Pêl-droed

RSS Icon
12 Awst 2011
Androw Bennett

Y prawf go-iawn

WEDI’R holl drafod a darogan am ffawd yr Elyrch yn nhymor cyntaf clwb o Gymru’n Uwch Gynghrair Lloegr yn yr oes fodern, daw’n cyfle cyntaf nos Lun i weld sut y bydd y rheolwr, Brendan Rodgers, yn dygymod â gweithio ymhlith ac yn erbyn rhai o glybiau pêl-droed mwya’r Deyrnas Unedig, gyda nifer dethol ohonynt ymhlith y mwyaf yn Ewrop, os nad yn yr holl fyd.

O’u cymharu gyda’r miliynau dirifedi o bunnoedd sydd ar gael yng nghoffrau Manchester City i brynu chwaraewyr (ynghyd â thalu cyflog bras i Craig Bellamy er ei adael yn segura wrth ymylon prif garfan y clwb), pitw iawn yw adnoddau ariannol Abertawe wrth baratoi ar gyfer yr ornest yn Eastlands ar ddechre’r wythnos nesaf.

Yn ôl rhai, gwelir yr ornest nos Lun fel cystadleuaeth rhwng y ffefrynnau i orffen y tymor ar frig yr Uwch Gynghrair a’r ffefrynnau i syrthio nôl i’r Bencampwriaeth ym mis Mai 2012. Gyda chynnwys carfanau wedi newid dros yr haf yn barod, fodd bynnag, ynghyd â’r posibilrwydd o fwy o brynu a gwerthu dros y tair wythnos nesaf, anodd yw gweld yn eglur sut y bydd y tymor yn datblygu, yn arbennig cyn chwarae’r un gêm gystadleuol.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |