Pêl-droed

RSS Icon
30 Ionawr 2017

Maes Tegid i weld pa mor dda yw tri newydd Bangor

A DYMA ni yn dechrau ail hanner y tymor a’r holl gêmau ar y Sadwrn.  Ym Maes Tegid y bydd camerâu Sgorio yr wythnos hon a phawb sy’n ymwneud a’r gêm yn rhoi dwy law ynghyd i ofyn am ornest debyg i’r un a welwyd o Gaernarfon y Sadwrn diwethaf.

Mae gêmau y Bala yn erbyn Bangor yn rhai digon cystadleuol fel arfer er efallai dydyn nhw ddim ar raddfa Caernarfon yn erbyn y Rhyl. Mae’r ddau glwb yn dal yng Nghwpan Cymru, yn wahanol i bump o dimau eraill yr Uwch Gynghrair oedd wrthi yn y  bedwaredd rownd.

Doedd Penybont ddim yn hawdd i’r Bala wrth i ddyn yr esgid aur, Rhys Griffiths, sgorio un yn eu herbyn.  Mi fu’n rhaid mynd i amser ychwanegol a bechgyn Colin Caton yn sgorio tair bryd hynny i ddangos eu bod nhw’n ddigon tebol o drechu timau o’r cynghreiriau is.

Brwydr yr Uwch Gynghrair oedd hi ym Mangor a Llandudno’n colli 4-0.  Y prif reswm oedd fod gan y Dinasyddion dri o chwaraewyr newydd yn eu tîm a bod dau o’r rheiny wedi sgorio yn eu gêm gyntaf. Mi lwyddodd Louis Robles i gael dwy a Gary Taylor-Fletcher, gynt o Leicester City, yn cael un.

Y dasg i Fangor fydd chwarae cystal y Sadwrn hwn yn y Bala.  Fydd hi ddim mor hawdd ag oedd hi yn erbyn Llandudno ar y carped ym Maes Tegid.  Mae’r Bala wedi gwella ers ymweliad diwethaf Bangor pan orffennodd yn gêm gyfartal 1-1.

Dyna pam y maen nhw yn y safle uwchben Bangor yn y tabl.

Mi fydd yn gofyn tipyn gan y Dinasyddion i ddal eu tir yn erbyn y Tegidiaid.
Un peth na fydd yno, y dorf o 1,150 a gawson nhw ar yr Oval o flaen y camerau. Gyrhaeddan nhw 400?

Mi gafwyd ymdrech Met Caerdydd yn brin yn erbyn Cegidfa (Guilsfield) yn y Cwpan. Maen nhw’n ôl bron yn yr un ardal yr wythnos hon a’r gwaith anniolchgar o geisio atal y pencampwyr. Rhaid iddyn nhw gystadlu’n well ac mae’n bosibl y gwnan nhw ar garped Park Hall.

Y gêm arall yn yr hanner uchaf yw honno yng Nghei Connah.  Caerfyrddin sy’n ymweld, wedi cael egwyl fer oherwydd eu methiant yn rownd ddiwethaf Cwpan Cymru.  

Mi aeth Gap i Hwlffordd a churo 5-1 a hynny’n dangos i Mark Aizlewood a’i dîm fod ganddyn nhw bnawn go anodd o’u blaenau.  Mi fydden nhw’n falch o’i chadw’n gêm gyfartal.

Y gêmau yn yr hanner isaf yw Aberystwyth v Airbus; Llandudno v Y Drenewydd a’r Rhyl yn erbyn Derwyddon Cefn.

Mae pedwar o’r clybiau yn llyfu eu clwyfau ar ôl colli i rai o adran is yn y Cwpan.  Roedd Aberystwyth gartref yn cael eu trechu 1-5 gan Brestatyn sydd wedi bod ar sbri sgorio ryfeddol y mis diwethaf.  Digon posibl y gall Aber golli eto y Sadwrn hwn gan fod Airbus wedi cryfhau eu carfan.

Fu ond y dim i’r Rhyl ei gwneud hi yng Nghaernarfon ond mi gollodd y Derwyddon 4-1 yn Llanfair Caereinion.  Mi all y Claerwynion fod yn ormod iddyn nhw y tro yma.

Mi fydd Alan Morgan a’i dîm am i Landudno ddangos o ba radd yw eu gwreiddyn yn erbyn y Drenewydd. Ond yn y ddwy gêm ddiwethaf mae hi wedi bod yn ddi-sgôr.

Rhannu |