Pêl-droed

RSS Icon
13 Chwefror 2017

'Y Seintiau Newydd yw Celtic Uwch Gynghrair Cymru' - Owain Tudur Jones

Yn dominyddu Uwch Gynghrair Cymru Dafabet, mae'r Seintiau Newydd yn efelychu llwyddiant cewri'r Alban, Celtic, yn ôl cyn chwaraewr pêl-droed Cymru, Owain Tudur Jones.

Yn gynharach y tymor yma, fe dorrodd pencampwyr Cymru record y byd a ddaliwyd gan Ajax am 44 o flynyddoedd am y nifer o fuddugoliaethau yn olynol, ar ôl rhediad di-dor o 27 buddugoliaeth.

Ac ar ôl iddyn nhw ennill Cwpan Cynghrair Nathaniel MG ym mis Ionawr, mae gobeithion y tîm llawn amser o ennill pedair cystadleuaeth eleni yn dal yn bosibl.

Wedi iddyn nhw gael eu gwahodd i chwarae yng Nghwpan Irn Bru Yr Alban y tymor yma (gyda'r Bala a dau dîm o Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon, Crusaders a Linfield yn gwmni), y Seintiau yw'r unig dîm o'r tu allan i'r Alban fydd yn cystadlu yn y rowndiau cynderfynol.

Paisley fydd y lleoliad ar gyfer eu gêm gynderfynol, wrth iddyn nhw herio'r tîm o Bencampwriaeth Yr Alban, St Mirren, ddydd Sul, 19 Chwefror, yn fyw ar Sgorio ar S4C.

Bydd cyn chwaraewr canol cae Inverness Caledonian Thistle, Hibernian a Falkirk, Owain Tudur Jones, yn rhan o dîm Sgorio ar gyfer y gêm.

Meddai Owain, a enillodd saith gap dros Gymru yn ystod ei yrfa: "Mae'r Seintiau Newydd yn sefyll pen ac ysgwyddau yn uwch na phawb yn Uwch Gynghrair Cymru.

"Mae'r bwlch wedi mynd yn enfawr y tymor yma ac mae'n rhaid i ni werthfawrogi'r rhediad maen nhw wedi ei gael; mae'n rhywbeth hanesyddol.

"Ond petai hynny'n digwydd bob tymor, fe allai pethau fynd yn ddiflas.

"Nid Cymru yw'r unig wlad lle mae hyn yn digwydd. Mae union yr un peth yn digwydd yn Yr Alban efo Celtic, ac maen nhw 'di ennill pum cynghrair yn olynol.

"Mae'r Seintiau fel fersiwn Cymru o Celtic, ac maen nhw wedi bod felly ers amser."

Y trip i Paisley fydd trydydd trip y Seintiau i'r Alban eleni, wedi iddyn nhw fwynhau buddugoliaeth gofiadwy yn y bedwaredd rownd dros y tîm ar frig Adran Dau, Forfar Athletic, o 3 gôl i 1, ac yna yn trechu'r tîm sy'n arwain Adran Un, Livingston, 3-0 ,yn rownd yr wyth olaf.

Queen of the South neu Dundee United fydd yn wynebu enillydd gêm y Seintiau yn y rownd derfynol ym mis Mawrth.

"Maen nhw wedi profi wrth guro Livingston eu bod nhw'n gyfforddus yn erbyn timau o'r safon yma," ychwanega Owain.

"Dwi'n meddwl erbyn rŵan, mae'n rhaid i glybiau'r Alban barchu'r Seintiau Newydd.

"Does dim os nac oni bai, mae gan y Seintiau'r gallu i guro St Mirren, ac ennill y gystadleuaeth."

Sgorio: St Mirren v Y Seintiau Newydd

Dydd Sul 19 Chwefror 3.45, S4C                  

Sylwebaeth ac isdeitlau Saesneg ar gael     
Ar gael ar alw ar s4c.cymru, iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

Rhannu |