Pêl-droed

RSS Icon
16 Mawrth 2017

Noson anodd i Fangor yn ceisio dofi bechgyn Maes Tegid

DAU glwb sydd wedi bod yr ochr arall i’r ffin a cholli sy’n wynebu’i gilydd y nos Wener yma.

Mi aeth Bangor i Park Hall bythefnos yn ôl a cholli 4-0 a’r Bala yn dod oddi yno y Sul diwethaf wedi colli 3-2 yn unig.

Awgrym cryf, felly fod gan Fangor dipyn o gêm o’u blaenau yn Nantporth wrth groesawu bechgyn Maes Tegid.

Pan ymwelodd y Bala â Bangor ddiwethaf doedd tîm Colin Caton ddim yn cael llawer o hwyl arni yn y cyfnod hwnnw yn agos i ddechrau’r tymor.

Mi ddaeth rhai o’r chwaraewyr yn ôl wedi gwella o’u briwiau ac ers hynny dydyn nhw ddim wedi edrych yn ôl.

Dyna pam y maen nhw’n ail yn y tabl, dri phwynt o flaen Gap Cei Connah a phump o flaen Bangor.

Mi wnaeth tîm Ian Dawes dipyn o stroc ohoni yn y Waun Dew yn curo Caerfyrddin 2-3 yn y munud olaf.  

Does dim dwywaith na fydd y Bala yn anos eu dofi ac mi fydd yn rhaid i droed Daniel Nardiello fod ar ei gorau eto os ydyn nhw am lwyddo.

Mi gafodd ei hatric gyntaf yn erbyn Caerfyrddin.

Gêm arall y nos Wener yma yw honno yn Rhosymedre rhwng Derwyddon Cefn a’r Rhyl.

Dyma ddau glwb sydd wedi cael gêmau cyfartal yn eu dwy gêm ddiwethaf a’r Rhyl un o waelod y tabl a’r Derwyddon yn y pedwerydd.

Dim ond dau bwynt sy’n eu gwahanu, felly mae’r gêm hon yn hynod o bwysig i’r ddau glwb.

Mi aeth y Rhyl i Landudno wythnos yn ôl a’r gêm yn gorffen yn 1-1.

Yn sicr mi fydd yn rhaid iddyn nhw wneud yn well na hynny yn erbyn y Derwyddon os ydyn nhw am gael gobaith o gadw yn yr Uwch Gynghrair.

Efallai i’r ffaith i dîm Huw Griffiths fynd i Frychdyn a methu sgorio yn erbyn y clwb sydd ar waelod y tabl godi calon tua’r Belle Vue.

Tair gêm sydd y Sadwrn hwn a’r Seintiau Newydd yn teithio y tro hwn, i brifddinas Cymru i weld sut y bydd MET Caerdydd yn dygymod â nhw. 

Y Sadwrn diwethaf mi gollodd y myfyrwyr 2-0 yng Nghei Connah a cholli eu cefnwr Emlyn Lewis wrth iddo gael cerdyn coch.

Mi gawson nhw gêm gyfartal yn erbyn Caerfyrddin bythefnos yn ôl ac os y gallan nhw gael yr un canlyniad wrth wynebu’r Seintiau mi fyddai hynny’n ganlyniad da iawn iddyn nhw.  Gobeithio gormod fydd hynny o bosibl.

Wedi cael coten gartref yn erbyn y Drenewydd nos Wener diwethaf mae Aberystwyth yn teithio i Sir y Fflint i wynebu Airbus, eu partneriaid ar waelod y tabl.

Mi fyddan yn gwybod eu bod wedi curo Airbus dair gwaith y tymor yma, gartref ac oddi cartref unwaith.  

Gan fod Luke Sherbon wedi derbyn cerdyn coch fydd y capten ddim ar gael i ymweld â Brychdyn.

Mae’r rheolwr Matthew Bishop yn gobeithio y gallan nhw chwarae’n well hebddo nag a wnaethon nhw wrth golli 0-4 i’r Drenewydd.

Gêm arall y Sadwrn yw Caerfyrddin yn erbyn Gap Cei Connah, fydd yn bnawn anodd arall i dîm Mark Aizlewood.

Yr wythnos hon eto mae gêm dydd Sul, yn y Drenewydd y tro yma pan fydd Llandudno yn ymweld. 

Maen nhw ddau bwynt ar ôl tim Chris Hughes.

Rhannu |