Pêl-droed

RSS Icon
03 Mawrth 2017

Yr ail a’r trydydd yn mynd amdani ym Maes Tegid

Rhannu y mae’r gêmau y tro hwn rhwng nos Wener a dydd Sadwrn. Mae’r ddau glwb sy’n ail a thrydydd yn y tabl ymhlith y gornestau cyntaf, ac yn y Bala y bydd honno. Ac o Gei Connah y daw’r ymwelwyr, y clwb gafodd drafferth mawr yn dofi Prestatyn yng Nghwpan Cymru.

Mae tîm Andy Harrison chwe phwynt ar ôl clwb Maes Tegid a heb gael yr hwyl orau arni yn ddiweddar, tra mae’r Bala wedi ffynnu. Dydy Gap Cei Connah ddim wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn y cynghrair, colli dwy a chyn hynny cael gêm ddi-sgôr yn y Bala. Cael a chael oedd curo Prestatyn a hithau wedi mynd i giciau o’r smotyn.

Ar y llaw arall mae bechgyn Colin Caton yn ennill eu gêmau ac wedi mynd i Gaerfyrddin a churo lle collodd y Seintiau gêm gyntaf y tymor yr wythnos cynt. Mi lwyddodd y Bala i sodro Cegidfa y Sadwrn diwethaf yn y cwpan hefyd a dod oddi yno wedi sgorio tair.

Mi all fod yn anos iddyn nhw y nos Wener yma ym Maes Tegid. Mae digon o allu yn y tîm o’r Cei i’w cadw’n dawel ond mae’n bosib y bydd rhediad diweddar y Bala yn eu cynnal nhw i fynd am fuddugoliaeth y tro yma. Ar y gorwel mae ganddyn nhw gêm yn erbyn Caernarfon yn rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru a’r Cofis wedi rhoi cot a hanner i Llanfair Utd yn Llanfair Caereinion y Sadwrn diwethaf – 0-7 oedd hi yn erbyn tîm o’r un gynghrair.

Gan y Cei y mae’r gwaith pleserus o wynebu’r pencampwyr yn rownd derfynol y cwpan. Awgrym efallai y bydd y Seintiau yn y ffeinal eto eleni.

Dwy gêm arall nos Wener yw y Rhyl yn erbyn Aberystwyth a Llandudno yn wynebu Derwyddon Cefn, gemau pwysig i’r pedwar clwb.

Mae’r tair gêm arall y Sadwrn hwn ac un o’r rheiny ar Sgorio. Am yr ail Sadwrn yn olynol mae Bangor yn ôl yn Park Hall, wedi colli yno yng Nghwpan Cymru wythnos yn ôl. Mi wnaethon nhw gryn gamp yn cadw’r Seintiau Newydd i gêm ddi-sgôr erbyn diwedd y gêm. Mi aethon nhw ar y blaen yn yr amser ychwanegol – efo deg dyn – ond colli 2-1 yn y diwedd.

Sawl un o’u chwaraewyr fydd ar gael iddyn nhw yr wythnos hon wedi cerdyn coch ac anafiadau yw’r cwestiwn. Fydd hyn ddim yn pryderu dim ar y Seintiau sy’n gobeithio ail-ddechrau ennill yn y gynghrair unwaith eto. Mi ddalian i gadw’r gaer rhag ei bylchu mae’n siŵr.

Mae MET Caerdydd yn cael chwarae gartref am unwaith a’r Hen Aur yn ymweld. Y rhain yw gelynion y myfyrwyr ers y rhaniad ac mae Caerfyrddin driphwynt ar y blaen yn y tabl. Pan oeddan nhw yno y tro diwethaf ar ddiwrnod ola’r flwyddyn mi enillodd tîm Mark Aizlewood 1-3 a mynd ymlaen wedi hynny i aros yn yr hanner uchaf.

Mi fydd hi yr un mor gystadleuol y tro hwn ac mae’n ddigon posibl y bydd Caerfyrddin yn rhy gryf iddyn nhw.

Y clwb sydd ar y gwaelod fydd yn y Drenewydd. Mae’n debyg iawn y bydd tîm Chris Hughes yn ormod i Airbus er iddyn nhw golli iddyn nhw y tro diwethaf y daethon nhw yno. Mae’r Drenewydd wedi cael ailwynt ers hynny.

Rhannu |