod fydd Iwan Williams ddim yn cael mynd i’r ystafelloedd newid nac ar y cae, na hyd yn oed yn medru siarad efo Sgorio ar ddiwedd y gêm.

Mae hynny oherwydd y gwaharddiad a gafodd fis yn ô mewn gêm yn erbyn Holyhead Hotspur, a’r wythnos diwethaf y daeth i rym.

Mae’n teimlo fod hynny’n gwbl annheg. Mi ddylai’r gwaharddiad fod wedi digwydd yn syth yw ei farn.

Beth bynnag, maen nhw’n troi am y Rhyl yn credu y medran nhw gael gafael yn y gêm.

A chyda’r gefnogaeth fydd wedi mynd ar eu hôl mi fydd hynny’n codi eu calonnau i wneud y gorau drostyn nhw.

Does dim dwywaith mai’r Bala yw y ffefrynnau ond rownd yn y Cwpan yw hon ac mi all unrhywbeth ddigwydd o flaen y camerâu yn hwyr brynhawn y Sadwrn. Mi ddylai fod yn werth ei gweld.

Ym Mangor y mae’r gêm arall rhwng y cyntaf a’r trydydd yn Uwch Gynghrair Cymru.

Mae Andy Morrison wedi cael ei ddymuniad fod y Cei yn cael chwarae ar wair.

Yn bendant mi fydd cae Nantporth yn eu plesio, er digon prin y bydd ganddyn nhw hanner cymaint o gefnogwyr a Chaernarfon yn teithio draw i’w gweld.

Drwy ryw wyrth maen nhw wedi curo’r Seintiau Newydd yng Nghei Connah yr wythnos diwethaf, yr ail glwb yn unig i guro’r pencampwyr y tymor hwn.  Gan eu bod wedi cael yr allwedd i wneud hynny unwaith, y cwestiwn yw a fedran nhw ddod o hyd iddi eto yr ail waith a rhoi tro iawn arni?

Efallai fod y Seintiau wedi simsanu ychydig yn y gêmau diwethaf.  Dim ond dwy a gawson nhw gartref yn erbyn Caerfyrddin y Sadwrn diwethaf sy’n awgrymu fod gobaith i dîm sydd ag awch i’w trechu.

Ond nhw yw’r fferfrynnau am y cwpan eleni eto. 

 

Rhannu |