Pêl-droed

RSS Icon
07 Mawrth 2017

Bala yw’r cyntaf i wynebu’r pencampwyr cynnar

Unwaith yr oedd y Bala wedi methu ennill y noson cynt roedd yn eithaf pendant mai’r Seintiau Newydd fyddai’n codi cwpan y pencampwyr am y chweched tro yn olynol.

Maen nhw wedi ei gwneud hi ar ddechrau Mawrth wrth sgubo Bangor o’r neilltu o flaen torf o 232.

Dau gant tri deg a dau i glwb llwyddiannus sy’n torri recordiau; mae hon yn record ynddi’i hun fod cyn lleied â diddordeb yn eu campau.

Fodd bynnag, fel’na mae hi a chriw Park Hall o’r perchennog i lawr sydd biau’r clod a’r bri heb lawer o barch i’w cefnogwyr prin.

Mae’r clwb o’r ochr draw i’r ffin yn cynrychioli Cymru yn Ewrop unwaith eto ac am gael sleisen golew o euros i’w helpu i gynnal eu hunain am dymor arall.

Chwech o gêmau sydd ar ôl yn yr Uwch Gynghrair i’r gweddill o’r clybiau ddangos eu hôl. 

Mae’r Bala yn dal yn ail, ugain pwynt tu ôl i’r Seintiau a chwech ar y blaen i Gap Cei Connah ac wyth o flaen Bangor.

Mi fethodd bechgyn Maes Tegid ac ychwanegu mwy nag un pwynt at eu cyfanswm nos Wener diwethaf wrth i’r tîm o Gei Connah unioni’r sgôr wrth i’r gêm ddod i ben.

Mae gan y Bala tan bnawn Sul cyn chwarae y tro hwn a nhw fydd yn erbyn y pencampwyr bryd hynny.

Hwn fydd y prawf i weld os bydd yr awydd i ennill yn dal yng nghoesau’r tîm gwyn a gwyrdd a hwythau yn Ewrop yn barod. Doedd eu rheolwr ddim am golli dim un gêm, meddai, wrth siarad efo Nicky John ar Sgorio ar ôl y llwyddiant yn erbyn Bangor.

Does neb wedi eu curo yn Park Hall y tymor hwn.  Siawns na all yr ail dîm wneud rhywbeth ohoni a dangos eu bod yn medru cystadlu gyda’r goreuon. Mi fydd yn andros o anodd i’r Bala a phe baen nhw’n cael gêm gyfartal arall mi fyddai hynny’n bluen yn eu cap.

Mi fyddan yn gwybod beth fydd sgôr Gap Cei Connah yn erbyn MET Caerdydd cyn dechrau chwarae.

Pe bai Gap yn ennill mi fyddai hynny’n sbardun ychwanegol i’r Bala i gadw ar y blaen iddyn nhw.  

Os bydd hynny’n digwydd – a’r Bala’n colli – dim ond tri phwynt fydd rhwng y ddau glwb wedyn.  

Ac mi all fod yn ddiddorol iawn yn ystod y pum gêm sy’n weddill y tymor hwn.

Y tro diwethaf i MET fod yng Nghei Connah gêm ddi-sgôr oedd hi er i dîm Andy Harrison ennill yng Nghaerdydd cyn hynny.

Mi lwyddodd y myfyrwyr i gael gêm gyfartal 2-2 efo Caerfyrddin y Sadwrn diwethaf ac mae digon o allu ynddyn nhw i wneud yr un peth eto yn y gogledd.

Gartref i Fangor y mae Caerfyrddin y Sadwrn hwn.

Gyda nifer o chwaraewyr Bangor yn absennol mae’n bosib iawn y gall yr Hen Aur gael tri phwynt o hon, fel y gwnaethon nhw y tro diwethaf iddyn nhw ymweld â Bangor.

Mae hi’n edrych yn fwy tebygol y bydd yn rhaid i’r Dinasyddion setlo am y pedwerydd safle yn y tabl gan fod gêmau yn erbyn y Bala a’r Seintiau eto i ddod.

Gweddill y gêmau yw:
Nos Wener: Aberystwyth v Y Drenewydd; Airbus v Derwyddon Cefn; Llandudno v Y Rhyl.

Rhannu |