Pêl-droed
Bangor i ymdrechu i roi’r drydedd gweir i’r Seintiau
O leia’ fydd y Seintiau Newydd ddim yn ennill pedwar teitl eleni. Mi aethon nhw allan o gwpan Irn-Bru heb ennill fawr o glod, na pharch na bri. Doedd St Mirren ddim am adael iddyn nhw gamu i’r ffeinal ac roedd ail hanner y gêm yn wers i’r tîm o Park Hall: mae meistr ar Mistar Mostyn.
Mewn hanner cyntaf braidd yn ddi-batrwm mi wnaethon nhw lwyddo i gadw sosban St Mirren rhag codi i’r berw a chafwyd perl o gôl gan Ryan Brobbel. Ond yn unol â’r hen ddisgrifiad, gêm o ddau hanner oedd hon. Roedd yr Albanwyr wedi cael ffon ar eu cefnau yn yr egwyl a phregeth sut i fynd ati i ennill y gêm. Doedd y Seintiau ddim ynddi ac os oedden nhw’n mynd ymlaen roedd chwaraewyr St Mirren yn ôl amdanyn nhw. Wedi i Stephen McGinn sgorio’r gôl gyntaf, oedd yn rhagori ar un Brobbel, doedd dim troi’n ôl.
Pan gafodd yr Albanwr Steven Saunders gerdyn coch mi aeth o ddrwg i waeth i’r Seintiau. Ac mi gafodd eu gwrthwynebwyr y bedwaredd gôl cyn y diwedd i gloi pnawn o ddiflastod iddyn nhw.
Y rhai hapusaf wrth weld tîm Croesoswallt yn tuchan a thagu oedd y rhai fydd yn eu wynebu y Sadwrn hwn. Rownd wyth olaf Cwpan Cymru yw hi y tro hwn a Bangor sy’n ymweld â Park Hall. Mi fyddan nhw’n cofio fod y Seintiau wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf, Caerfyrddin a fraenarodd y tir i St Mirren.
Ai Bangor fydd y trydydd clwb i’w curo mewn tair wythnos? Dyw’r Dinasyddion ddim wedi curo yn Park Hall ers Tachwedd 2011. Ers hynny mae’r clwb wedi taro’r gwaelodion bron cyn cael gafael ynddi unwaith eto y tymor hwn a hanner bygwth bod ymhlith y tri cyntaf yn yr Uwch Gynghrair.
Mi fyddai’r chwaraewyr yn y crysau gleision y cyntaf i gyfaddef na fyddan nhw’n medru curo’r Seintiau os byddan nhw’n gwanhau cymaint yn yr ail hanner ag y gwnaethon nhw y Sadwrn diwethaf. Yn yr hanner cyntaf yn erbyn MET Caerdydd roeddan nhw ar dân, yn sgorio tair yn weddol rhwydd.
Stori wahanol oedd hi yn yr ail hanner a’r myfyrwyr yn codi stêm a sgubo Bangor o’r neilltu. Mi gawson nhw ddwy gôl ymhen dim ac roedd pob arwydd y bydden nhw’n cael rhagor. Oni bai am golwr Bangor mi fydden nhw wedi dod yn gyfartal.
Anodd iawn yw gweld y tim o Nantporth yn ennill yn erbyn y Seintiau, a’r newydd drwg yw y byddan nhw’n ôl yno yr wythnos wedyn yn eu gêm gynghrair nesaf.
Dewis mynd i Brestatyn i weld y gêm gwpan yn erbyn eu hen elynion, Gap Cei Connah, y mae Sgorio. Dyw’r clwb a ddisgynnodd o’r Uwch Gynghrair ddau dymor yn ôl ddim wedi colli gêm yn y Gynghrair Undebol y tymor hwn. Maen nhw wedi bod yn ergydio goliau wrth y llath hefyd.
Mae hon yn ddewis da i’w dangos gan fod Prestatyn yn gwneud cymaint o argraff yn yr Huws Gray a Cei Connah wedi cloffi ychydig yn eu gêmau diwethaf a gadael y Bala neidio i’r ail safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair. Mi allwn ddisgwyl dipyn o hwyl yn hon.
Y Bala yw’r unig glwb arall o’r Uwch Gynghrair sy’n dal ar ôl yn y Cwpan. Maen nhw yng Nghegidfa, eto o’r Gynghrair Undebol a’r clwb o’r pentref ger y Trallwng wedi trechu MET Caerdydd i gyrraedd yr wyth olaf. Mi fydd y Bala yn fwy o her iddyn nhw, yn enwedig am y bydd eu cynffonnau i fyny ers y Sadwrn diwethaf wedi curo Caerfyrddin.
Mae gan Gaernarfon daith i Lanfair Caereinion gan obeithio y bydd y lwc a gawson nhw yn erbyn y Rhyl yn y rownd ddiwethaf yn para.