Pêl-droed

RSS Icon
18 Awst 2011
Androw Bennett

Realedd yn cnoi

WEDI holl orfoledd diweddglo cyffrous y tymor pêl-droed diwethaf i glwb Abertawe, siomedig oedd eu hymgais gyntaf i gronni pwyntiau yn Uwch Gynghrair Lloegr. Er dangos digon o hyder a dewrder ynghyd â thipyn o gymeriad cyn colli o 4-0 oddi cartref yn erbyn Manchester City nos Lun, roedd hi’n amlwg i’r chwaraewyr, y rheolwr, Brendan Rodgers, ac i’r cefnogwyr fod y tymor newydd yn argoeli bod yn hollol wahanol i’r tymhorau diweddar ac yn fwy heriol o lawer.

Dydy ennill oddi cartref ddim yn hawdd i’r mwyafrif o dîmau pêl-droed, ond pan ddaw’r her o gyfeiriad y clwb cyfoethoca’n y byd, tipyn o gamp fyddai goroesi criw o wrthwynebwyr sy’n cynnwys rhai o chwaraewyr gorau’r byd. Gyda chaffaeliad newydd costus (pris, mae’n debyg, o £38m) y clwb Seisnig, Sergio Aguero, ymhlith yr eilyddion yn hytrach nag yn dechre’r ornest, gellid deall mwy am y gwahaniaeth rhwng y ddau garfan cyn y gic gyntaf, ond, er hynny, haedda’r Elyrch dipyn o ganmoliaeth am eu hymdrechion cynnar.

Do, fe chwaraeodd trawst gôl Abertawe ran bwysig yn cadw’r tîm cartref rhag sgorio’n yr hanner cyntaf ac roedd y golwr newydd, Michel Vorm, yn barod i gyfaddef na chafodd yntau amser prysurach erioed o’r blaen ar gae pêl-droed. O feddwl na chyrhaeddodd Vorm Dde Orllewin Cymru tan chwe niwrnod cyn ei ymddangosiad cyntaf i’w glwb newydd, ymddengys y gallai fod yn dipyn o gaffaeliad, yn arbennig os bydd y tîmau eraill mor barod î ymosod ag yr oedd Manchester City.

Yn bwysicach o ran y canlyniad ac yn rhybudd i bob tîm arall yn yr Uwch Gynghrair, gweddnewidiwyd y gêm wedi i Aguero gamu i’r maes er i Edin Dzeko agor y sgorio dau funud ynghynt. Gyda gwahaniaeth o un gôl yn unig, mae pob tîm yn teimlo fod ganddynt obaith i dalu’r pwyth yn ôl, ond, o fewn deuddeng munud o’i ymddangosiad cynta’n y crys glas golau, lladdodd Aguero unrhyw obaith am adfywiad ymdrech yr Elyrch.

i ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |