Pêl-droed

RSS Icon
27 Ionawr 2017

Prawf arall i glwb o’r Uwch Gynghrair ar yr Oval

CYN mynd am ail hanner y tymor mae clybiau’r Uwch Gynghrair yn cystadlu ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru yr wythnos hon.  Roedd un gêm i fod y Sadwrn diwethaf rhwng Llanfair Utd a Derwyddon Cefn ond cafodd ei gohirio. O’r saith sy’n weddill mae Sgorio S4C wedi dewis y gêm rhwng Caernarfon a’r Rhyl.

Yn barod mae clwb yr Oval wedi curo un o dimau’r gynghrair uwch eu pennau, Caerfyrddin. Gartref oedd honno hefyd gyda thîm tref y Cofis yn mynd amdani ac yn rhoi bechgyn Mark Aizlewood yn eu lle. Mi aethon nhw’n ôl am y de a’u cynffonnau rhwng eu coesau wedi colli 3-1.

Mi fydd yn rhaid i’r Rhyl fod yn barod am gêm galed hefyd y Sadwrn hwn.  Amrywiol yw’r tymor wedi bod iddyn nhw, iselfannau ac uchelfannau er mis Awst. Pan oedden nhw’n chwarae ddiwethaf roedd ganddyn nhw ddigon o allu i rwystro Llandudno er iddyn nhw ildio gôl yn y diwedd i wneud y sgôr yn 2-2.

Yn y rownd ddiwethaf mi drechodd y Rhyl Benrhyncoch o’r un gynghrair â Chaernarfon. Yr unig wahaniaeth yw fod y Penrhyn yn agos i waelod tabl yr Huws Gray a Chaernarfon yn ail.  Ond gyda chwaraewyr fel Toby Jones a Carl Lamb mae gan y Cofis ddigon ar eu plât. Mi ddylai fod yn gêm ddifyr a phrawf pellach i’r Uwch Gynghrair fod yn bosib i rai clybiau ddenu digon o dorf.

Prestatyn sydd ar y blaen i Gaernarfon yn nhabl y Gynghrair Undebol. Yn Aberystwyth y byddan nhw ac yn gwybod yn dda am Goedlan y Parc wedi chwarae digon yno yn yr Uwch Gynghrair. Does wybod beth fydd Aber yn ei feddwl wrth weld fod tîm Neil Gibson wedi sgorio 24 o goliau y mis yma, 18 ohonyn nhw oddi cartref.

Roedd hi’n 1-11 yng Nghonwy ac 1-7 yn Rhuthun y Sadwrn diwethaf.  Mae hynny’n awgrymu fod gan Aberystwyth ddiwrnod a hanner o’u blaenau a bod Prestatyn a’u golygon ar godi’n ôl i’r Uwch Gynghrair.  Tymor braidd yn bethma mae Aber wedi’i gael a cholli gartref 0-2 a wnaethon nhw ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd. Mae’r gêm yn dechrau am 1.30.

Felly mae hi ym Mangor hefyd wrth i Landudno ymweld.  Goetre FC oedd i fod yno ond mi gawson nhw eu torri o’r gystadleuaeth am chwarae aelod oedd heb gofrestru yn erbyn Llandudno yn y rownd ddiwethaf.  Colli a wnaethon nhw yn Nantporth dros y Nadolig er iddyn nhw droi’r byrddau yr wythnos wedyn.  Wrth fod ambell newid wedi digwydd ym Mangor ers hynny mae’n anodd gwybod a fyddan nhw’n ddigon cryf i oroesi yn erbyn Llandudno y tro yma.

Hen enw o’r Uwch Gynghrair sydd yn Park Hall.  Pa obaith fydd gan Llanelli Town pan fethodd y Barri y Sadwrn diwethaf? Mi roddodd bechgyn Parc Jenner dipyn o gêm i’r Seintiau am 78 munud yn ffeinal Cwpan y Gynghrair ond wedi sgorio un mi ddaeth tair arall yn weddol rwydd wedyn. Beth a ddaw o’r tîm a gurodd Ynysgerwn 5-1 yn y drydedd rownd?

Un arf sydd ganddyn nhw yw Lee Trundle, un o ffefrynnau’r Uwch Gynghrair cyn iddi ymuno â Wrecsam ac Abertawe.

Mi fydd yn ddifyr gweld sut bydd yr hen goesau deugain oed yn dal yn erbyn cryfder y Seintiau.  Ar ddechrau’r tymor i Lanelli mi sgoriodd hatric. Mi fyddai un yn wyrth y tro hwn.

Y gêmau eraill yw y Bala v Penybont (2.30); Hwlffordd v Gap Cei Connah (2.30) a Cegidfa (Guilsfield) v Met Caerdydd (2.30).

 

Rhannu |