Pêl-droed
Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Cymru yn fyw ar S4C
Gyda thîm pêl-droed Cymru yn brwydro i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia, bydd S4C yn dangos gweddill gemau Cymru yn yr ymgyrch ragbrofol yn fyw, o 24 Mawrth ymlaen.
Bydd gweddill gemau Cymru ar gael i'w gweld ar deledu daearol, yn rhad ac am ddim drwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny wedi i'r sianel ddod i gytundeb gyda deiliaid y drwydded swyddogol a'r prif ddarlledwyr yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, Sky Sports.
Dylan Ebenezer fydd yn arwain y tîm cyflwyno, gyda Nic Parry a Malcolm Allen yn y pwynt sylwebu, a'r cyn chwaraewyr Cymru Owain Tudur Jones a Dai Davies yn dadansoddi'r gemau. Rondo Media fydd yn cynhyrchu'r rhaglenni.
Y gêm gyntaf fydd yn cael ei dangos ar S4C yw'r un hollbwysig oddi cartref yng Ngweriniaeth Iwerddon nos Wener, 24 Mawrth.
Yng Ngrŵp rhagbrofol D, bydd Cymru hefyd yn teithio i herio Serbia ddydd Sul, 11 Mehefin, cyn gêm gartref yn erbyn Awstria ddydd Sadwrn, 2 Medi, a gêm oddi cartref ym Moldofa ddydd Mawrth, 5 Medi. Bydd tîm Chris Coleman yn wynebu taith i Georgia ddydd Gwener, 6 Hydref, cyn dod â'r ymgyrch i ben gyda gêm gartref yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ddydd Llun, 9 Hydref.
Mae S4C ar gael ar bob llwyfan yng Nghymru ac ar Sky, Freesat a Virgin Media ar draws y Deyrnas Unedig. Bydd gwylwyr Sky a Freesat yn gallu gwylio'r gemau mewn HD.
Dywedodd Comisiynydd Chwaraeon S4C, Sue Butler: "Rydym yn falch iawn mai ni yw'r unig ddarlledwr sy'n dangos gemau Cymru yn rhad ac am ddim yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018. Mae'n bleser gallu dilyn y tîm gyda gemau byw ar S4C unwaith eto, o gofio holl gyffro gorchestion tîm Chris Coleman yn Euro 2016."
Fe fydd S4C yn lansio ymgyrch aml-lwyfan drawiadol i hyrwyddo’r rhaglenni byw o gemau Cymru yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd. Mae'r ymgyrch, o'r enw 'Ymunwch â’r Wal Goch', yn dathlu sut mae llwyddiant tîm pêl-droed Cymru wedi dal dychymyg pobl ledled Cymru.