Pêl-droed

RSS Icon
22 Mawrth 2017
Gan ANDROW BENNETT

Ffawd Cymru yn eu dwylo eu hunain

BYDD angen i Gymru wyrdroi hanes yn Stadiwm Aviva, Dulyn heno os am gadw’r gobaith o gyrraedd rowndiau olaf Cwpan y Byd pêl-droed yn Rwsia blwyddyn nesaf.

Dydy’r Cochion ddim wedi curo’r Gwyddelod yn eu Prifddinas er 1992, gan golli deirgwaith er ceisio gwneud hynny mewn tri stadiwm gwahanol, sef Tolka Park (1993), Croke Park (2007) a Stadiwm Aviva (2011).

Bydd Chris Coleman, felly, yn arwain ei garfan heno, nid yn unig i’r maes lle collwyd yr ornest olaf `na ond hefyd nôl i ddinas geni ei dad, Paddy, a fu farw tair blynedd yn ôl a hynny yn sicr o fod yng nghefn meddwl y rheolwr.

O gofio taw’r golled `na yn Stadiwm Aviva oedd y gêm gyntaf dan reolaeth y diweddar Gary Speed, bydd yr emosiynau yn ingol i lawer o Gymry heno cyn i bawb orfod cydnabod taw yn eu dwylo eu hunain y mae eu ffawd o ran cyrraedd Rwsia.

Ar ôl curo Moldofa yn gyfforddus o 4-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn eu gêm ragbrofol gyntaf yng Ngrŵp D ar ddechrau mis Medi y llynedd, digon llipa fu’r ymdrech ers hynny wrth rannu’r ysbail gydag Awstria, Georgia a Serbia dros yr wythnosau canlynol.

Arweiniodd y canlyniadau diweddaraf hyn at weld Cymru yn drydydd yn y Grŵp wedi cronni hanner dwsin o bwyntiau tra bod y Gwyddelod ar y brig wedi ennill deirgwaith a chronni 10 pwynt a Serbia yn ail ar 8 pwynt.Petai’r Iwerddon yn ennill heno i greu

goruchafiaeth o saith pwynt dros Gymru, bydd ‘na dalcen hynod galed yn wynebu Coleman, Osian Roberts a’u chwaraewyr os am ailadrodd y gamp o gyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc.

Er i ddau o wir sêr Cymru, Gareth Bale ac Aaron Ramsey, fod allan o dimoedd eu clybiau yn ddiweddar a chwaraewr Real Madrid wedi derbyn gwaharddiad rai wythnosau yn ôl, y gobaith yw y bydd y ddau yn holliach ac yn awchu am wella ar eu hymdrechion yn yr Hydref.

Mae llawer yn cydnabod fod capten Cymru, Ashley Williams, yn well chwaraewr fyth yn dilyn ei drosglwyddiad i Everton y llynedd ac er i Neil Taylor golli gafael ar safle’r cefnwr chwith gydag Abertawe a symud i Aston Villa, mae e bellach i’w weld yn anelu at fod nôl ar ei orau unwaith eto.

Tra bydd y pwysau arferol ar Bale i sgorio heno, rhaid dwyn i gof campau Hal Robson-Kanu a Sam Vokes wrth sgorio yn erbyn Gwlad Belg yn rownd wyth olaf Ewro 2016, er y bydd cefnogwyr yr Elyrch yn ei chael hi’n anodd rhoi gormod o glod i flaenwr Burnley wedi iddo ennill cic anghywir o’r smotyn yn y Liberty yn ddiweddar.

Os bydd chwaraewyr Coleman yn agos at eu gorau heno, gellir disgwyl buddugoliaeth Gymreig, yn arbennig o weld nifer o chwaraewyr blaenllaw Gwyddelig fel Shane Duffy, Ciaran Clark, Wes Hoolahan, Harry Arter a Daryl Murphy yn absennol gydag anafiadau, tra bod Robbie Brady wedi ei wahardd.

Er hynny, o gofio bod yr Iwerddon yn meddu ar ddau hyfforddwr craff yn Martin O’Neill a Roy Keane, bydd y nerfau’n anniddig ar hyd y 90 munud os na fydd Cymru’n gallu sgorio’n gynnar a chadw’r rhagoriaeth.

Carfan Cymru i ddewiswyd i wynebu’r Iwerddon: Wayne Hennessey, Danny Ward, Owain Fôn Williams, Ben Davies, James Chester, James Collins, Joe Walsh, Chris Gunter, Jazz Richards, Neil Taylor, Ashley Williams, Joe Allen, David Edwards, Andy King, Tom Lawrence, Joe Ledley, Shaun MacDonald, Aaron Ramsey, Gareth Bale, Hal Robson-Kanu, Tom Bradshaw, Sam Vokes, Ben Woodburn

Rhannu |